Mae’r Afon Conwy ymhell o fod yn afon o bwys yn DU. Nid yw’n agos at fod yr afon hiraf yng Nghymru ychwaith. Ond serch hynny, mae’r hyn y mae’n llwyddo i’w gynnwys ar hyd ei 27 milltir yn anhygoel – rhaeadrau, grotos hudol, pontydd hynafol a thraethau glan môr – heb sôn am Gastell Conwy yn gwarchod ceg yr aber.
Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn dilyn ei glannau cyn belled â chors Migneint yn y de. Beth am ddal trên a darganfod mwy am yr afon fendigedig hon?
Tarddle’r Afon Conwy
Yn uchel ar y rhostiroedd, uwchben pentrefi chwarela Penmachno ac Ysbyty Ifan, mae Llyn Conwy, tarddle’r Afon Conwy. Os ydych chi ar feic, mae’n bosib ei gyrraedd o orsaf Betws-y-Coed, ond rhaid bod yn ffit!
Dilynwch yr A5 i’r dwyrain allan o’r pentref a throi i’r dde i Benmachno (heibio’r ffordd at Raeadr y Graig Lwyd), a pharhewch ar hyd y ffordd drwy’r pentref ac i fyny at y rhostiroedd.
Ger tŷ mawr (oes tŷ mwy unig yn y wlad?), cymerwch lôn ar y dde a’i dilyn cyn belled â Llyn Conwy, 450m uwchben lefel y môr. Wedi cyrraedd mor bell â hyn, tybed pa mor bell allwch chi ddilyn Afon Conwy i’r môr?
Rhaeadr Machno, Rhaeadr y Graig Lwyd, a Ffos Anoddun
6 milltir, cymedrol
Mae tri o brif atyniadau Afon Conwy yn agos at ei gilydd, ac mae’n hawdd cerdded atynt o orsaf Betws-y-Coed. Ni ellir osgoi rhywfaint o gerdded ar y ffordd, felly rhaid mynd yn ofalus ar rai rhannau o’r A5 a’r A470 prysur.
Mae’r ymdrech werth ei wneud fodd bynnag – dwy raeadr ysblennydd, amryw o coedwigoedd, pont hynafol a groto hudolus Ffos Anoddun. Gadewch gymaint o amser ag y gallwch ar gyfer y daith hon, er mwyn cynnwys seibiau, difyriadau a chinio yng Nghaffi Rhaeadr y Graig Lwyd.
O orsaf Betws-y-Coed, trowch i’r chwith i’r A5, wedyn i’r dde ger y siop Cotswold Outdoor. Dilynwch y ffordd i’r de am filltir, heibio’r pentref ac allan drwy’r goedwig, gan ddilyn cwrs yr Afon Conwy (sy’n rhedeg o dan Rheilffordd Dyffryn Conwy).
Wrth gyffordd yr A470, trowch i’r chwith, a chroeswch y bont yn ofalus (nid oes palmant), wedyn cymerwch y trac ar y dde. Mae hwn yn arwain at fwa lle rydych chi’n talu 50c i fynd i mewn i Fairy Glen; mae golygfan a llwybr ceunant i’w archwilio yno.
Nawr i fynd am Raeadr y Graig Lwyd. Trowch i’r dde ar drac, a’i ddilyn wrth iddo ddod yn llwybr trwy’r coed nes i chi gyrraedd yr A5. Mae llwybr troed ar ochr y ffordd yma sy’n dod â chi i Gaffi Rhaeadr y Graig Lwyd a’r fynedfa i’r rhaeadr, sydd wrth gyffordd ffordd Penmachno. Dyma’r fan am ychydig o ginio!
Ar ôl cinio, mae ffi fach arall i’w thalu (£1) i gael mynediad i safle Rhaeadr y Graig Lwyd. Mae’r llwybrau gorau i’r chwith ac yn gwneud cylch ar hyd pen y ceunant. Wedi i chi gwblhau’r tro crwn, ewch i’r dde lawr Ffordd Penmachno, ac ar ôl tua 800m trowch i’r dde ger nifer o adeiladau.
Mae’r ffordd gefn hon fel arfer yn dawel, felly cymerwch eich amser. Ychydig heibio hen Felin Wlân Penmachno, byddech yn croesi Afon Conwy islaw Rhaeadr Machno. Edrychwch i lawr yr afon am y bont ganoloesol, sydd bellach yn wyrdd i gyd gyda mwsogl a rhedyn.
Dilynwch y ffordd i lawr yr allt. Bydd cilfan yn rhoi golygfa wych i chi i fyny’r ceunant, a thu hwnt iddi mae llwybrau trwy’r coed yn arwain at ysgol bysgod a rhagor o olygfeydd o’r afon. Dychwelwch at y lôn, anwybyddwch droadau chwith a dde tan gyrraedd yr A470. Trowch i’r dde a dilynwch y llwybr yn ôl i’r troad chwith nesaf, y lôn fach yn ôl i Betws-y-Coed.
Pontydd rhyfeddol…
Ceir pontydd hen a newydd, wedi eu creu o bob math o ddulliau adeiladu, yn croesi Afon Conwy. Gan ddechrau ym Metws-y-Coed a throi tua’r gogledd at y môr, gallwch ddarganfod y canlynol:
- Mae pont grog Sappers yn groesfan i gerddwyr ger Eglwys St Michael’s, nid ymhell o orsaf Betws-y-Coed. Pont bren oedd yn cysylltu gwersyll byddin â’r pentref (dyna o le daw’r enw) oedd yna’n wreiddiol, ac mae’r bont grog yn dyddio o 1930. Cyn y bont bren, defnyddiwyd cerrig camu i groesi’r afon, ac mae’n bosibl eu gweld o hyd;
- Mae Pont Fawr yn bont garreg gul gyda tair bwa, ac fei priodolir i’r dylunydd Inigo Jones; mae’n cysylltu Llanrwst â Chastell Gwydir. Mae’n un o’r pontydd mwyaf deniadol a ffotogenig ar Afon Conwy, ynghyd â’r llys o’r 15fed ganrif, Tu Hwnt i’r Bont, sydd bellach yn ystafell de sy’n edrych yn syfrdanol yn yr hydref pan fydd y dail sy’n ei orchuddio’r yn troi’n goch;
- Mae Pont Rheilffordd Conwy yn bont rhestredig Gradd I, a’r enghraifft olaf sydd wedi goroesi o bont diwb o haearn gyr, a ddyluniwyd gan Robert Stephenson. Mae’n rhedeg yn gyfochrog â’r bont grog a adeiladwyd yn gynharach gan Thomas Telford, un o’r pontydd crog cyntaf yn y byd. Y ffordd orau i’w weld yw
- …..i gerdded pont grog Telford, sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gallwch hefyd ymweld â’r tolldy, lle roedd teulu o chwech yn byw ac yn gweithio yn yr 1890au, ac yn cymryd tollau ar gyfer y bont 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Roeddent hyd yn oed yn gwerthu ffrwythau a llysiau i’r rhai oedd yn pasio, gan eu tyfu mewn gardd fach ar y bont!
Rhowch gynnig ar gregyn gleision
Ni fyddai unrhyw brofiad o Afon Conwy yn gyflawn heb roi cynnig ar ei gregyn gleision blasus! Galwch i mewn i siop Conwy Mussels wrth ymyl y bad achub ar Gei Conwy (gadewch y trên yng Nghyffordd Llandudno a mwynhewch y daith gerdded olygfaol ar draws y cob, neu dewch ar y trên yn syth i ganol tref Conwy).
Yn lle treillio rhwydi, a allai fod yn niweidiol, mae cregyn gleision Conwy yn cael eu cynaeafu trwy gribinio â llaw gan ddefnyddio polion 20 troedfedd o hyd, sgil a drosglwyddwyd dros genedlaethau . Mae’r cregyn gleision yn cael eu golchi, eu puro, a’u golchi eto ar y cei yng Nghonwy, wedyn eu pigo â llaw a’u pwyso, cyn cael eu gwerthu i’r cyhoedd a rhai o’r bwytai gorau ledled y byd.
I’w blasu yn lleol, anelwch am fwyty Paysanne neu’r Quay Hotel; mae’r ddau ar draws yr afon yn Neganwy (sy’n orsaf gais ar lein Dyffryn Conwy).
Ac i gloi, y môr a’i thraethau
Mae dau draeth dymunol yn gwarchod yr aber lle mae’r Afon Conwy yn llifo i’r môr. Ar y glannau ochr Conwy, mae twyni yn cuddio traeth Morfa Conwy. Gallwch ei gyrraedd ar droed o Reilffordd Dyffryn Conwy trwy adael y trên yn Neganwy a dilyn y llwybr troed arfordirol, sy’n croesi’r afon, cyn dirwyn ei ffordd o’r cei o amgylch y pentir.
Ar ochr arall yr afon, mae traeth Deganwy ychydig lathenni o orsaf Deganwy. Dilynwch y llwybr gerdded i’r gogledd, gan ddilyn llwybr yr arfordir, a chyn hir byddwch yn cyrraedd traeth tywodlyd Pen Morfa yn Llandudno, sy’n dawelach ac yn fwy naturiol na glannau prysur Traeth y Gogledd.
Mae llawer iawn mwy o fannau eraill ar hyd Dyffryn Conwy lle gallwch edmygu’r afon. Y cyngor gorau y gallwn ei roi yw eich annog i dreulio peth amser yma, a theithio i fyny ac i lawr y dyffryn ar y trên i ddarganfod eich rhan arbennig eich hun o Afon Conwy.