Mae’r llinell, sy’n rhedeg o Gyffordd Llandudno i Ogledd Llanrwst, wedi ailagor yn llawn i deithwyr.
Mae Network Rail a’i brif gontractwr, Alun Griffiths (Contractors) Ltd, wedi gweithio gyda’i gilydd i ailagor llinell Dyffryn Conwy i deithwyr cyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.
Cafodd y llinell ei chau ar 16 Mawrth oherwydd llifogydd sylweddol, a achoswyd gan gyfuniad o lanw uchel a system gwasgedd isel yn sgil storm Gareth.
Oherwydd y difrod helaeth, roedd angen gwaith atgyweirio sylweddol ar chwe milltir o drac, gorsaf Dolgarrog, deg croesfan wastad a naw o gwlfertau.
Ers cau’r llinell mae timau wedi symud ymaith deunyddiau tirlithriad, ailosod balast, ailwampio croesfannau gwastad, dylunio a gosod cwlfertau llifogydd ac adeiladu argloddiau, er mwyn adfer y trac yn ddiogel.
Bydd gorsaf Dolgarrog yn aros ar gau am y tro er mwyn gosod platfform newydd yn lle’r un a ddifrodwyd gan y llifogydd.
Yn ogystal â’r gwaith adfer mawr, mae Network Rail wedi cynyddu cyflymder y llinell trwy Faenan, ar y rhan rhwng Dolgarrog a Gogledd Llanrwst, o 30mya i 45mya.
Pan oedd y llinell ar gau, manteisiodd Network Rail ar y cyfle i gwblhau amrywiaeth o waith cynnal a chadw ac adnewyddu. Roedd hyn yn cynnwys adolygu’r terfyn cyflymder hwn, a osodwyd yn sgil llifogydd yn ystod y 1980au. Erbyn hyn mae terfyn cyflymder y llinell wedi’i gynyddu i 45mya unwaith eto, gan ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy i deithwyr.
Er mai gwaith brys oedd hwn, ymrwymodd Network Rail a Griffiths i ddefnyddio cyflenwyr lleol ar gyfer popeth o fariau atgyfnerthu (rebar) a choncrid i gyflenwyr bwyd, gan gynnwys sicrhau 9,500 o dunelli o arfogaeth greigiau a 3,000 o dunelli o falast o chwareli lleol.
Roedd cynaliadwyedd yn un o flaenoriaethau’r prosiect. Ailgylchwyd 91 y cant o’r deunyddiau tirlithriad a symudwyd o’r safle yn ystod y prosiect, ac ailddefnyddiwyd oddeutu 5,000 o dunelli o uwchbridd ar y safle.
Roedd yr holl staff oedd yn gweithio ar y prosiect yn gallu teithio i’r safle o fewn awr, ac mae’r holl lystyfiant a bonion coed wedi cael eu rhoi i gyfleuster ailgylchu lleol yn y Dyffryn i gael eu troi’n fiomas.
I ddathlu ailagor y llinell, mae Network Rail a Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn cynnig taith ar drên stêm ar ddydd Sadwrn 3 Awst.
Mae tocynnau ar gyfer y trên, a fydd yn rhedeg o Gaer i Flaenau Ffestiniog, ar gael i’r cyhoedd eu prynu am £75 i ddychwelyd trwy Trafnidiaeth Cymru ar 0844 856 0688.
Dywedodd Cyng. Philip C Evans, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy: “Mae hyn yn newyddion gwych a fydd yn cael eu croesawu gan holl ddefnyddwyr y rheilffordd yn yr ardal.
“Dylid llongyfarch Network Rail, ei staff proffesiynol a’i gontractwyr ar y gwaith ardderchog maen nhw wedi’i wneud i sicrhau bod y llinell ar agor mewn da bryd ar gyfer yr Eisteddfod yn Llanrwst.
“Mae’n newyddion gwych bod Network Rail yn nodi ailagor y llinell mewn ffordd arbennig a fydd hefyd yn nodi dechrau’r Eisteddfod yn Llanrwst.”
Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Network Rail, Cymru a’r Gororau: “Hoffem ddiolch i deithwyr a’r gymuned leol am eu hamynedd yn ystod y gwaith i atgyweirio’r difrod helaeth i linell Dyffryn Conwy.
“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol i Gymru, ac wrth ein bodd y gallwn ailagor y llinell i deithwyr cyn y digwyddiad gwych hwn.
“Rydym wedi gweithio’n agos â’n partner, Griffiths, i gwblhau’r gwaith atgyweirio mawr hwn ar y llinell, a gyda Thrafnidiaeth Cymru, i gadw teithwyr i symud, gan ddarparu bysiau yn lle trenau pan oedd y llinell ar gau.”
Dywedodd Shaun Thompson, Cyfarwyddwr Rheilffyrdd Griffiths: “Rwyf wrth fy modd bod ein tîm yng ngogledd Cymru wedi cydweithio unwaith eto â Network Rail, er mwyn ailadeiladu ac ailagor llinell Dyffryn Conwy mewn pryd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.
“Cafodd y gwaith ei wneud mewn modd diogel a chynaliadwy. Rydym wedi cyflogi pobl leol, defnyddio cyflenwyr lleol ac wedi ailgylchu mwy na 90 y cant o’r deunydd llifogydd.
“Hoffem ddiolch i deithwyr a’r gymuned leol am eu hamynedd yn ystod y gwaith.”
Dywedodd James Price, CEO Trafnidiaeth Cymru: “Mae’n newyddion gwych bod Rheilffordd Dyffryn Conwy yn ailagor ar ôl misoedd o waith caled gan ein partneriaid yn Network Rail ac mae’n wych y bydd ein gwasanaethau yn rhedeg yno eto i’n cwsmeriaid.
“Hoffwn ddiolch i’n cwsmeriaid am eu hamynedd yn ystod y cyfnod anodd hwn a diolch hefyd i’r holl staff sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y llinell yn cael ei hailagor mewn pryd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Fel un o brif noddwyr y digwyddiad eleni, mae Trafnidiaeth Cymru yn edrych ymlaen at ddarparu cludiant ar gyfer y digwyddiad yn Llanrwst a pharhau i gadw pobl Cymru i symud.”