Mae apêl wedi cael ei lansio i dalu am osod diffibrilwyr achub bywyd mewn gorsafoedd rheilffordd yng ngogledd Cymru.
Yn awr mae noddwyr yn cael eu ceisio ar gyfer y prosiect cymunedol gyda’r bwriad o “achub bywydau un curiad ar y tro” yn y gorsafoedd llai ar hyd llinellau rheilffyrdd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru.
Cyhoeddwyd yr apêl gan bartneriaeth newydd rhwng Trafnidiaeth Cymru a Network Rail, ynghyd â Cadwch Curiadau sy’n gronfa benodol i’r pwrpas yma o fewn elusen GIG Gogledd Cymru, Awyr Las.
Y cyntaf i gamu ymlaen oedd cymdeithas dai Cartrefi Conwy sy’n noddi’r diffibriliwr cyhoeddus wrth fynedfa gorsaf Heol Dinbych yn Llanrwst.
Mae’r bartneriaeth yn awr yn chwilio am noddwyr eraill er mwyn gallu ariannu’r diffibrilwyr yn yr 11 gorsaf arall, sef Blaenau Ffestiniog, Pont y Pant, Betws y Coed, Talycafn, Glan Conwy, Conwy, Deganwy, Llanfairpwll, Bodorgan, Y Fali, Tŷ Croes a Rhosneigr.
Maent yn gobeithio y bydd busnesau a grwpiau lleol yn dilyn esiampl Cartrefi Conwy ac yn gwirfoddoli i ariannu’r diffibrilwyr yn eu cymunedau eu hunain.
Syniad Tomos Hughes BEM, Swyddog Cymorth Mynediad Safleoedd Diffibriliwr Cymunedol Gogledd Cymru yw’r fenter, sy’n cael ei ariannu gan Cadwch Curiadau i osod diffibrilwyr ledled y Gogledd, gan gynnwys un ar ben yr Wyddfa.
Meddai: “Mae Cadwch Curiadau yn rhan o elusen GIG Awyr Las sy’n cael ei rhedeg gan staff rheng flaen ac sy’n darparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu.
“Mae diffibrilwyr wedi achub llawer o fywydau yng ngogledd Cymru a rŵan rydym am fynd â hyn un cam ymhellach i wneud yn siŵr bod gan ein cysylltiadau trafnidiaeth yr un lefel o gefnogaeth pe bai ataliad ar y galon yn digwydd.
“Mae diffibriliwr yn rhoi sioc drydanol i’r claf ar draws y galon sydd gyda’r bwriad o gael y galon yn ôl i weithio ar rythm iawn.
“Os bydd rhywun yn ffonio 999 ac yn gofyn am ambiwlans ac os yw’n debygol bod ataliad ar y galon wedi digwydd bydd y person sy’n ateb galwadau ambiwlans yn cyfeirio’r galwr at y peiriant diffibriliwr agosaf ac yn rhoi cod iddynt gael mynediad i’r cabinet lle mae’r peiriant yn cael eu gadw.
“Yna gall y galwr ddefnyddio’r diffibriliwr nes i’r criw ambiwlans gyrraedd. Mae’r diffibriliwr Dyfais Allanol Awtomataidd (AED) ei hun yn rhoi cyfarwyddiadau llafar, hawdd eu dilyn, i’r defnyddiwr. Fedrwch chi ddim brifo rhywun na gwneud pethau’n waeth trwy ddefnyddio diffibriliwr. Dim ond os bydd ei angen y bydd sioc yn cael ei rhoi.”
Dewisodd Cartrefi Conwy noddi diffibriliwr Llanrwst oherwydd eu bod ar hyn o bryd yn ailddatblygu ystâd Glanrafon yn y dref, gan weddnewid bloc 30 o fflatiau a’i droi’n 14 o gartrefi modiwlaidd di-garbon yn ogystal â gwneud gwelliannau sylweddol i chwe bloc arall o fflatiau fel rhan o brosiect £4.3 miliwn i drawsnewid yr ystâd dai o’r 1970au.
Mae Sharon Jones, Cyfarwyddwr Busnes a Phartneriaeth gyda chymdeithas dai Cartrefi Conwy a’i his-gwmni, Creu Menter, yn gefnogwr brwd o’r syniad.
Meddai: “Mae’n bwysig iawn bod gennym ddiffibrilwyr ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd yng ngogledd Cymru.
“O’n rhan ni, roedd noddi’r diffibriliwr yn Llanrwst yn arbennig o addas oherwydd dyma un o’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac rydym yn buddsoddi’n helaeth mewn ailddatblygu ystâd Glanrafon ac mewn cynllun tai modiwlaidd arall ar gyrion y dref.
“Rydyn ni’n gweithio’n agos iawn gyda Trafnidiaeth Cymru fel un o’n partneriaid strategol a gyda’n gilydd rydyn ni’n creu hyb cymunedol newydd yn yr orsaf reilffordd yn Llandudno.”
Dywedodd prif weithredwr Cartrefi Conwy, Andrew Bowden: “Mae’n anrhydedd i ni fod yn un o’r cyntaf i ymrwymo i’r prosiect achub bywyd gwych hwn i gefnogi ein cymunedau lleol a phobl sy’n ymweld â’r ardal.
“Rydym yn dymuno cefnogi diogelwch ein cymunedau lleol ym mha bynnag ffordd y gallwn ac os yw’n golygu y gellir achub hyd yn oed un bywyd yna mae hynny’n amhrisiadwy ac yn werth pob ceiniog o’r gefnogaeth a’r buddsoddiad.”
Ategwyd y teimlad gan Melanie Lawton, Rheolwr Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru.
Meddai: “Rydym wrth ein boddau ein bod yn chwarae rhan ganolog yn y prosiect hynod werth chweil hwn er lles ein teithwyr a chymunedau cyfagos a allai fod angen ymyrraeth frys. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi pa mor hanfodol yw cael yr adnoddau pwysig hyn i sicrhau bod diogelwch y cyhoedd yn cael blaenoriaeth.”
Ychwanegodd Karen Williams Swyddog Rheilffordd Cymunedol ar gyfer Partneriaeth Rheilffordd Cymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Orllewin Cymru: “Byddem yn ddiolchgar iawn i unrhyw un sy’n dymuno cefnogi’r prosiect hwn trwy godi arian, noddi neu gyfrannu at y prosiect a’r achos teilwng hwn.”
Tecstiwch “KTB” i 70500 er mwyn cyfrannu £5 yn syth neu os ydych am gael mwy o wybodaeth neu becyn nawdd corfforaethol cysylltwch â Tîm Cefnogi Codi Arian Awyr Las ar 01248 384395 / awyrlas@wales.nhs.uk neu ewch i https://awyrlas.org.uk/cy/ktb