Dyluniwyd gorsaf reilffordd Bangor gan y pensaer Francis Thompson; fe gostiodd £6,960 i’w hadeiladu (tua £22 miliwn heddiw), ac fe’i hagorwyd ym mis Mai 1848 gan Reilffordd Caer a Chaergybi. Dyma’r orsaf olaf sydd ar y tir mawr ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru, cyn iddi groesi’r Fenai, nodwedd sy’n ategu ei bwysigrwydd fel canolbwynt trafnidiaeth prysur.
Yn ogystal â brolio nifer o linellau lleol, gan gynnwys rhai at Fethesda yn Eryri, ac at dref Caernarfon (y ddau bellach ar gau), roedd gorsaf Bangor hynod o brysur yn ystod diwedd oes Fictoria a’r oes Edwardaidd. Roedd yn gweithredu amrywiaeth eang o wasanaethau dinasol, gan gynnwys gwasanaethau cyflym i Lundain, i ganolbarth Lloegr ac i ogledd Lloegr.
Gorffennwyd yr orsaf a welwn heddiw ym 1927 ac yn ôl safonau’r dydd roedd yn hynod nodedig. Roedd yn cynnwys adeilad gorsaf mawr, pedwar platfform ar gyfer y brif lein, platfform cangen leol, iard nwyddau, sied injan a throfwrdd, dau focs signalau, yn ogystal â phont droed a thanlwybr i gysylltu’r platfformau.
As the branch lines gradually closed, the station’s platforms were decreased from four to two. However, its significance as a transport hub ensures and every year Bangor welcomes almost three-quarters of a million passengers.