Os ydych chi’n bwriadu crwydro yng Ngogledd Cymru â thrên yn ystod yr haf sy’n dod, yna mae gwledd yn eich aros. Gyda llawer o atyniadau ymwelwyr mwyaf poblogaidd y rhanbarth o fewn cyrraedd hwylus â thrên efallai y byddai’n syndod pe baem yn dweud wrthych fod rhai o’n traethau gorau hefyd o fewn pellter cerdded byr i’n gorsafoedd. Felly, os ydych chi’n ysu am ddiwrnod o hwyl ar y traeth yr haf yma, chwiliwch am eich bwced a rhaw, gwisgwch eich sbectol haul a chofiwch roi digon o eli haul; rydym ar ein ffordd i’r traeth.
A chofiwch! Pan fyddwch yn cynllunio diwrnod ar y traeth, rydym yn awgrymu eich bod yn gwirio Traveline Cymru am yr wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth gyhoeddus a theithio cyn i chi gychwyn.
Traeth Pen Morfa
Gorsaf agosaf: Llandudno
Mae Llandudno yn ymfalchïo mewn dau draeth ysblennydd. Traeth y Gogledd, gyda’i adloniant traddodiadol, sydd yn denu’r torfeydd mwyaf gan amlaf. Ond, mi fydd taith gerdded fer o’r orsaf i’r cyfeiriad arall yn mynd â chi i un o drysorau cudd Llandudno: Pen Morfa.
Mae’n gyfarwydd i’r bobl leol fel llecyn tawel ac i’r ymwelwyr sy’n chwilio am fwy o lonydd i fwynhau’r tywod, ac mae golygfeydd godidog o fynyddoedd y Carneddau a gweddill Eryri i’w mwynhau hefyd, tywod sy’n llithro’n raddol i’r môr, promenâd, man chwarae modern, a champfa awyr agored. A pheidiwch ag anghofio’r llyn cychod braf, gyda’r hwyaid cyfeillgar ac ambell alarch!
Rydym yn hoffi: ar ôl diwrnod prysur ar y traeth, mynd draw i West Shore Beach Cafe am damaid i’w fwyta ac i wylio’r haul yn machlud o deras panoramig y caffi.
Morfa Conwy
Gorsaf agosaf: Conwy
Wedi’i leoli ar fae enfawr wrth geg Aber Afon Conwy, mae Morfa Conwy yn datgelu traeth tywodlyd eang ar y distyll, sy’n denu cerddwyr cŵn, marchogion ceffylau a thwristiaid. Mi fydd taith gerdded rwydd o Orsaf Conwy yn mynd â chi i Gei Conwy ac mi allwch ymuno â Llwybr yr Arfordir i gyrraedd y Morfa. Mae hon yn daith hyfryd gyda golygfeydd braf i gyfeiriad Llandudno ar hyd y ffordd. Cofiwch, er bod y dyfroedd yn edrych yn braf, maent yn cuddio cerrynt cryf gan fod y môr yn dyfnhau’n sydyn.
Rydym yn hoffi: hanner ffordd rhwng tref Conwy a’r Morfa mae tafarn deuluol y Mulberry ym Marina Conwy. Galwch heibio am ddiod ac i syllu’n eiddigeddus ar y cychod hwylio drudfawr oddi tanoch!
Traeth Penmaenmawr
Gorsaf agosaf: Penmaenmawr
Efallai nad yr hen dref chwarelyddol hon ger Conwy fyddai eich dewis cyntaf ar gyfer diwrnod ar y traeth. Ond dafliad carreg oddi wrth ffordd brysur yr A55 a thaith gerdded fer o’r orsaf, mae traeth Baner Las braf yn aros amdanoch. Mae’r traeth caregog yn cael ei drawsnewid i un tywodlyd mawr ar y distyll ac, er ei fod yn denu llawer o ymwelwyr, mae ei faint yn sicrhau na fydd byth yn teimlo’n brysur. Mae Traeth Penmaenmawr y cynnig digonedd o weithgareddau eraill hefyd, gan gynnwys man chwarae i blant, pwll padlo, caffi poblogaidd wrth lan y môr, a chwaraeon dŵr.
Rydym yn hoffi: yn ystod y tymor gwyliau, mi allwch rentu cwt ar y traeth fesul diwrnod gan Penmaenmawr Beach Cafe. Yn ddiweddar gwnaethpwyd gwaith moderneiddio ar y cytiau ac maent yn lle perffaith i ymlacio!
Traeth Aberffraw
Gorsaf agosaf: Bodorgan
Wedi’i amgylchynu gan dwyni tywod mawr sydd wedi’u dynodi fel Ardal Cadwraeth Arbennig, er nad yw’n bell o bob man, mae’n teimlo felly, ac mae hynny’n ychwanegu at yr apêl. Mi fyddwch yn cerdded drwy’r twyni o’r pentref i gyrraedd y traeth ac mi gaiff eich ymdrech ei gwobrwyo gan draeth tywodlyd eang nad yw byth yn teimlo’n brysur. Mi fydd y plant wrth eu bodd yn chwarae yn y dŵr tra bydd yr oedolion yn mwynhau’r golygfeydd draw am Fae Caernarfon ac Eryri.
Rydym yn hoffi: mae’r pentref bychan hwn ym Môn yn enwog am y bisgedi sy’n dwyn ei enw. Credir fod teisennau Berffro, sy’n debyg i farw cwta, yn dyddio’n ôl ganrifoedd ond eu bod bob amser yn cael eu gwneud ar ffurf cragen gylchog y pererinion. Mi allwch eu prynu yma.
Traethau Rhosneigr
Gorsaf agosaf: Rhosneigr
Mae arfordir gorllewinol Môn yn gyrchfan bwysig i’r rhai sy’n hoffi chwaraeon dŵr. Mae Rhosneigr yn gartref i ddau draeth, Traeth Llydan a Thraeth Crigyll, gyda’r ddau ohonynt yn boblogaidd iawn yn ystod misoedd yr haf. Mae Rhosneigr yn bentref bywiog sy’n denu’r criw bwcedi a rhaw a dilynwyr chwaraeon dŵr, yn wir, mae rhywbeth yma i bawb. Yn yr haf mae’n lle i weld a chael eich gweld hefyd!
Rydym yn hoffi: gyda thraeth tywodlyd a dyfroedd diogel, mae Rhosneigr yn lle delfrydol i roi cynnig ar chwaraeon dŵr. Mae nifer o siopau arbenigol fel Gecko Surf a Funsport yn darparu cyfarpar ar gyfer pob math o weithgareddau yn y dŵr.
Porth Dafarch
Gorsaf agosaf: Y Fali
Mae Porth Dafarch, sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar arfordir creigiog de’r ynys. Mae’r traeth Baner Las hwn ar gyrion pentref arfordirol braf Trearddur, ac mae’r dyfroedd yn lân a diogel, gyda phyllau yn y creigiau sy’n llawn bywyd gwyllt diddorol – sy’n berffaith i blant chwilfrydig. Oherwydd ei leoliad, mae’r cyfleusterau’n elfennol – mae toiledau ac efallai y bydd y fan hufen iâ yn ymweld o bryd i’w gilydd.
Rydym yn hoffi: y golygfeydd! Mae’r traeth bach hyfryd hwn yn cynnig golygfeydd arbennig iawn o Ynys Lawd, sy’n hefyd ym Môn, yn ogystal â Llŷn ac Eryri. Ein cyngor yw eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch y golygfeydd.
Byddwch yn ddiogel ar y traethau
Er ein bod i gyd yn mwynhau diwrnod ar y traeth, mae’n bwysig cofio bod peryglon yno hefyd – waeth pa mor dawel yw’r tywydd na pha mor llonydd yw’r dŵr. Gwnewch nodyn o amser y llanw rhag ofn i chi gael eich ynysu, a cheisiwch ddewis traeth lle mae achubwyr bywyd yn bresennol, a gwybod pwy i’w ffonio mewn argyfwng. Gwiriwch ganllawiau diogelwch ar y traeth yr RNLI am awgrymiadau ar gadw’n ddiogel.