Mae Tenovus, sef prif elusen canser Cymru, wedi cael cyllid gan Trafnidiaeth Cymru a Phartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru i gefnogi eu côr ‘Sing with Us’ yn Llandudno a Bangor.
Mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru, lansiodd y Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol ei hail rownd o gyllid ym mis Medi 2022 i gefnogi gwytnwch a chynaliadwyedd mudiadau cymunedol o fewn radiws o 5 milltir o orsafoedd ar hyd y llwybrau Llandudno-Blaenau Ffestiniog a Chyffordd Llandudno-Caergybi. Wedi’i weinyddu gan Mantell Gwynedd, dyfarnwyd dros £10,000 o gyllid i fudiadau cymunedol ar gyfer ystod eang o weithgareddau. Bydd y cyllid hwn yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol ac yn cynnal eu gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.
Fel yr ymgeisydd llwyddiannus, cafodd Tenovus £1,000 er mwyn cefnogi’r syniad o sefydlu côr ‘Sing with Us’ ym Mangor a Llandudno. Bwriad y syniad oedd rhoi cyfle i bobl leol y mae canser yn effeithio arnynt i ymgymryd â gweithgaredd wythnosol sy’n darparu cymorth, cyfeillgarwch a hwyl.
Dywedodd Ceri, un o gantorion côr Bangor: “Wir i chi, doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n ymuno â chôr. Cefais ddiagnosis o ganser yn ystod Covid, ac roedd yn gyfnod unig iawn imi’n bersonol. Felly, pan awgrymodd ffrind y syniad, penderfynais roi cynnig arni er mwyn imi allu cwrdd â phobl newydd ac i’w ddefnyddio fel esgus i adael y tŷ.
“Roedd fy ngweithgareddau arferol yn ymwneud â chwaraeon, ond ar ôl colli cysylltiad â rhai o’r rheini am wahanol resymau, roeddwn i’n meddwl bod angen i mi ddod o hyd i rywbeth arall i’m herio. Rwy’n teimlo bod canu yn gyfuniad boddhaol o ymarfer corfforol (rheoli anadl) ac ymarfer ar gyfer y meddwl. Rydw i wedi cwrdd â phobl newydd, wedi cael profiad o ganu’n gyhoeddus, wedi cofrestru ar gyfer taith i Gaerdydd, ac rydw i’n cael hwyl bob wythnos. Dw i wrth fy modd.”
Dywedodd Andrew Roberts, Arweinydd a Chydlynydd y Côr: “Mae Côr ‘Sing with Us’ Llandudno yn ffordd wych i bobl y mae canser yn effeithio arnynt gael hwyl, mwynhad a boddhad.
“Mae’r côr yn dod â theimlad o les i’n holl aelodau ac, yn ogystal â phrofi’r holl hwyl rydyn ni’n ei gael yn ystod yr ymarferion, mae’r aelodau hefyd yn cael cyfle i berfformio a gweld sut mae eu perfformiadau’n cael effaith ar bobl eraill. Mae bod yn rhan o gôr yn galluogi ein haelodau i rannu eu cariad at ganu yn ogystal â chymdeithasu ag eraill sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser.”
Ychwanegodd Andrew: “Rwy’n ddiolchgar iawn am y cymorth rydyn ni wedi’i gael gan Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru. Mae’r cyllid a gawsom wedi talu am gost y lleoliad, a thrwy hynny mae wedi galluogi ein côr i gyfarfod ac i’n haelodau allu profi’r holl fanteision o fod mewn amgylchedd mor gadarnhaol.”
Dywedodd Claire Williams, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol: “Mae’r Gronfa Grant Cymunedol wedi cyrraedd cynulleidfa eang ac wedi bod o fudd i lawer o grwpiau cymunedol. Yn ystod y pandemig, roedd llawer o bobl yn teimlo’n ynysig, yn enwedig y rheini â chyflyrau meddygol. Er bod llawer o bobl sy’n cael diagnosis o ganser yn cael cymorth gan deulu a ffrindiau, mae Tenovous yn darparu grŵp cefnogi/gweithgareddau wythnosol iddynt allu cyfarfod pobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg. Mae ‘Sing with Us’ yn rhoi cyfle iddyn nhw greu grwpiau newydd o ffrindiau, yn gwella eu lles, ac yn darparu cymorth iddynt hefyd.”