Talwch am eich taith fflecsi ar yr ap

Datganiad i’r wasg – Trafnidiaeth Cymru

Gall teithwyr fflecsi ar lwybr Dyffryn Conwy nawr brynu tocynnau gan ddefnyddio’r ap fflecsi.

Mae fflecsi yn wasanaeth bws sy’n ymateb i’r galw sydd wedi bod yn rhedeg yn Nyffryn Conwy ers 2020, gan gysylltu trefi prysur Betws-y-Coed a Llanrwst â’r pentrefi cyfagos.

Gall deithwyr gael eu codi a’u gollwng yn unrhyw le o fewn y parth fflecsi rhwng 6.30yb a 7.00yh, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Dywedodd Huw Morgan, Pennaeth Trafnidiaeth Integredig Trafnidiaeth Cymru:

“Mae fflecsi Dyffryn Conwy wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus mewn cymunedau gwledig ers bron i bedair blynedd ac rydym yn falch o lansio’r dull talu newydd hwn.

“Mae dros 15,000 o deithwyr wedi defnyddio’r gwasanaeth yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda 95% o deithwyr yn rhoi sgôr 5 seren i ni.  Maent yn gweld bod gwasanaeth fflecsi yn cynnig ffordd o deithio sy’n ddibynadwy ac yn effeithlon ac sy’n caniatáu iddynt gysylltu gyda dulliau trafnidiaeth eraill, sy’n gwbl hanfodol er mwyn iddynt allu teithio ymhellach yn yr ardal.

“Rydym yn lansio hyn yn ardal Dyffryn Conwy ac yna byddwn yn ceisio ei gyflwyno ar draws ein parthau fflecsi eraill ledled Cymru.”

I’r teithwyr hynny nad ydynt yn dymuno talu drwy’r ap, mae’r opsiwn i dalu ar y bws yn dal i fod ar gael, a gallwch dalu gydag arian parod, cerdyn digyswllt neu gerdyn debyd, pan fyddwch yn mynd ar y bws. Bydd teithwyr â chardiau teithio rhatach (deiliaid pasys bws) yn dal i deithio am ddim wrth gwrs.  Ni allwch dalu am docynnau drwy’r ganolfan alwadau.