Diolch i gyllid gan Gronfa Her Trafnidiaeth Cymru, mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru (rheilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru) wedi sefydlu grant untro i gefnogi cymunedau ar hyd y rheilffordd yn y siroedd canlynol: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Mae’r cynllun yn cynnig arian a fydd yn galluogi cymunedau ar hyd y rheilffordd i feithrin cydnerthedd neu gynaliadwyedd eu prosiect / gweithgareddau neu fenter newydd. Gall sefydliadau cymunedol, elusennau a Chwmnïau Budd Cymunedol (gweler y meini prawf cymhwysedd) yn y gymuned leol (o fewn 5 milltir i’r gorsafoedd) wneud cais am arian i gefnogi prosiectau sy’n targedu cynhwysiant cymdeithasol, yn annog newid ymddygiad, yn gysylltiedig â gweithgareddau iechyd a lles, a lle bo’n bosibl, yn annog defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.
Arian sydd ar gael:
Mae grantiau hyd at £1000 ar gael, a chyfanswm yr holl grantiau yw £25,000.
Meini prawf cymhwysedd:
Derbynnir ceisiadau gan unrhyw sefydliad cymunedol, elusen, Cwmni Budd Cymunedol neu grŵp sydd â chyfrif banc yn ei enw – gydag o leiaf dau lofnodydd nad ydynt yn perthyn i’w gilydd – ac sydd â’i bencadlys o fewn 8km/5 milltir i Reilffordd Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru (rheilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru).
Os nad yw’r sefydliad wedi’i leoli yn y dalgylch uchod ond gall ddangos y bydd yr arian grant yn cefnogi cymuned sydd o fewn y dalgylch honno, yna mae hyn yn dderbyniol. Ni all unigolion, busnesau a chyrff statudol ymgeisio, nac ychwaith elusennau cenedlaethol, ac eithrio cangen leol. Gall sefydliadau crefyddol ymgeisio os na fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo ffydd neu system gred benodol.
Does dim rhaid i ymgeiswyr fod yn elusennau cofrestredig, ond rhaid iddynt fod yn grŵp sydd â chyfrif banc. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall grwpiau ymgeisio drwy sefydliad sy’n eu noddi os nad oes ganddynt gyfrif banc, ond rhaid iddynt ddangos y gallant gyflawni’r prosiect ar eu pen eu hunain.
Ar gyfer beth gellir defnyddio’r grant?
Gellir defnyddio’r grant ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi prosiectau llawr gwlad er mwyn lleihau arwahanrwydd cymdeithasol a gwella iechyd a lles y gymuned leol. Bydd y grant yn ariannu gweithgareddau newydd, neu rai sy’n bodoli eisoes, ac sy’n bodloni amcanion y cynllun. Does dim rhaid i’r grant fod ar gyfer costau prosiect yn unig, gellir ei ddefnyddio ar gyfer costau cynnal, gan gynnwys staff, biliau, rhent neu gynnal a chadw, cyn belled ag y gellir dangos nad oes modd talu’r costau hyn mewn unrhyw ffordd arall ac y bydd hyn yn helpu’r sefydliad i barhau i fod yn weithgar ac yn gynaliadwy.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
Diwedd y dydd, 29 Chwefror 2024
Lawrlwytho Ffurflen Gais