Wrth ichi ddod allan o’r twnnel hir i mewn i’r orsaf, datgelir hanes diwydiant llechi Blaenau Ffestiniog. Roedd Gloddfa Ganol, sydd ar gau i ymwelwyr yn awr, unwaith yn chwarel lechi fwyaf y byd. Mae Ceudyllau Llechi Llechwedd yn cynnig taith drawiadol trwy fyd tanddaearol y chwarelwr Fictoraidd ac maent ar agor gydol y flwyddyn.
Mae trên fach stêm Ffestiniog yn cychwyn ei thaith o Flaenau Ffestiniog ac yn ymdroelli drwy 14 milltir o olygfeydd gwych i dref harbwr prysur a darluniadol Porthmadog. Mae’n cysylltu â lein Arfordir y Gorllewin ym Minffordd.
Gellir cael un tocyn drwodd ar gyfer siwrneiau Rheilffordd Ffestiniog o unrhyw Orsaf Reilffordd ym Mhrydain. Mae llwybrau bys i Ddolgellau ac Abermaw yn cysylltu â’r Orsaf Reilffordd.