Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn helpu teuluoedd a ffrindiau i archwilio Cymru a’r Gororau am lai drwy gynnig tocyn Teithio am Ddim i Blant yr hanner tymor hwn.
Gall hyd at ddau blentyn dan 11 oed deithio am ddim gydag oedolyn sy’n talu am docyn ar wasanaethau TrC ac mae oedran yr oedolyn sy’n cyd-deithio bellach wedi’i ostwng o 18+ i 16+.
Gall plant 11 i 15 oed deithio am ddim ar adegau tawel ar wasanaethau TrC rhwng 9.30am – 4pm ac ar ôl 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a thrwy’r dydd ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Gall hyd at ddau blentyn 11 i 15 oed deithio am ddim yn ystod oriau brig gydag oedolyn sy’n talu am docyn (16+).
Nid oes cyfyngiad ar nifer y plant 0-4 oed all deithio gydag oedolyn yn talu am docyn unrhyw amser ar unrhyw wasanaeth rheilffordd yn y DU.
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod heriol iawn i lawer o bobl wrth i ni wynebu argyfwng costau byw ac rydym wedi ymrwymo i leihau cost defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
“Rydym wedi symleiddio ein cynnig Teithio am Ddim i Blant i annog cymaint o bobl â phosibl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle’r car, gan arbed arian a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd hefyd.”
Mae tocynnau am ddim ar gael o swyddfeydd tocynnau Trafnidiaeth Cymru a chan y tocynwyr ar ein trenau. Caiff cynnig newydd Teithio am Ddim i Blant ei lansio yr hanner tymor hwn ond mae ar gael trwy gydol y flwyddyn.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynnig Teithio am Ddim i Blant ac ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau dysgu am ddim yn ymwneud â’r rheilffyrdd i blant, ewch i https://trc.cymru/plant-i-gael-teithio-am-ddim
Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn gweithio gyda Cadw i gynnig 2 docyn am bris 1 i’w gwsmeriaid ar bris mynediad i’w safleoedd hanesyddol os ydych yn cyrraedd yno ar y trên.
Gyda thocyn trên un diwrnod dilys, caiff teithwyr ddau docyn mynediad am bris un wrth ymweld â rhai o dirnodau mwyaf adnabyddus Cymru.
Am ragor o wybodaeth ewch i Mynediad 2-am-1 Cynnig Tirnodau Hanesyddol | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)[:]