Trwy gydol misoedd Medi a Hydref mae Partneriaeth Rheilffordd Cymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru, mewn cydweithrediad â Mind Conwy, wedi cynnal cyfres o deithiau cerdded er budd iechyd meddwl a chorfforol.
Cynhaliwyd y prosiect diolch i nawdd gan Avanti West Coast a Trafnidiaeth Cymru, gan ddangos eu hymrwymiad i gefnogi mentrau sy’n gwella lles y gymuned ac yn annog pobl i ddefnyddio cysylltiadau trafnidiaeth lleol.
Cafodd y teithiau cerdded eu teilwra ar gyfer anghenion unigryw grwpiau gwahanol yn y gymuned, gan roi cyfle i’r cerddwyr ddod i gysylltiad â natur tra’n gwella eu lles cyffredinol ar yr un pryd. Dyma’r tri math o deithiau cerdded:
Teithiau Cerdded i Ddynion: Roedd y gyfres hon o deithiau i ddynion o bob oedran er mwyn eu hannog i wella eu hiechyd corfforol a meddyliol drwy gymryd rhan mewn gweithgaredd rheolaidd, cael sgyrsiau ystyrlon, a gwneud ffrindiau newydd. Roedd yn gyfle i ddynion gysylltu â’i gilydd a chefnogi ei gilydd mewn lleoliad anffurfiol a naturiol.
Teithiau Cerdded y Menopos: Wedi’u teilwra’n arbennig i fenywod sy’n wynebu heriau’r menopos, roedd y teithiau hyn yn gyfle i gysylltu â menywod eraill mewn amgylchedd cefnogol. Bu’r cerddwyr yn rhannu profiadau a chael cefnogaeth, gan fwynhau buddion therapiwtig natur yn ystod y cam pwysig hwn yn eu bywydau.
Teithiau Cerdded i Bobl Ifanc: Roedd y teithiau cerdded hyn ar gyfer pobl ifanc 18-24 oed yn eu hannog i gamu i ffwrdd o’r sgriniau, ymgolli ym myd natur, a datblygu arferion iach. Roedd yn gyfle hwyliog a chynhwysol i wneud ffrindiau newydd a dysgu am yr amgylchedd, gan osod sylfaen ar gyfer eu lles yn y tymor hir.
Dywedodd Maria Nolan, Cydlynydd Cadw’n weithgar Mind Conwy:
“Mae O’r Cledrau i’r Llwybrau yn rhaglen gyffrous newydd o Deithiau Cerdded Lles i drigolion Conwy. Mae’r gyfres o deithiau cerdded wedi cynnig cyfleoedd unigryw i grwydo’r ardal, dod i gysylltiad â natur a dod o hyd i gymuned newydd.”
Ychwanegodd Jo Buckley, Rheolwr Cymunedol Avanti West Coast:
“Rydym yn awyddus i gefnogi achosion sy’n bwysig i gymunedau ar hyd ein rheilffordd, felly rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan i helpu pobl Conwy i ofalu am eu lles corfforol a meddyliol yn ystod y prosiect gwerthfawr hwn.
“Mae pawb sydd wedi cymryd rhan wedi cael cyfle i greu cysylltiadau â phobl eraill drwy rannu profiadau a mwynhau natur mewn lleoliadau sy’n hawdd eu cyrraedd ar drên – gan greu teimlad o gymuned a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w lles. Ein gobaith yw y bydd y prosiect yn ysbrydoli pobl eraill i deithio ar y trên er mwyn cysylltu â phobl a lleoedd yn eu hardal.”
Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategol Rheilffordd Gymunedol Trafnidiaeth Cymru:
“Rydyn ni’n wedi mwynhau cefnogi prosiect O’r Cledrau i’r Llwybrau yn fawr iawn. Mae hi wedi bod yn braf gweld sut mae’r prosiect wedi helpu pobl i ddod ynghyd a’u hannog i grwydro ein cymunedau hyfryd a threulio amser yn yr awyr agored. Rydym yn gobeithio y gall prosiectau fel hyn barhau i godi ymwybyddiaeth pobl am yr holl deithiau cerdded sy’n hawdd eu cyrraedd ar y trên, a’r cyfle i fwynhau ychydig o ymarfer corff, ymweld ag ardal newydd, a gwella eu lles.”
Mae prosiect O’r Cledrau i’r Llwybrau wedi bod yn gam pwysig i wella lles y gymuned a bydd y Bartneriaeth, ar y cyd ag Avanti West Coast a Trafnidiaeth Cymru, yn ariannu dwy raglen arall yn y dyfodol – Cwrs Sgiliau Canfod Ffordd i Ddynion a chwrs Sgiliau Darllen Map a fydd yn dechrau ar 29 Tachwedd gyda theithiau cerdded misol rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth, a’r Teithiau Cerdded Lles Menopos rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth.
I gael rhagor o wybodaeth am y teithiau cerdded hyn neu er mwyn cofrestu i ymuno, cysylltwch â Mind Conwy ar 01492 879 907 neu info@conwymind.org.uk