Wyt Ionawr yn oer, a’th farrug yn wyn! Mae tirwedd Gogledd Cymru yn edrych ar ei gorau yn ystod y tywydd oer a rhewllyd, ond er ei bod hi’n ganol gaeaf, ar 25 Ionawr, bydd pethau’n poethi yma yng Nghymru. Ar y dyddiad hwn, rydym yn dathlu Dydd Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru. Yn debyg i Ddydd Gŵyl San Ffolant ar 14 Chwefror, mae’n ddiwrnod arbennig i ddathlu cariad a rhamant. Ond mae’r Cymry yn dathlu mewn ffordd llawer mwy personol ac anfasnachol.
Ni waeth a ydych chi’n ystyried gofyn i’ch cariad eich priodi, neu’n chwilio am rywle arbennig i dreulio penwythnos rhamantus gyda’ch cymar, mae Gogledd Cymru yn lle gwych i fwynhau gwyliau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Yn y blog hwn, cewch ddysgu am hanes cymeriad annwyl a thrasig Dwynwen, a byddwn hefyd yn sôn am rai o’n hoff leoedd yng Ngogledd Cymru i dreulio amser yng nghwmni eich cariad.
Pan fyddwch yn trefnu eich gwyliau arbennig, cofiwch edrych ar wefan Traveline Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth gyhoeddus a theithio cyn i chi adael.
Hanes trasig Dwynwen
Yn ystod y bumed ganrif, roedd Cymru yn wlad o deyrnasoedd a thywysogaethau bach, a oedd yn cael eu rheoli’n gadarn gan lond llaw o deuluoedd bonheddig. Roedd Dwynwen yn perthyn i un o’r teuluoedd hyn. Roedd hi’n dywysoges ac yn ferch i Brychan, brenin Brycheiniog. Yn ôl pob sôn, roedd Dwynwen yn ferch ifanc eithriadol o hardd a duwiol, rhinweddau a oedd yn ddeniadol iawn i ddarpar-gariadon ar y pryd, a daeth i sylw brenhinoedd a thywysogion o bob rhan o Gymru. Ond merch ramantus oedd Dwynwen ac roedd hi eisiau priodi rhywun roedd hi’n ei garu. Doedd dim sôn am syniadau o’r fath ar y pryd, gan fod teuluoedd bonheddig yn priodi am resymau gwleidyddol ac economaidd yn unig.
Er bod sawl tywysog a brenin o Gymru yn dymuno priodi Dwynwen, roedd hithau wedi syrthio mewn cariad â rhywun arall. Ei enw oedd Maelon Daffodrill; roedd ef hefyd yn dywysog, ond nid oedd yn cael ei ystyried yn gymar addas ar gyfer Dwynwen. Mae’n bosibl y byddai’r ddau wedi gwneud pâr perffaith ar y carped coch heddiw, ond nid felly y bu. Mae sawl hanes posibl ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd: mae rhai pobl yn honni bod y Brenin Brychan eisoes wedi trefnu i Dwynwen briodi rhywun arall; dywed eraill nad oedd gan Maelon ddiddordeb yn Dwynwen; ac mae ffynonellau eraill yn honni bod Maelon wedi ceisio treisio Dwynwen, gan chwalu ei darlun rhamantaidd ohono.
Beth bynnag yw’r gwirionedd, gan ei bod hi’n amharod i briodi rhywun nad oedd hi’n ei garu, fe wnaeth Dwynwen ffoi i’r goedwig. Yno, bu’n gweddïo i Dduw am arweiniad ac mewn ymateb anfonodd Duw angel ati. Yn anffodus, ni chafodd gweddi Dwynwen ei hateb yn llwyr. Gofynnodd i Dduw am gymorth i anghofio Maelon a’i gosbi, felly rhoddodd yr angel ddiod hud iddi er mwyn anghofio am Maelon; yna fe drodd Maelon yn dalp o rew (roedd yntau o bosibl eisiau ymddiheuro ac roedd wedi dod i chwilio am Dwynwen yn y goedwig)!
Roedd Dwynwen wedi’i brawychu gan yr hyn a ddigwyddodd i Maelon, a gofynnodd i Dduw newid yr hud. Yn gyfnewid am hyn, fe wnaeth hi addo na fyddai hi byth yn priodi ac y byddai’n ymroi ei bywyd i wasanaethu Duw gan ddod yn lleian. Ar ôl taro ar y fargen hon, cafodd Maelon ei ddadmer. Ond a oedden nhw’n gariadon? Oedden nhw’n dal i garu ei gilydd? Fyddwn ni byth yn gwybod yr ateb i hynny, a phwy a ŵyr, mae’n bosibl y bydden nhw wedi dianc i briodi a threulio gweddill eu dyddiau yn bell i ffwrdd o’r brenhinoedd a’u teyrnasoedd. Fodd bynnag, cadwodd Dwynwen at ei gair a chadwodd ei addewid i Dduw. Sefydlodd eglwys ar ynys fach, bellennig ger arfordir Ynys Môn o’r enw Llanddwyn gan ymroi ei hun i fywyd a gwasanaeth ysbrydol.
Daeth eglwys Dwynwen yn gyrchfan i bererinion hyd yn oed yn ystod ei hoes. Roedd cariadon o bob rhan o Gymru yn dod yno i gael eu bendithio, traddodiad sy’n parhau hyd heddiw – prawf o ddylanwad parhaus Dwynwen. Roedd hefyd yn fan lle byddai pobl nad oedd cael llawer o lwc yn eu bywyd rhamantaidd yn dod i gael cysur. Yn ôl pob sôn, roedd pysgodyn cysegredig a oedd yn gallu darogan dyfodol cariadon yn byw mewn ffynnon yn yr eglwys hefyd!
Heddiw, mae miloedd o bobl yn ymweld â’r ynys bob blwyddyn. Heb os, dyma un o’r mannau harddaf ar arfordir Gogledd Cymru, ac mae yno naws arbennig iawn. Beth am ymweld â’r ynys ac adfeilion eglwys Dwynwen, mwynhau’r golygfeydd o gopaon creigiog Eryri ar draws afon Menai, neu wylio’r haul yn machlud o’r man uchaf ar yr ynys, sef Croes Dwynwen.
Lleoedd Rhamantaidd i ofyn i’ch cariad eich priodi ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru a Rheilffordd Dyffryn Conwy
Ynys Llanddwyn – gorsaf Bodorgan
Lle gwell i ddechrau eich taith nag ar ynys Llanddwyn ei hun? Mae’r llecyn bendigedig hwn yn gyforiog o hanes a rhamant y Celtiaid, mae’n lle hyfryd i ddatgan eich cariad a dyma’r lle cyntaf ar ein rhestr o leoliadau gwych yng Ngogledd Cymru i ofyn i’ch cariad eich priodi.
Rhaeadr Ewynnol – gorsaf Betws-y-coed
Rhaeadr Ewynnol ar gyrion pentref Betws-y-coed yng nghanol Coedwig Gwydir, yw un o’r rhaeadrau uchaf yng Nghymru. Beth am ddewis man gwylio a gofyn y cwestiwn pwysig i’ch cariad – gyda chefnlen naturiol mor ddramatig â hyn, bydd yn anodd gwrthod eich cynnig!
Castell Penrhyn – gorsaf Bangor
Adeiladwyd y plasty hwn ar lan afon Menai yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar ffurf castell Normanaidd, ac mae wedi’i amgylchynu gan erddi a pharcdir gwyrdd. Mae’r lleoliad yn debyg i rywbeth o lyfr tylwyth teg, felly beth am ddod o hyd i le distaw gyda golygfa wych o’r arfordir neu’r castell i ofyn y cwestiwn pwysig.
Y Gogarth Fawr – gorsaf Llandudno
Mae’r penrhyn calchfaen dramatig hwn yn Llandudno yn hafan i fflora a ffawna ac yn lleoliad hollol unigryw i ofyn y cwestiwn mawr i’ch cariad. O ddyfnderoedd hanesyddol y mwyngloddiau copr i uchelfannau’r car cebl, o erddi hardd y Fach i’r copa, dyma’r lle perffaith i greu atgofion rhamantus gwerth chweil.
Cei Conwy – gorsaf Conwy
Mae’r harbwr tlws hwn sy’n swatio yng nghysgod muriau uchel Castell Conwy yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Gyda’i fythynnod bach hardd a’i gychod pysgota, mae’n lle delfrydol i ofyn y cwestiwn pwysig i’ch cariad.