Dyma gyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig, gyda sgiliau rhyngbersonol gwych, i gryfhau’r cysylltiad rhwng y gymuned a’r rheilffordd.
Teitl y Swydd: Swyddog Rheilffordd Gymunedol
Lleoliad: Refurbs Y Fflint, 1-3, Stad Ddiwydiannol Parc Aber, Ffordd Aber, Y Fflint, Sir y Fflint, CH6 5EX.
Yn atebol I: Pennaeth Marchnata’r Grŵp a Chadeirydd Partneriaeth y Rheilffordd Gymunedol
Yn gyfrifol am: Gwirfoddolwyr a gweithwyr sesiynol
Nifer yr oriau yr wythnos: 37.5 awr – a rhai penwythnosau /gwyliau banc / gyda’r nos yn ystod digwyddiadau
Cyflog: £28,840 cyfwerth ag amser llawn
Disgrifiad o’r Rôl: Hyrwyddo a datblygu’r rheilffyrdd cymunedol ar ran Partneriaeth Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru a Dyffryn Conwy ar y cyd â diddordebau cymunedol, busnesau, a thwristiaeth lleol, i sefydlu a gweithredu cynllun datblygu Rheilffordd Gymunedol er mwyn cyflawni amcanion ar y cyd i ddatblygu’r rheilffordd a’r gymuned.
Rôl y Swyddog Rheilffordd Gymunedol yw cefnogi Partneriaeth y Rheilffordd Gymunedol a bod yn gyfrifol am gyflawni’r Cynllun Gweithgareddau a gytunir gan y grŵp llywio rhanbarthol yn flynyddol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r rôl yn gofyn am arweinydd brwdfrydig, rhywun sy’n dymuno gwella effaith y Bartneriaeth, datblygu cydberthnasau fel partner a rhanddeiliad rhanbarthol adnabyddus ac uchel ei barch ym meysydd trafnidiaeth gynaliadwy, twristiaeth gynaliadwy a chynhwysiant cymunedol.
Bydd y swydd yn weithredol yn ardal ddaearyddol Partneriaeth Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru a Dyffryn Conwy (cyfanswm o 28 gorsaf) a bydd yn cynnwys ymweliadau safle, teithio ar reilffyrdd ar draws y rhanbarth a mynychu ffeiriau masnach yn ôl yr angen, gan aros dros nos o bryd i’w gilydd.
Mae rôl y Swyddog Rheilffordd Gymunedol yn cynnig cryn hyblygrwydd i ddeiliad y swydd, ac mae’r cylch gorchwyl wedi’i nodi gan Trafnidiaeth Cymru a’r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol. Pedair hanfod rheilffyrdd cymunedol yw:
- Rhoi llais i’r gymuned
- Hyrwyddo dulliau teithio cynaliadwy ac iach
- Dod â chymunedau ynghyd a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant
- Cefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd
Rhagor o wybodaeth: I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, lawrlwythwch y swydd-ddisgrifiad a manylion yr unigolyn YMA. Os oes gennych ymholiadau am y swydd ffoniwch ni ar 01978 757524
Dyddiad cau: 13/10/2023
Cyfweliadau: Dyddiad i’w gadarnhau
Sut i ymgeisio: I wneud cais am y swydd hon, anfonwch CV a llythyr eglurhaol atom drwy e-bost yn esbonio pam eich bod yn credu y byddech yn addas a sut rydych chi’n bodloni gofynion manylion yr unigolyn. Ein cyfeiriad e-bost yw: recruitment@groundworknorthwales.org.uk
Sylwer, os byddwn wedi derbyn digon o geisiadau, rydym yn cadw’r hawl i roi’r gorau i dderbyn ceisiadau ar y gyfer y swydd hon yn gynt na’r dyddiad cau a nodir. Rydym felly yn annog ymgeiswyr i gyflwyno eu cais yn fuan er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon.
Rydym wedi ymrwymo i adeiladu tîm amrywiol gydag amrywiaeth o gefndiroedd, sgiliau a safbwyntiau. Po fwyaf cynhwysol yr ydym, y gorau y bydd ein gwaith. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysedd yn ganolog i’n cenhadaeth a’n heffaith.