Llun gan Joshua Earle ar Unsplash
Gyda chymaint o bethau gwych i’w gweld a’u gwneud yng Ngogledd Cymru, mae’r dyddiau’n rhy fyr i gyflawni popeth. Ond peidiwch â phoeni, mae digonedd o ryfeddodau i’w gweld ar ôl iddi dywyllu hefyd. Nid sôn am glybiau nos a thafarndai mae’r blog diweddaraf hwn, ond yn hytrach yr awyr dywyll, neu’r hwyl sydd i’w gael wrth syllu ar y sêr mewn geiriau eraill! Felly beth am afael yn eich binocwlars, gwisgo eich dillad cynnes a mwynhau noson allan o fath gwahanol iawn.
Rydyn ni’n ffodus iawn yng Ngogledd Cymru i gael Gwarchodfa Awyr Dywyll ar garreg y drws. Cafodd Parc Cenedlaethol Eryri ei ddynodi yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol gan y Sefydliad Awyr Dywyll yn 2015 ac mae wedi bod yn denu cannoedd o ddarpar-seryddwyr ers hynny.
Ond beth yw statws Awyr Dywyll? Gall unrhyw leoliad sydd ag awyr dywyll o ansawdd gwych – hynny yw, awyr glir, heb ei llygru sy’n cynnig golygfa ddirwystr o awyr y nos – gael ei ystyried ar gyfer y dynodiad pwysig hwn. Yn anffodus, oherwydd dwysedd poblogaeth ein planed, mae ardaloedd heb lawer o lygredd awyr yn brin iawn, felly mae Gwarchodfeydd Awyr Dywyll yn safleoedd eithriadol o werthfawr.
Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol Parc Cenedlaethol Eryri yw un o ddeg lleoliad o’i fath yn y byd sydd wedi ennill statws ‘Awyr Dywyll’. Ymhlith y lleoliadau eraill mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Gwarchodfa Aoraki Mackenzie ym mhen draw’r byd yn Seland Newydd.
Yn ogystal â hyn, mae Ynys Môn, sydd wedi’i dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) gan Lywodraeth Cymru, hefyd o fewn cyrraedd hwylus, felly dyna ddwy ardal brydferth lle gallwch fwynhau awyr y nos yng Ngogledd Cymru.
Does dim angen i chi fod yn seryddwr profiadol i fwynhau’r awyr dywyll. Gall pawb sy’n gwerthfawrogi ein bydysawd – yr ifanc neu’r ifanc eu hysbryd, dechreuwyr neu seryddwyr profiadol – fwynhau rhyfeddodau’r sêr.
Sut i fwynhau’r awyr dywyll
Pwy all fwynhau’r awyr dywyll?
Mewn gair, pawb. Mae syllu ar y sêr yn weithgaredd difyr i’r teulu cyfan. Gwisgwch ddillad cynnes ac ewch â digon o fyrbrydau a diodydd gyda chi, a bydd yn sicr yn brofiad addysgol bythgofiadwy i blant. Yn yr un modd, gall syllu ar y sêr gyda’ch cymar fod yn noson allan wahanol a bythgofiadwy.
Yr amser gorau i wylio’r sêr
Nid yn annisgwyl, yr amser gorau i wylio’r sêr yw ar ôl iddi nosi. Nosweithiau clir sydd orau, ac mae tywydd sych yn gwneud y cyfan yn brofiad mwy dymunol (gorau oll os nad yw hi wedi bwrw glaw yn ystod y dydd). Gan fod awyr y nos yn newid gyda’r tymhorau, os byddwch yn ddigon ffodus i gael cyfle i ymweld â Gogledd Cymru ar wahanol amseroedd o’r flwyddyn gallwch fwynhau profiadau a golygfeydd amrywiol bob tro. Fel rheol, mae’r noson cyn lleuad llawn yn gyfle gwych i wylio’r sêr, felly os yw’n bosibl, cymerwch olwg ar galendr y lleuad cyn i chi fentro allan.
Hanfodion serydda
Heb os, y sêr eu hunain yw’r elfen bwysicaf. Heblaw am hynny, does dim angen gormod o offer arbenigol – blanced gynnes, côt drwchus, byrbrydau a diod (mae fflasg o de poeth bob amser yn syniad da), a haenau o ddillad. Hyd yn oed yn ystod yr haf, gall fod yn ddigon oer wrth iddi nosi, felly lapiwch yn gynnes.
I wella’r profiad, gall binocwlars neu sbienddrych ddatgelu’r rhyfeddodau cudd uwch eich pen. Mae map sêr hefyd yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig i ddechreuwyr sy’n ceisio ymgyfarwyddo â rhyfeddodau’r awyr. Bydd tynnu lluniau o’ch anturiaethau yn sicr o gyfoethogi eich albwm lluniau, felly cofiwch bacio camera (neu gwnewch yn siŵr fod eich ffôn wedi’i wefru).
Os ydych yn defnyddio ffôn clyfar, mae pob math o apiau defnyddiol ar gael er mwyn eich helpu i adnabod y sêr. Rydym wrth ein bodd â Star Walk (iOS) a Google Sky (Android), sy’n hawdd iawn eu defnyddio. Mae cwmpawd yr un mor werthfawr, er yn llai technegol, ac mae’n berffaith ar gyfer nodi union leoliad cytserau penodol neu eich helpu i gyrraedd adref os byddwch yn mynd ar goll!
Cofiwch!! I gael y siawns orau o weld sêr:
- I weld llawer iawn o sêr, ewch allan ar nosweithiau pan fydd lleuad newydd neu chwarter lleuad;
- Dewiswch leoliadau â golygfeydd dirwystr – mae’r holl safleoedd a awgrymir yn ddewisiadau delfrydol;
- Arhoswch am o leiaf 90 munud ar ôl i’r haul fachlud cyn dechrau edrych ar y sêr;
- Gwisgwch ddillad cynnes ac ewch â digon o fyrbrydau gyda chi, a diod poeth mewn fflasg;
- Defnyddiwch dortsh gyda bwlb coch; byddwch yn gallu gweld yn iawn, ond ni fydd yn amharu ar eich golwg nos, felly byddwch yn addasu’n gynt i’r tywyllwch.
Dyddiadau i’r dyddiadur
Wythnos Awyr Dywyll Cymru, 9-18 Chwefror 2024 – cynhelir teithiau cerdded, cyrsiau a gweithdai yn ymwneud â phob agwedd ar awyr dywyll yn ystod dathliad blynyddol swyddogol Wythnos Awyr Dywyll Cymru. I gael rhagor o wybodaeth a chalendr y digwyddiadau yn ardal Eryri ac Ynys Môn, cliciwch yma.
Wythnos Ryngwladol Awyr Dywyll, 2-8 Ebrill 2024 – dathliad arbennig yn ystod wythnos y lleuad newydd ym mis Ebrill, pan fydd seryddwyr o bob rhan o’r byd yn ymuno i ddathlu’r awyr dywyll. I ddarganfod mwy, cliciwch yma.