Mae’r Nadolig yn dymor i dreulio amser gydag anwyliaid, rhannu anrhegion a … bwyta gormod? Wel, wrth gwrs – ac mae’r holl fwyd chwaethus hwnnw’n cymryd ei doll!
Y rhan gwaethaf o orwneud pethau yw teimlo’n swrth. Does neb eisiau cwympo i gysgu ar y soffa a cholli allan ar amser mor braf o’r flwyddyn!
Un awgrym felly, fyddai magu traed yn lle magu bol, a mynd am dro i dreulio’ch cinio. Does dim rhaid mynd yn bell o Reilffordd Dyffryn Conwy i ddod o hyd i deithiau cerdded hardd a hawdd. Cymerwch anadl ddofn o awyr iach gogledd Cymru i glirio’ch pen a miniogi’ch ymennydd unwaith eto i chi gael chwarae gemau gyda’r nos.
Felly bachwch docyn diwrnod rhad ar gyfer lein Dyffryn Conwy a gadewch i ni fynd am dro Nadoligaidd.
Cylchdro’r Gogarth, Llandudno
’Dan ni’n eich herio i feddwl am daith pedair milltir fwy ysblennydd yn y wlad na’r cylchdro o amgylch y Gogarth.
Uwch eich pennau, mae’r clogwyni calchfaen 320 miliwn mlwydd oed yn adlewyrchu haul gwantan y gaeaf, tra bod y môr yn berwi cannoedd o droedfeddi oddi tanoch. Er mai ffordd gyhoeddus ydi hi, mae llwybr troed yr holl ffordd o’i chwmpas, gyda digon o feinciau i stopio a gorffwys, ac wrth gwrs – gyda gofal – digonedd o lefydd i archwilio.
Os ’dach chi’n teimlo’n egnïol, cymerwch dro i fyny at Eglwys Sant Tudno, addoldy sydd â’r gwynt yn ysgubo drosto, a chael cipolwg o’i chwmpas. Hon oedd eglwys wreiddiol Llandudno, ac mae’n sefyll ar safle eglwys gynharach a adeiladwyd yn y chweched ganrif.
Yn ôl ar Marine Drive mi fyddwch chi’n pasio goleudy (sy bellach yn llety gwely a brecwast), ac ychydig ymhellach ymlaen fe welwch Ffynnon Gaseg yn cysgodi mewn wal. Adeiladwyd y ffynnon i ddarparu dŵr i geffylau wrth adeiladu’r ffordd.
Gan droi yn ôl tuag at Ben Morfa fe gewch fwynhau’r golygfeydd gwych hyd at Ynys Môn, Ynys Seiriol a mynyddoedd y Carneddau ac Eryri, cyn i chi ddychwelyd i Landudno wedi eich adfywio ac, a feiddiwn ni ei ddweud, yn ffansio mins pei arall?
Llyn Elsi, uwchben Betws-y-Coed
Byddwch yn sicr o adfer unrhyw orwneud Nadoligaidd gyda’r daith gerdded bedair milltir hon! O’r orsaf drenau ym mhentref alpaidd Betws-y-Coed, anelwch am yr eglwys yng nghanol y pentref. Cerddwch i fyny un o’r ffyrdd wrth ei hochr, a thu ôl i’r iddi fe ddewch o hyd i giât a bwrdd gwybodaeth sy’n arwyddo cychwyn y daith.
Cymerwch anadl ddofn, oherwydd mae’r darn gyntaf yn serth, ond mae yna fainc hanner ffordd i fyny os oes angen gorffwys arnoch chi. Cyn bo hir, mi fydd y llwybr caregog yn gwastatáu cyn plethu ei ffordd trwy gonwydd tal Coedwig Gwydir, gan ddod allan ar lannau llonydd Llyn Elsi. Gwerthfawrogwch y foment honno pan gyrhaeddwch y lan, pan na allwch weld dim ond dŵr, coed a mynyddoedd. Bendigedig!
Ar ôl i chi grwydro o gwmpas yr olygfan gyda’i graig fawr, gallwch ddewis un ai cerdded o amgylch y llyn yn glocwedd, neu gerdded yn erbyn y cloc. Os ydych chi’r math o gerddwr sy’n colli’ch ffordd yn hawdd, mae’r llwybr ychydig yn well i’w ddilyn os cerddwch o amgylch y llyn i gyfeiriad gwrthglocwedd. Mae’r llwybr yn glir iawn, felly byddai’n rhaid gwneud ymdrech mawr i fynd ar goll!
Hyd yn oed wrth fynd yn hamddenol, a chymryd eich amser i fwynhau’r golygfeydd, mae’n daith gerdded na ddylai gymryd mwy na dwy awr i’w cwblhau. Adref mewn hen bryd felly i glywed araith y Cwîn.
Dyffryn Lledr, ger Dolwyddelan
Mae lein Dyffryn Conwy yn crwydro drwy Ddyffryn Lledr ar ôl aros ym Metws-y-Coed, ac mae’n lle hyfryd o dawel. Mae’n dilyn nentydd a rhaeadrau Afon Lledr cyn cyrraedd pentref distaw Dolwyddelan, yng nghalon y dyffryn. Os gadewch y trên yma, fe gewch deithiau cerdded gwych i bob cyfeiriad.
Mae ein taith ni yn gadael Dyffryn Lledr mewn gwirionedd, gan fynd i’r de at Gwm Penamnen. Yn llai na dwy filltir o hyd, mae’r daith gwastad hon yn pasio man picnic tawel ar lan yr afon – er mai bwyd fyddai’r peth olaf ar eich meddyliau – ac adfeilion annedd hynafol. Mi fyddwch yn crwydro trwy goedwig, gweld rhaeadrau hyfryd, ac yn annhebygol iawn o gwrdd â dim un enaid arall.
O faes parcio’r orsaf trowch i’r chwith at y ffordd, i’r chwith eto dros y bont, wedyn unwaith eto i’r chwith nesaf. Dilynwch y llwybr goedwig ar eich llaw dde er mwyn gadael y pentref. Yn y pen draw, byddwch yn cyrraedd fforch – cadwch i’r dde a pharhewch i lawr tuag at yr afon. Trowch i’r dde eto oddi ar y prif lwybr ac yna ewch i lawr llwybr naturiol at yr afon. Croeswch y bont droed i’r man picnic.
Wedyn trowch i’r dde i’r lôn, gan basio adfeilion Tai Penamnen. Mae’n anodd credu bod hwn, ar un adeg, wedi bod yn gartref mawreddog i Maredudd ab Ieuan, sylfaenydd llinach bwerus y Wyniaid, a oedd yn berchen ar ran fwyaf o dir yr ardal yn y 15fed ganrif.
Cariwch ymlaen ar hyd y lôn yn ôl at y pentref. Cadwch lygad allan am fwy o raeadrau wrth i’r afon disgyn i lawr tuag at Ddolwyddelan.
Taith Rhaeadr a Llyn, Blaenau Ffestiniog
Yn cuddio y tu ôl i dai teras llechi Blaenau mae llynnoedd a rhaeadrau na chlywyd amdanynt gan lawer o ymwelwyr.
O’r orsaf, anelwch am y stryd fawr a throwch i’r dde. Wedyn cerddwch am tua hanner milltir i bentref Bethania, heibio i dafarn Y Manod. Pasiwch droad ar y dde ger blwch postio, wedyn ar ochr chwith y ffordd fe welwch drac yn arwain at gamfa y tu ôl i’r tai. Mae’r gamfa yn dod â chi at drac lle byddwch chi’n troi i’r chwith.
Mae’r trac hwn yn troelli i’r dde, ac yn dringo i fyny dros raeadr Afon Du-Bach, sy’n weladwy o wahanol bwyntiau ar hyd y daith. Mae’n bosib crwydro ychydig oddi ar y llwybr yma, gan adael y trac ychydig cyn arglawdd creigiog, i gael cipolwg agosach ar y rhaeadr.
Yna mae’r trac yn troi i’r dde i ddringo heibio tomenni llechi at gronfeydd Llyn Dwr-oer. Ychydig cyn eu cyrraedd, mae’r llwybr yn troi i’r dde eto, gan basio inclein rhwng y cronfeydd dŵr, cyn troi nôl i’r chwith i ddringo i fyny at lyn diarffordd Llyn y Manod, a diwedd y daith. Cymerwch saib bach yma, ’dach chi wir yn ei haeddu!
Nawr, does dim ond i chi olrhain eich camau yn ôl at Flaenau, a mwynhau’r golygfeydd wrth i chi fynd am adref.
Rhannwch eich hoff deithiau cerdded gaeafol gyda ni ar Facebook neu Twitter – ‘dan ni wastad yn chwilio am ein hantur nesaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy!