Ar y cyd â Phartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru, mae Tîm Datblygu Hamdden Ffit Conwy yn cynnal cyfres o sesiynau e-feicio AM DDIM yn ardal Cyffordd Llandudno. Ariennir y prosiect cyffrous hwn gan Avanti West Coast.
Mae beiciau trydan, neu e-feiciau, wedi dod yn hynod o boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf, a hynny am reswm da. Maen nhw’n cynnig cyfuniad unigryw o ymarfer corff ardrawiad isel ac effeithlon, gan olygu eu bod yn ddewis delfrydol ar gyfer teithio am resymau hamdden neu waith. Nod y prosiect yw sicrhau y gall pawb elwa ar y manteision hyn, gan hybu ffordd o fyw iach a lleihau ein hôl-troed carbon.
Mae’r sesiynau e-feicio am ddim yn ardal Cyffordd Llandudno ar gael i bawb yn y gymuned. Ni waeth a ydych chi’n feiciwr profiadol neu’n ddechreuwr, mae’r sesiynau wedi’u cynllunio ar gyfer gwahanol lefelau o sgiliau. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw galw heibio’r lleoliadau dynodedig yn ystod yr amseroedd sydd wedi’u nodi, a bydd tîm cyfeillgar Ffit Conwy ar gael i gynnig arweiniad, cyngor ar ddiogelwch, ac wrth gwrs, e-feiciau.
Gwybodaeth Allweddol:
- Bydd pob sesiwn yn cynnwys taith dywys o dan arweiniad hyfforddwyr cymwysedig a phrofiadol.
- Mae’r sesiynau ar gael i bobl o bob lefel ffitrwydd.
- Rhaid i unigolion fod yn 14 oed a throsodd.
- Darperir helmedau a rhaid eu gwisgo.
- Mae’r sesiynau yn 2 awr o hyd.
- Rhaid archebu ymlaen llaw gan y bydd angen cynnal asesiad o anghenion ymlaen llaw. Ni fydd yn bosibl i chi gymryd rhan os nad ydych wedi archebu.
- Gallwch archebu faint bynnag o sesiynau ag y dymunwch.
Y Teithiau:
- Bydd yr holl sesiynau yn dechrau ym Modlondeb (ger y cae criced)
- Byddwch yn cael eich asesu yn ôl eich gallu ac a fyddech yn fwy addas ar gyfer y sesiynau Dechreuwyr neu Canolradd pan fyddwch yn archebu eich lle.
- Sesiynau Dechreuwyr – taith 11 milltir o hyd o Fodlondeb i Benmaenmawr ac yn ôl ar hyd y llwybr beicio.
- Sesiynau Canolradd – taith 12 milltir o hyd o Fodlondeb i gyfeiriad Ro-wen a Henryd ac yn ôl ar hyd ffyrdd gwledig.
*Gall llwybrau’r teithiau amrywio rhywfaint bob wythnos.
**Efallai y bydd sesiynau yn cael eu canslo os bydd rhybuddion tywydd.
Amserlen y Sesiynau E-feicio:
Dydd Llun PM | Dydd Iau AM | Dydd Iau PM |
1pm – 3pm (Dechreuwyr) | 10am – 12pm (Canolradd) | 1pm – 3pm (Dechreuwyr) |
5 Chwefror | 8 Chwefror | 8 Chwefror |
12 Chwefror | 15 Chwefror | 15 Chwefror |
19 Chwefror | 22 Chwefror | |
26 Chwefror | 29 Chwefror | 29 Chwefror |
4 Mawrth | 7 Mawrth | |
11 Mawrth | 14 Mawrth | 14 Mawrth |
18 Mawrth | 21 Mawrth |
Gwybodaeth Archebu:
Rhaid archebu ymlaen llaw.
Cysylltwch â Tim Ballam, Swyddog Hamdden Gwledig Datblygu Hamdden Ffit Conwy:
E-bost: tim.ballam@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 575556
Ffôn symudol: 07717 543698
Canolfan Alwadau: 0300 4569525