Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau y bydd trigolion Dolwyddelan bellach yn elwa o gysylltiadau trafnidiaeth gwell yn dilyn estyniad i wasanaeth fflecsi Dyffryn Conwy.
Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mae estyniad Dolwyddelan yn cynnwys dau man codi teithwyr yng ngorsafoedd trenau Y Gwydyr a Dolwyddelan.
Bydd fflecsi ar waith yn ardal Dolwyddelan rhwng 6.30am a 7.00pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Mae fflecsi Dyffryn Conwy yn wasanaeth bws ar alw, ac nid oes ganddo lwybr nac amserlen sefydlog – dim ond parth gweithredu, sy’n caniatáu i deithwyr gael eu codi a’u gollwng yn unrhyw le yn y parth fflecsi hwnnw.
Yn hytrach na gorfod aros am fws mewn safle bws, gall teithwyr archebu taith ymlaen llaw gan ddefnyddio ap fflecsi, neu drwy ffonio 0300 234 0300.
Rhoddir gwybod i deithwyr ble i ddal y bws a pha bryd y bydd yn cyrraedd – bydd y man casglu mor agos â phosibl at leoliad y teithiwr.
Dywedodd Huw Morgan, Pennaeth Trafnidiaeth Integredig Trafnidiaeth Cymru:
“Mae fflecsi Dyffryn Conwy wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus mewn cymunedau gwledig ers bron i dair blynedd, ac rydym yn falch o fod yn ymestyn y gwasanaeth i Ddolwyddelan.
“Rydym yn cydnabod bod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn gallu bod yn heriol i rai cymunedau gwledig yng Nghymru, ac rydym yn parhau i edrych ar opsiynau i wella gwasanaethau lle mae galw priodol.
“Rwy’n gobeithio bod trigolion Dolwyddelan o’r farn bod y gwasanaeth fflecsi yn ateb dibynadwy ac effeithlon sy’n rhoi’r cysylltiadau angenrheidiol iddyn nhw deithio yn yr ardal.”
Dywedodd y Cynghorydd Liz Roberts o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:
“Mae cymuned Dolwyddelan yn ardal LL25 mor falch bod llais ei thrigolion wedi cael ei glywed, ac rydym yn edrych ymlaen at gael y gwasanaeth fflecsi. Mae natur wledig a thrafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol os ydym am gael mynediad at waith, gweithgareddau pleser a siopa.”