Mae’n bleser gan Bartneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru, mewn cydweithrediad â Chanolfan Ddydd Croes Atti Sir y Fflint a Trafnidiaeth Cymru, lansio’r arddangosfa Atgofion am y Fflint yn ystafell aros gorsaf drenau’r Fflint.
Agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol yng ngorsaf y Fflint gan Faer Cyngor Tref y Fflint, Melly Buckley, a wnaeth ganmol y prosiect am ddatgloi creadigrwydd y rhai oedd wedi cymryd rhan. Roedd y lansiad yn fwy arbennig fyth gan fod y pencampwraig Olympaidd Prydeinig Jade Jones yn bresennol. Roedd hi wedi cyfarfod y bobl fu’n cymryd rhan yn y prosiect ar achlysur blaenorol, ac wedi ysbrydoli darn o gelf yn seiliedig ar ei thaith Olympaidd anhygoel.
Mae’r gweithiau celf hardd wedi cael eu creu gan y bobl sy’n mynychu Canolfan Ddydd Croes Atti. Dros gyfnod o 12 wythnos fe wnaethant gymryd rhan mewn sesiynau celf wythnosol, o dan arweiniad yr artist lleol Sharon Wagstaff. Nod y prosiect oedd rhoi cyfle i unigolion sy’n byw â dementia i fynegi eu hunain mewn ffordd greadigol a defnyddio celf i ysgogi atgofion hapus, annog rhyngweithio cymdeithasol a sbarduno creadigrwydd.
Fe wnaeth y cyfranogwyr, oedd rhwng 59 a 97 oed, greu paentiadau a darluniau trawiadol o dirnodau hanesyddol y Fflint, gan eu helpu i ailgysylltu â’u hanes personol. Mae’r darnau celf hyn yn awr yn cael eu rhannu â’r gymuned mewn arddangosfa greadigol yn ystafell aros gorsaf drenau’r Fflint.
Dywedodd Melanie Lawton, Swyddog Arweiniol Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae gorsaf y Fflint wrth galon y gymuned ac ar hyn o bryd mae’n cael ei thrawsnewid gyda Mynediad i Bawb, cyfleuster newydd i’r gymuned, gardd gymunedol a gwaith celf yn yr ystafell aros sy’n cysylltu’r rheilffordd â’r gymuned. Mae’n hyfryd gweld dathliad o’n hanes, treftadaeth a diwylliant bywiog. Llongyfarchiadau i bawb wnaeth gymryd rhan am ddod â’r orsaf yn fyw gyda’u gwaith celf.”
Dywedodd Karen Williams, Swyddog Rheiffyrdd Cymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru:
“Mae hi wedi bod yn fraint cael gweithio gyda Sarah a’i thîm yng nghanolfan ddydd Croes Atti. Mae’r sesiynau wythnosol wedi rhoi cyfle i’r cyfranogwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau rheolaidd ac ymwneud â phobl eraill. Mae gweld eu sgiliau yn gwella o wythnos i wythnos wedi bod yn brofiad emosiynol. Mae ystafell aros gorsaf y Fflint nawr yn fyw gydag atgofion a gwaith celf lliwgar a fydd yn gadael gwaddol. Diolch o galon i Gyngor Sir y Fflint a’r artist Sharon Wagstaff am gefnogi’r prosiect cymunedol gwych hwn.”
Dywedodd Sarah Dilworth, Uwch Ofalwr Canolfan Ddydd Croes Atti, Cyngor Sir y Fflint:
“Roedd yn hyfryd bod yn rhan o’r prosiect celf hwn a gweld sut roedd y sesiynau celf wythnosol nid yn unig yn dod â llawenydd i’r defnyddwyr gwasanaeth, ond hefyd yn eu hysgogi, gan ailddeffro atgofion am y Fflint a oedd yn rhoi rhyddid iddynt greu a mynegi eu hunain heb orfod defnyddio geiriau. Rwyf mor falch o’r holl ddefnyddwyr gwasanaeth; roedd yn fraint cael rhannu’r prosiect gwych hwn gyda nhw. Rydyn ni’n edrych ymlaen i weithio gyda Karen a Trafnidiaeth Cymru unwaith eto yn y dyfodol.”
Dywedodd Melly Buckley, Maer Tref y Fflint:
“Pleser ac anrhydedd oedd derbyn y gwahoddiad i fod yn bresennol yn lansiad y prosiect celf yng ngorsaf y Fflint, mewn cydweithrediad gyda Trafnidiaeth Cymru a chanolfan ddydd Croes Atti. Mae’r gweithiau celf yn harddu waliau’r ystafell aros lle gall pawb eu mwynhau ac mae’n gofnod o brosiect mor bwysig y gwnaeth y defnyddwyr gwasanaeth gyfrannu ato gan greu canlyniadau anhygoel.
“Mae digwyddiadau o’r fath sy’n dod â’r gymuned at ei gilydd yn bwysig iawn ac i’w croesawu yn nhref y Fflint. Diolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r prosiect, gan obeithio y bydd yn rhoi gwên ar wynebau’r teithwyr niferus am flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Jade Jones OBE:
“Anrhydedd a braint oedd bod yn rhan o’r prosiect celf. Roedd yn hyfryd iawn gweld y defnyddwyr gwasanaeth a chyfarfod y staff sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni hyn. Rwy’n falch o ddweud fy mod off Flint.”
Dywedodd Vanessa Roberts, Rheolwr cofrestredig Gwasanaethau wedi’u rheoleiddio ac Adnoddau Cyngor Sir y Fflint:
“Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o’r prosiect gwych hwn ac mae gweld y canlyniadau terfynol a gwaith yr artistiaid wedi bod yn anhygoel. Rydyn ni’n edrych ymlaen i weithio gyda Karen a Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol.”
Mae’r prosiect wedi cael effaith ddofn, gan wella sgiliau echddygol manwl, llafaredd a gallu’r cyfranogwyr i ganolbwyntio. Mae sawl un wedi ailddarganfod hen sgiliau, ac wedi cael pleser mawr o’r broses greadigol yn ogystal â chreu cysylltiadau ystyrlon gyda phobl eraill.
Mae gwaith celf gwreiddiol y cyfranogwyr bellach i’w weld yn archif ‘Off Flint’ yn Llyfrgell y Fflint.