Bu nifer amrywiol o newidiadau sylweddol i Bartneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Wedi cyfnod llwyddiannus gyda’r rheilffordd, gadawodd ein Swyddog Rheilffordd Cymunedol, Melanie Lawton, ein plith, gan iddi sicrhau swydd newydd gyda Thrafnidiaeth Cymru fel Rheolwr Rheilffordd Cymunedol ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru. Cyflwynodd Mel nifer o ddatblygiadau arloesol yn ei hamser gyda ni – yn enwedig trwy godi proffil yr CRP ar gyfryngau cymdeithasol, a sefydlu cysylltiadau cadarn â’r sectorau busnes a thwristiaeth. Rydym yn falch iawn y bydd Mel yn parhau i aros yn yr ardal ac edrychwn ymlaen at gydweithio gyda hi yn ei rôl newydd.
Ar adeg ymadawiad Mel, ystyriodd y CRP adolygu eu trefniadau cynnal gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Sbardunwyd hyn gan newidiadau mewnol yn strwythur y Cyngor, a’r angen i ni fod yn fwy cysylltiedig â’r gymuned, er mwyn gweithredu’n unol â gweledigaeth Trafnidiaeth Cymru i fod yn llai dibynnol ar systemau awdurdod lleol, a dulliau nad oedd o reidrwydd yn rhoi’r hyblygrwydd i ni i’r fath raddau y bydd ei angen arnom ar gyfer y dyfodol.
Penderfynodd y CRP bartneru â Chreu Menter, menter gymunedol leol sy’n is-gwmni i Gartrefi Conwy, prif Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn yr ardal. Ar ôl trafodaethau, trosglwyddwyd y trefniadau cynnal i Greu Menter ym mis Medi 2020. Yn ein barn ni, mae’r cydweithrediad â Chreu Menter yn gweithio’n dda, ac wedi arwain at adnewyddu hen adeiladau mewn dwy o’n gorsafoedd i ddarparu canolfan galw heibio, cyfleuster desg boeth, a chaffi menter gymdeithasol. Rydym yn ddiolchgar dros ben i Hugh Evans, Pennaeth Rheilffordd Gymunedol Trafnidiaeth Cymru, am ei holl gefnogaeth a’i arweiniad drwy’r broses drosglwyddo.
Fel olynydd i Mel, penodwyd Karen Williams, rheolwr prosiect Creu Menter, sydd â chefndir llwyddiannus mewn creu cyswllt â’r gymuned ar draws gogledd Cymru. Mae Karen wedi ymgartrefu’n dda, er gwaethaf y cyfyngiadau a ddaeth yn sgil y firws Covid19, sydd wedi ein rhwystro rhag symud ymlaen rhai meysydd yr ydym am eu datblygu. Her ychwanegol i Karen fu ymestyn ardal y bartneriaeth i gynnwys rhan o’r rheilffordd rhwng Cyffordd Llandudno a Chaergybi. Wrth fynd yn ein blaenau, byddwn yn ymgysylltu â chymunedau ar Môn i roi hwb i fentrau lleol a mabwysiadu gorsafoedd ar yr ynys. Bydd angen i ni ddiweddaru ein henw a’n logo yn ogystal!
Philip C Evans JP FIoL
Caiderydd, Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy