Mae’r trên newydd sbon cyntaf a ddadorchuddiwyd gan Trafnidiaeth Cymru wedi’i enwi’n ‘Happy Valley’ yn dilyn cystadleuaeth genedlaethol i bobl ifanc.
© Trafnidiaeth Cymru – Tabitha Shields with (left to right) Richard Garner, CAF’s UK Director, Lesley Griffiths MS, Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd and James Price, Transport for Wales CEO.
I ddathlu’r cyfle unwaith mewn cenhedlaeth o drenau newydd sbon yn dod i Gymru a’r Gororau, cynhaliodd TrC gystadleuaeth wedi’i hanelu at blant ysgol 4-11 oed i enwi’r trenau newydd.
Mae rhaglen ‘Taith Trên Odidog’ wedi bod ar waith ers dwy flynedd ac yn annog plant i ddod o hyd i enwau yn seiliedig ar le go iawn, tirnod, safle hanesyddol neu ffigwr chwedlonol sy’n gysylltiedig â lleoedd yng Nghymru a’r Gororau.
Roedd seren CBeebies Grace Webb a chyflwynydd poblogaidd S4C Trystan Ellis-Morris ymhlith beirniaid y gystadleuaeth gyffrous.
Ysgrifennodd Tabitha Shields, disgybl blwyddyn pump yn Ysgol Tudno yn Llandudno, Gogledd Cymru, gerdd o’r enw Happy Valley am y gerddi cyhoeddus poblogaidd o’r un enw yn y dref.
© Trafnidiaeth Cymru
Ar ôl gweld yr enw a ddewisodd ar gyfer y trên, dywedodd Tabitha: “Pan gefais i wybod fy mod wedi ennill, o ni’n methu credu’r peth, mae’n anhygoel!”
Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae wedi bod yn wych lansio ein trenau newydd; bydd hyn yn ein helpu i drawsnewid trafnidiaeth i bobl Cymru a’r Gororau.
“Llongyfarchiadau mawr i Tabitha am ennill ein cystadleuaeth. ‘Happy Valley’ yw’r enw cyntaf a roddir ar ein trên cyntaf, sy’n foment arbennig. Byddwn yn cyflwyno 147 o drenau newydd eraill ac edrychaf ymlaen at weld eu henwau i gyd.
“Yn TrC rydym yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydyn ni eisiau annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a pha ffordd well o gynnwys cenedlaethau’r dyfodol yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud, sef gofyn iddyn nhw ein helpu i enwi ein trenau.”
Lansiwyd y trenau Dosbarth 197, a adeiladwyd yng Nghymru gan y gwneuthurwr blaenllaw CAF fel rhan o fuddsoddiad gwerth £800m mewn trenau newydd gan Trafnidiaeth Cymru, yr wythnos diwethaf yng ngorsaf reilffordd Llandudno.