Uchafbwyntiau lein Dyffryn Conwy: O dan y chwyddwydr: Llanrwst

Cyn i ni gyrraedd Llanrwst a’i chyfareddau, rhaid tynnu eich sylw un peth bach, fel na fyddwch chi’n drysu wrth fentro allan am y diwrnod! Nid dim ond un orsaf rheilffordd sydd i’r gymuned hon, OND DWY, sef Llanrwst a Gogledd Llanrwst, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymwybodol o ble rydych am adael y trên. Mae gorsaf Llanrwst yn daith gerdded fer i’r sgwâr, a hithau yw prif arhosfan y dref, tra bod Gogledd Llanrwst wedi’i leoli ar ei gyrion, ac mae’n daith gerdded braf o ryw ddeng munud i ganol y dref.

Wrth galon Dyffryn Conwy, mae Llanrwst yn dref farchnad hanesyddol sy’n swatio’n ddwfn yng nghysgodion mynyddoedd gogoneddus Eryri i’r naill ochr, a chopaon Mynydd Hiraethog i’r llall. Mae iddi awyrgylch braf a hamddenol, sy’n ei wneud yn lle perffaith i dreulio diwrnod allan.

Cyfleusterau gorsaf Llanrwst:

  • Bwrdd amseroedd Cyrraedd & Gadael;
  • Ffôn cyhoeddus (sy’n derbyn cardiau ac arian mân);
  • Mynediad ramp at y trên;
  • Nid yw’n addas i ddefnyddwyr cadair olwynion.

Cyfleusterau gorsaf Gogledd Llanrwst:

  • MAE HON YN ORSAF AR GAIS
  • Bwrdd amseroedd Cyrraedd & Gadael;
  • Mynediad ramp at y trên;
  • Mynediad di-ris i’r orsaf;
  • Rheseli beiciau.

Gorsafoedd Llanrwst – yr hanes

Gogledd Llanrwst: Fe agorwyd yr orsaf yn swyddogol ym mis Mehefin 1863 fel terfynfa’r Rheilffordd Conwy & Llanrwst. Ym 1867, cymerodd LNWR (London & North Western Railway) yr awenau ac fe symudwyd yr orsaf ym 1868. Ymestynnodd LNWR y lein hyd at bentref Betws-y-coed ym 1869.

Newidiwyd yr enw i Llanrwst and Trefriw ym 1884, ac ym 1974 dychwelwyd yr enw yn ôl i’r gwreiddiol (Llanrwst), ond bellach yr enw arni yw Gogledd Llanrwst, er mwyn i orsaf newydd gymryd enw’r dref. Mae Trefriw dim ond ychydig o filltiroedd o Lanrwst, ar ochr arall yr Afon Conwy, a gellir ei gyrraedd ar droed dros bont sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, y Gower Suspension Bridge. Beth am rhoi tro ar y daith gylchol o Lanrwst i Drefriw? Cewch ragor o fanylion yma.

Llanrwst: Mae gan orsaf wreiddiol y dref chwaer fach bellach, sef gorsaf Llanrwst. Agorwyd yr orsaf gan British Rail ym 1989, felly mae wir yn orsaf ifanc ar y rheilffordd hanesyddol hon. Mae wedi’i leoli yn llawer agosach at ganol y dref, a dyma’r brif orsaf i Lanrwst ac y mae pob gwasanaeth yn galw yma. Nid yw trenau bellach yn galw yng Ngogledd Llanrwst (ac eithrio ar gais).

Hanes y dref

Mae hanes hynod ddiddorol i dref Llanrwst. Erbyn heddiw, daw prif incwm y dref o dwristiaeth, ond yn wreiddiol fe ddatblygodd fel canolfan amaethyddiaeth. Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd yn ganolbwynt pwysig i’r fasnach wlân ac am nifer o flynyddoedd, penodwyd yma bris gwlân i Brydain gyfan.

Yn ystod y 13eg ganrif, rhoddodd Edward I o Loegr – un gwaradwyddedig am ei orchfygiad systematig o Gymru – hwb anfwriadol i ddatblygiad Llanrwst, trwy wahardd unrhyw Gymro rhag masnachu o fewn deng milltir i Gonwy, un o safleoedd ei gestyll. Tra mai Conwy oedd parth masnachwyr o Loegr yn unig, yn Llanrwst ffynnodd masnach Gymreig.

Yn 1610 adeiladodd Syr John Wynn, tirfeddiannwr lleol, Elusendai Llanrwst. Bwriad Wynn oedd lleddfu dioddefaint y tlodion gwaethaf yn ei blwyf, a bu’r elusendai’n lloches am dros dri chan mlynedd. Caeodd yr elusendai ym 1976, gan ddirywio’n wael, ond fe gawsant eu hadfer ym 1996 gyda chymorth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Gallwch ymweld â’r elusendai heddiw; dilynwch y llwybr cul o sgwâr y dref i gyfeiriad Eglwys St Grwst.

Crwydro Llanrwst hanesyddol

Os oes ychydig oriau yn sbâr gennych, fyddai dilyn Llwybr Tref Llanrwst yn ffordd wych o ganfod y mannau diddorol sydd gan y dref i’w chynnig . Mae’r llwybr cerdded byr hwn yn cynnwys rhai o adeiladau hanesyddol pwysicaf y dref.

Cymerwch eich amser, oedwch am banad, a phorwch drwy rhai o’r nifer wych o siopau annibynnol wrth i chi gerdded!

1. Yr hen King’s Head Hotel

Dyddia’r adeilad hwn, a leolir yn Sgwâr Ancaster, o ddiwedd yr 17eg ganrif. Ganed y gwneuthurwr telynau John Richards yma ym 1711. Roedd ei noddwyr yn cynnwys y Frenhines Charlotte, gwraig Brenin Siôr III, ac mae’n debyg mai ef oedd gwneuthurwr y delyn sydd ar ddangos yn amgueddfa’r V&A yn Llundain heddiw. Mae’n delyn hynod o gywrain ac mae’n cynnwys y blaenlythrennau ‘JR’. Ar un adeg roedd y delyn yn y V&A yn eiddo i Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, noddwr pwysig celfyddydau Cymru yn ystod oes Fictoria.

Ym 1891, roedd papur newydd Cymraeg mewn cylchrediad yn yr Unol Daleithiau, ar gyfer Americanwyr Cymreig, o’r enw Y Drych. Mewn un rhifyn o ddechrau’r 20fed ganrif, nodwyd fod y King’s Head wedi’i werthu i’r tenant, Mrs Owen, am y swm sylweddol o £1,625. Dywedodd y papur newydd: “Rhaid bod elw i’w gael o werthu diod i ffyliaid.”

2. Regent House

Ar gornel gyferbyn yr hen King’s Head, mae adeilad sydd bellach yn gartref i Dŷ Asha Balti House, bwyty Indiaidd arobryn. Ar un adeg, roedd yn siop ddillad o’r enw Regent House, ac yn nodedig am fod yr adeilad talaf yn Llanrwst. Roedd hyd y oed yn ddigon tal i’r frigâd dân lleol ei ddefnyddio i ymarfer eu driliau dianc yn yr 1900au!

William John Williams oedd perchennog y ddilladfa yn Regent House. Roedd yn swyddog cyhoeddus uchel ei barch, yn dal swyddi fel ynad, cynghorydd Rhyddfrydol a chadeirydd y cyngor. Roedd ei fusnes yn cyflenwi crysau, cotiau a festiau i’r wyrcws lleol.

Priododd un o blant William, Richard, â merch o’r enw Jennie ym 1906. Ar ôl seremoni yn Llanrwst, gadawodd y pâr am America. Dechreuodd Richard (a elwir yn lleol fel ‘Dick Regent’) swydd reoli mewn siop adrannol yn Los Angeles, gan ysgrifennu sgriptiau sinema yn ei amser rhydd. Derbyniwyd un o’i sgriptiau, Charlie Chaplin Enlists, gan Chaplin ei hun!

3. Eglwys St Grwst

Saif yr eglwys hon ar yr un safle â’r eglwys wreiddiol a adeiladwyd yn y 1470au. Penderfynwyd lleoliad ar gyfer yr eglwys mor bell yn ôl â 1170, pan roddodd Rhun ap Nefydd Hardd dir ar gyfer eglwys newydd a gysegrwyd i Grwst y Cyffeswr. Aeth yr eglwys ymlaen i fwynhau cefnogaeth a nawdd digynsail am ganrifoedd lawer.

Roedd Nefydd Hardd, tad Rhun (ac un o sefydlwyr y pymtheg llwyth bonheddig yng ngogledd Cymru), yn gyfrifol am farwolaeth y Tywysog Idwal o Wynedd. Roedd y tywysog wedi derbyn gwahoddiad i hela gyda Rhun pan ymosodwyd arno, ac fe’i boddwyd gan herwyr a oedd yng nghyflog Nefydd. Roedd gymaint o gywilydd gan Rhun am weithredoedd ei dad nes iddo dalu penyd trwy sefydlu’r eglwys yn Llanrwst.

Roedd tad Idwal, y brenin Owain Gwynedd, mor ofidus, fe orchmynnodd y byddai safle marwolaeth ei fab yn dwyn enw Idwal am byth, ac erbyn heddiw mae ymwelwyr yn eu miloedd yn heidio i gerdded a mwynhau’r golygfeydd o amgylch Llyn Idwal. Yn ôl y chwedl, does yr un aderyn yn hedfan nac yn canu uwchben y llyn fel arwydd o barch at y tywysog ifanc.