Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru (Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy) wedi llwyddo i ennill achrediad gan Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith y mae am ei gwblhau mewn cymunedau lleol, sy’n cynnwys Dyffryn Conwy a’r arfordir o Gyffordd Llandudno i Gaergybi, dros y tair blynedd nesaf.
Mae’r bartneriaeth yn gweithio ochr yn ochr â Thrafnidiaeth Cymru, ac yn cael ei gynnal gan Greu Menter, menter gymdeithasol leol sydd â gwerth cymdeithasol mawr wrth fuddsoddi mewn cymunedau, gwirfoddolwyr, a dod o hyd i swyddi i bobl, i sicrhau newid cadarnhaol ledled y rhanbarth.
Gyda chefnogaeth gan Gadeirydd y Bartneriaeth, y cynghorydd Philip Evans, a’r Rheolwr Rheilffyrdd Cymunedol Melanie Lawton, mae Karen Williams, Swyddog Rheilffordd a gweithiwr Creu Menter, wedi creu cynllun gweithgaredd sy’n ateb meini prawf yr Adran Drafnidiaeth isod, sef:
- Rhoi llais i’r gymuned
- Hyrwyddo teithio cynaliadwy, iachus a hygyrch
- Dod â chymunedau at ei gilydd a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant
- Cefnogi datblygiadau cymdeithasol ac economaidd
Meddai Karen: “Rwy’n falch iawn i fy nghynllun gweithgaredd gael ei gytuno gan yr Adran Drafnidiaeth, ac wedi cyffroi gan y gallu i gychwyn y prosiectau hyn a mynd yn ôl allan i’r gymuned wrth i gyfyngiadau llacio. Mi fydd yn wych cyflwyno’r prosiectau rydw i wedi’u cynllunio a gweld effaith trawsnewidiol ar fywydau pobl.”
Meddai’r cynghorydd Philip Evans, cadeirydd Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru: “Mae hyn yn gydnabyddiaeth arbennig o drefniadau a rhaglen y Bartneriaeth. Mae’r achrediad yn rhoi sicrwydd i ni a’n partneriaid bod ein hamcanion yn gyraeddadwy ac yn unol â dyheadau’r teulu Rheilffordd Gymunedol.”