Bydd Swyddog Rheilffordd Cymunedol newydd yn dechrau yn ei swydd yn Nyffryn Conwy y mis hwn.
Gan weithio i Bartneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy, bydd y swyddog newydd, Karen Williams, yn creu cysylltiadau â chymunedau ar hyd y dyffryn, o Landudno i Flaenau Ffestiniog, ac ar hyd gorllewin Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru o Gyffordd Llandudno i Gaergybi.
Ers lansio eu Gweledigaeth ar gyfer Rheilffyrdd Cymunedol y llynedd, mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i weithredu ei rhaglen fuddsoddi mewn cymunedau ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.
Bydd y swydd newydd hon yn cysylltu pobl yng ngogledd Cymru â’u rheilffordd, ac yn sicrhau buddion cymdeithasol ac economaidd, gan ganolbwyntio ar deithio cynaliadwy a hygyrch i bobl leol yn ogystal â thwristiaid.
Yn llawn cyffro ynglŷn â dechrau’r rôl newydd, dywedodd Karen Williams:
“Trwy greu cysylltiadau ac annog cydweithredu rhwng busnesau a sefydliadau cymunedol lleol, gallwn alluogi’r cymunedau hynny i gydweithio’n well gyda’i gilydd ar ystod eang o faterion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chymunedau ledled y rhanbarth. ”
“Rwyf wedi gweithio yn y gymuned leol ers blynyddoedd lawer bellach, a gyda Chreu Menter ers bron i ddwy. Rwyf wedi fy nghyffroi gan y cyfle i ddod â fy mhrofiad o gydweithio gyda sefydliadau allanol i’r rôl. ”
Mae Trafnidiaeth Cymru yn ariannu Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy yn rhannol, er mwyn cyflawni ei weledigaeth ehangach ar gyfer rheilffyrdd cymunedol. Mae’r bartneriaeth yn cael ei chynnal gan Greu Menter, menter gymdeithasol sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cymunedau, gwirfoddoli a chyfleoedd cyflogaeth.
Dywedodd Hugh Evans, Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol yng ngwasanaethau Trafnidiaeth Cymru:
“[Rydym yn] falch o groesawu Karen a Chreu Menter i deulu’r Rheilffyrdd Cymunedol. Rydym yn gwybod y gall Rheilffyrdd Cymunedol greu newid gwirioneddol er gwell ar draws ein rhwydwaith, gan helpu i wneud teithio ar reilffordd yn fwy hygyrch a chynhwysol, sydd yn ei thro yn creu budd economaidd go iawn, ac yn gyfle, yn ystod yr amseroedd heriol hyn, i gefnogi iechyd a lles meddyliol pobl yn ein cymunedau. ”