Mae Claire Williams wedi cael ei phenodi’n Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol newydd ar gyfer Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd-orllewin Cymru.
Fel Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol, bydd Claire yn ymgysylltu â chymunedau ar draws y rhwydwaith o Landudno i Flaenau Ffestiniog a Chyffordd Llandudno i Gaergybi. Bydd y swydd yn cysylltu pobl yng Ngogledd Cymru â’u rheilffyrdd, gan sicrhau manteision cymdeithasol ac economaidd, gan ganolbwyntio ar dwristiaeth gynaliadwy a theithio hygyrch i bobl leol ac ymwelwyr.
Dywedodd Claire Williams, sy’n frwd dros ddechrau’r swydd newydd: “Drwy gysylltu a hybu cydweithrediad rhwng busnesau a sefydliadau mewn cymunedau lleol, gallwn rymuso’r cymunedau hynny i gydweithio’n well ar ystod eang o faterion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda chymunedau ar draws y rhanbarth.
“Rydw i wedi bod yn gweithio yn y gymuned leol ers blynyddoedd lawer, gyda’r Strafagansa yn Llandudno. Rwy’n edrych ymlaen at ddod â’m profiad mewn digwyddiadau, ymgysylltu â’r gymuned a gweithio ar y cyd â sefydliadau allanol i’r swydd.”
Ychwanegodd Philip Evans, cadeirydd y Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol: “Rwy’n falch iawn bod Claire yn ymuno â’r tîm. Mae ganddi hanes ardderchog o reoli digwyddiadau’n lleol a bydd yn sicr yn adeiladu ar y gwaith a wnaed gan ei rhagflaenwyr.”
Mae Trafnidiaeth Cymru yn ariannu Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd-orllewin Cymru yn rhannol er mwyn cyflawni ei weledigaeth ehangach ar gyfer rheilffyrdd cymunedol. Mae’r bartneriaeth yn cael ei chynnal gan Creu Menter, menter gymdeithasol sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cymunedau, cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth.
Dywedodd Hugh Evans, Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: “Rydw i wrth fy modd yn croesawu Claire i’r teulu Rheilffyrdd Cymunedol. Rydyn ni’n gwybod bod Rheilffyrdd Cymunedol yn gallu sbarduno newid go iawn er gwell ar draws ein rhwydwaith, gan helpu i wneud teithio ar y rheilffyrdd yn fwy hygyrch a chynhwysol, sydd, yn ei dro, yn creu gwir fudd economaidd a chyfle, yn ystod y cyfnod anodd hwn, i gefnogi iechyd a llesiant meddyliol pobl yn y cymunedau hyn. Mae Claire eisoes wedi cael effaith ar ddigwyddiadau lleol ac ar weithio gyda’r ysgol.”