Prosiect Llwybrau Gwyrdd yn rhoi hwb mawr i fioamrywiaeth

Mae bioamrywiaeth wedi’i wella mewn 25 o orsafoedd rheilffordd ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau drwy brosiect Llwybrau Gwyrdd Trafnidiaeth Cymru (TrC).

Scouts group gardening at the station in Kidwelly with the train in the background

Mae’r fenter 18 mis o hyd wedi’i defnyddio i greu mannau gwyrdd a gwella bioamrywiaeth mewn 25 o orsafoedd trenau TrC a phum ardal gymunedol, oll o fewn milltir i orsaf.

Gan weithio ochr yn ochr â thimau cynaliadwyedd a rheilffyrdd cymunedol TrC, mae 176 o wirfoddolwyr wedi helpu i wella dros 1,000 metr sgwâr o dir ar gyfer bioamrywiaeth, wedi plannu 125 o blanhigion mewn gorsafoedd a gosod mwy na 300 o nodweddion gwyrdd.

Cefnogwyd prosiect Llwybrau Gwyrdd gan £100,000 o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol drwy Gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.  Gwariwyd bron i 80% o’r cyllid gyda busnesau a sefydliadau lleol Cymreig.

Dywedodd Dr Louise Moon, Rheolwr Rhaglen Datblygu Cynaliadwy TrC: “Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan helpu i wella bioamrywiaeth mewn gorsafoedd ledled Cymru a’u gwneud yn fannau mwy lliwgar a chroesawgar i’n teithwyr.

“Mae nifer o dimau ar draws TrC wedi gweithio’n galed i roi’r prosiect ar waith ac mae’n rhaid i ni dalu teyrnged i waith ein gwirfoddolwyr cymunedol a mabwysiadwyr gorsafoedd ledled y wlad. Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda nhw ar y prosiect hwn i allu cefnogi eu huchelgeisiau a’u dyheadau wrth greu mannau gwyrdd.  Mae’r mannau hyn nid yn unig yn cefnogi bioamrywiaeth ond yn cefnogi iechyd a lles pobl a chymunedau lleol hefyd.”

Dengys gwaith monitro ecolegol cychwynnol TrC bod byd natur yn dychwelyd i orsafoedd a mannau cymunedol cyfagos gyda mwy o rywogaethau’n cynyddu a gwelliannau i beillwyr wedi’u cofnodi.  Amcangyfrifir bod prosiect Llwybrau Gwyrdd wedi cynyddu nifer y rhywogaethau mewn gorsafoedd o fwy na 700 ac amcangyfrifwyd bod mwy na 3,000 o welliannau peillwyr wedi’u gwneud hyd yma.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Llwybrau Gwyrdd Trafnidiaeth Cymru ewch i  Llwybrau gwyrdd | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)