Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Rheilffyrdd Cymunedol Cenedlaethol 2025, a hynny yn y categori Prosiect Gorau Ymgysylltu â’r Gymuned.
Daw’r cyhoeddiad hwn yn dod ar adeg arwyddocaol iawn i’r Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol gan ei bod yn dathlu dwy garreg filltir bwysig eleni. Mae’r Gwobrau yn dathlu 20 mlynedd o anrhydeddu mentrau gwych o’r sector rheilffyrdd cymunedol, ac ar yr un pryd mae’r diwydiant rheilffyrdd ehangach yn dathlu 200 mlynedd ers dyfodiad rheilffyrdd modern.
Roedd prosiect Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru yn cynnig sesiynau beic trydan am ddim i gymunedau yng Nghonwy a’r ardal, gyda’r nod o ddod â phobl at ei gilydd i fwynhau buddion seiclo heb y straen sy’n gysylltiedig â reidio beic arferol.
Wedi’i ariannu gan Avanti West Coast a Thrafnidiaeth Cymru, roedd y prosiect yn bartneriaeth â thîm Ffit Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) i gyflwyno 30 o sesiynau seiclo dros gyfnod o 12 wythnos ar gyfer grwpiau gallu cymysg, gan wneud y profiad yn hygyrch i bawb. Cymerodd dros 60 o bobl leol ran yn y prosiect, gan gynnwys 14 o bobl ifanc nad ydynt yn derbyn addysg brif ffrwd, a gwnaeth pawb fwynhau’r cyfle i wneud cysylltiadau newydd, gwella eu hyder a’u hymddygiad, yn ogystal â’u gallu i ganolbwyntio.
Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo uchel ei phroffil yn Newcastle nos Iau, 13 Mawrth 2025, mewn partneriaeth â Lumo.
Mae’r Gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, yn cydnabod pob math o brosiectau sy’n cefnogi cynhwysiant cymdeithasol, trafnidiaeth gynaliadwy, ac yn hwb i gymunedau a datblygiad economaidd. Bydd y noson yn dangos sut mae’r mudiad rheilffyrdd cymunedol yn meithrin cysylltiadau ac agweddau cadarnhaol ac yn codi ymwybyddiaeth pobl leol am eu rheilffyrdd, gan ddod â budd i gymunedau a newid bywydau yn aml.
Dywedodd Karen Williams, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru: “Roedd yn gyfle gwych i weithio gyda thîm Ffit CBSC a rhoi cyfle i bobl leol gael tro ar gefn beic trydan mewn lleoliadau gwych ar garreg eu drws. Fe wnaeth yr hyfforddwyr roi cyngor diogelwch da i’r seiclwyr yn ogystal â llawer o wybodaeth am yr ardal leol.
“Roedd yn braf clywed bod y criw wedi gwneud ffrindiau, ac o ganlyniad, mae mwy o bobl yn mwynhau bod allan yn yr awyr agored, gan wella eu hiechyd meddwl a chorfforol yng nghwmni ffrindiau Newydd.”
Dywedodd Sarah Chilton, cyfarwyddwr cyfathrebu a pholisi’r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol:“Mae 2025 yn flwyddyn arbennig iawn i reilffyrdd cymunedol a’r diwydiant rheilffyrdd yn ehangach, ac rydym wrth ein boddau i weld cynifer o gynigion gwych sy’n rhoi cyfle i ni roi sylw i’r bobl, prosiectau a mentrau anhygoel o bob rhan o’n mudiad sy’n tyfu ar lawr gwlad.
“Llongyfarchiadau enfawr i Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru am gyrraedd y rhestr fer. Rydyn ni’n edrych ymlaen i ymuno â nhw a’u cydweithwyr o’r rheilffyrdd cymunedol a phartneriaid y diwydiant i ddathlu eu gwaith caled, eu hagwedd gadarnhaol, a’u hymrwymiad yn ein noson Wobrwyo ym mis Mawrth.”
Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: “Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn dyst i’r Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol a’i hymroddiad i gysylltu cymunedau â’u rheilffyrdd tra’n hybu gweithgareddau iechyd a lles. Llongyfarchiadau.”
Dywedodd Lorna Crawshaw, Pennaeth Rhaglenni a Phartneriaethau Cymunedol Groundwork Gogledd Cymru, y sefydliad sy’n cynnal y Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol: “Mae’n fraint enfawr bod y Bartneriaeth wedi cael ei henwebu ar gyfer y Wobr Ymgysylltu â’r Gymuned. Mae’r gydnabyddiaeth yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad y Bartneriaeth i feithrin cysylltiadau yn y gymuned a chreu newid cadarnhaol.”