Yn fyr ond yn felys, mae lein Dyffryn Conwy yn cynnwys 13 gorsaf yn unig sy’n cysylltu rhai o ardaloedd mwyaf prydferth Gogledd Cymru. O dref wyliau Llandudno ar yr arfordir i Flaenau Ffestiniog yn swatio ymysg mynyddoedd llechi trawiadol, rydym yn tynnu sylw at bump o gyrchfannau na ddylid eu colli ar y llinell hanesyddol hon.
Llandudno
Wedi’i hadeiladu ym 1858, roedd Gorsaf Llandudno yn gwasanaethu mwyngloddiau copr yr ardal yn wreiddiol, yn ogystal â’r diwydiannau ffermio a physgota ar hyd yr arfordir. Mae’r dref bellach yn adnabyddus am fod y gyrchfan glan môr fwyaf yng Nghymru, gyda hanes cyfoethog a thrawiadol yn dyddio’n ôl i Oes y Cerrig.
O Waith Copr y Gogarth 4000 mlwydd oed i Amgueddfa’r Ffrynt Cartref, mae gan Landudno ddigon i’w gynnig i’r rhai sy’n ymddiddori mewn hanes a diwylliant, hen a newydd. I’r rhai sy’n chwilio am antur mae’r Ganolfan Chwaraeon Eira yn cynnig eirafyrddio, sgïo, a’r trac tobogan hiraf yng Nghymru. Mae Llandudno hefyd yn gartref i ran o Lwybr Arfordir Cymru sy’n mynd trwy Draeth y Gorllewin a’r Gogarth, Ardal Cadwraeth Arbennig a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Crwydrwch ar hyd y llwybr o Landudno i Gonwy i ddarganfod golygfeydd godidog ar ben y clogwyni, caffis hynod sy’n cael eu rhedeg yn lleol a digonedd o eifr preswyl y Gogarth.
Gallwch ddarllen mwy am Landudno a’r cyfan sydd ganddo i’w gynnig yn ein canllaw Pethau i’w Gwneud yn Llandudno.
Deganwy
Wedi’i chreu i gludo llechi o’r chwareli ym Mlaenau Ffestiniog i’r glanfeydd ar hyd Afon Conwy, adeiladwyd gorsaf Deganwy yn 1866 gan y London and North Western Railway.
Heddiw, gallwch fwynhau taith gerdded fer ar hyd Ffordd yr Orsaf i dref Deganwy sy’n edrych dros Eryri, Aber Afon Conwy, Ynys Seiriol ac Ynys Môn. Ychydig y tu ôl i’r dref, mae safle Castell Deganwy, a fu unwaith yn gartref i’r Brenin Maelgwn Gwynedd. Mae’r atyniad poblogaidd hwn (a ailadeiladwyd gan Harri III ym 1245) yn dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif ac yn chwarae rhan bwysig yn hanes Cymru.
Yn eistedd ar wlypdiroedd Aber Afon Conwy, mae Gwarchodfa Natur RSPB Conwy. Yn lle delfrydol i’r rheini ohonoch sy’n hoff o adar, caiff y warchodfa ei defnyddio fel man clwydo i lawer o rywogaethau o hwyaid ac adar hirgoes ac yn aml, mae adar mudol o Affrica a’r Arctig yn ymweld â hi wrth i’r tymhorau newid.
Pont Rufeinig
Gan gymryd ei henw o’r bont hynafol gyfagos sy’n croesi Afon Lledr, mae’r Bont Rufeinig yn arhosfan ceisiadau sy’n ddelfrydol ar gyfer cerddwyr a beicwyr sy’n edrych i archwilio golygfeydd godidog yr ardal hon. Mwynhewch y golygfeydd o gwm diarffordd Blaenau Dolwyddelan cyn cerdded i Gastell Dolwyddelan, cadarnle Tywysog Llywelyn Fawr o’r 12fed ganrif.
Y ffordd orau i grwydro’r ardal yw gyda thaith gerdded o orsaf i orsaf o’r Bont Rufeinig i Bont y Pant, taith gerdded gymedrol awr o hyd sy’n cysylltu’r ddau leoliad hyn.
Betws-y-Coed
Yn boblogaidd gyda cherddwyr, mae tref swynol Betws-y-Coed yn gorwedd o fewn ffin Parc Cenedlaethol Eryri. Agorwyd gorsaf Betws-y-Coed ym 1868 a’i hadeiladu gan grefftwyr lleol, a defnyddid hi’n bennaf gan gerbydau cludo nwyddau, ond wrth i nifer y twristiaid gynyddu, daeth gwasanaethau teithwyr yn amlach. Mae’r orsaf reilffordd garreg wreiddiol yn dal i sefyll a hi bellach yw’r orsaf brysuraf ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy.
Mae’r Bws Sherpa yn cysylltu’r chwe phrif lwybr fel y gallwch chi grwydro’n hawdd i’r cyfan sydd gan Eryri i’w gynnig ar eich cyflymder eich hun. Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn ymweld â’r Rhaeadr Ewynnol gerllaw a’r safle claddu Neolithig yng Nghapel Garmon.
Blaenau Ffestiniog
Yn flaenorol, roedd Blaenau Ffestiniog yn cael ei hadnabod fel ‘prifddinas llechi’r byd’, a chafodd ei chydnabod yn 2021 fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO am ei thirwedd llechi trawiadol. Yn ganolfan weithgareddau boblogaidd, mae Blaenau Ffestiniog wedi’i lleoli yng nghanol llechfaen mynyddoedd y Moelwynion ac yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau awyr agored gan gynnwys beicio mynydd, heicio, leinin sip a fforio ogofâu.
Mae strydoedd Blaenau Ffestiniog yn cynnig cipolwg barddonol ar hanes y dref gyda geiriau a dywediadau lleol wedi eu harysgrifio i balmentydd y dref. Mae Rheilffordd Ffestiniog hefyd yn cychwyn ar ei thaith o Flaenau Ffestiniog, gan droelli ei ffordd i Borthmadog a chysylltu â Rheilffordd y Cambrian ym Minffordd.