Bydd Llinell Dyffryn Conwy, sy’n rhedeg o Flaenau Ffestiniog i Landudno yn y Gogledd, yn ailagor ar 28 Medi ar ôl i fuddsoddiad Network Rail gwerth £2.2 miliwn i amddiffyn y rheilffordd yn well rhag tywydd eithafol a llifogydd gael ei gwblhau.
Cafodd y llinell ei golchi i ffwrdd gan lifogydd dwywaith yn y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd wedi golygu y bu’r rheilffordd ar gau i deithwyr a chymunedau lleol am gyfnodau hir wrth i’r rheilffordd gael ei hatgyweirio.
Cafodd y gwelliannau i amddiffyn y llinell hanfodol yn well eu dylunio a’u hadeiladu’n gyfan gwbl gan Network Rail ac maent yn golygu gosod 16,000 o dunelli o arfogaeth greigiau wrth ochr bron 2km o reilffordd rhwng Tal-y-cafn a Llanrwst. Bydd hyn yn helpu i wella cydnerthedd y rheilffordd wrth i lifogydd ddigwydd yn fwyfwy aml yn y dyffryn.
Mae’r arfogaeth greigiau newydd hon yn arafu’r dŵr er mwyn ei atal rhag ysgubo arglawdd y rheilffordd i ffwrdd a gadael y trac yn hongian yn yr aer, sy’n arwain at stopio trenau am gyfnodau sylweddol.
Rhoddwyd prawf ar yr amddiffynfeydd gwell ar linell Dyffryn Conwy ar ddiwedd mis Awst pan ddaeth Storm Francis â glaw trwm i’r ardal, gyda llifogydd ar y fynedfa i’r safle, ond ni chafwyd difrod i’r rheilffordd ei hun yn ystod y tywydd eithafol.
A’r gwaith cydnerthedd wedi’i gwblhau erbyn hyn, bydd Trafnidiaeth Cymru’n trefnu hyfforddiant diweddaru i yrwyr y trenau ar ôl cau’r llinell am gyhyd, cyn i wasanaethau ailddechrau ar 28 Medi. Yn y cyfamser, bydd bysiau’n parhau i redeg yn lle trenau i deithwyr.
Dywedodd Bill Kelly, Cyfarwyddwr Llwybrau Cymru a’r Gororau Network Rail: “Rwyf wrth fy modd bod Llinell Dyffryn Conwy wedi’i hamddiffyn yn well yn awr gan fod tywydd eithafol wedi golygu y bu’n rhaid ei chau yn rhy aml yn y blynyddoedd diwethaf.
“Rydym wedi gweithio bob awr o’r dydd yn y misoedd diwethaf nid yn unig i atgyweirio’r llinell, ond i’w gwneud yn fwy cydnerth fel y gallwn atal cau’r llinell am amser maith yn y dyfodol.
“Hoffwn ddiolch i’r teithwyr a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar hyd y llinell am eu hamynedd wrth i’r buddsoddiad sylweddol hwn gael ei gyflawni.”
Dywedodd y Gweinidog Rheilffyrdd Chris Heaton-Harris: “Mae llinell Dyffryn Conwy yn gysylltiad hollbwysig i lawer o gymunedau lleol yn y Gogledd, a bydd y buddsoddiad hwn yn gwella cydnerthedd y llwybr hanfodol hwnnw yn ystod tywydd eithafol.
“Bydd uwchraddio amddiffynfeydd y rheilffordd yn helpu i atal cau’r llinell am amser maith i deithwyr, yn golygu na fydd angen gwasanaethau bysiau yn lle trenau, sydd yn achosi rhwystredigaeth, ac yn cyflawni amserlen fwy dibynadwy y gall pobl ddibynnu arni.”
Dywedodd Martyn Brennan, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Trafnidiaeth Cymru: “Mae’n wych gweld ein cydweithwyr yn Network Rail yn bwrw ymlaen â gwaith ar linell Dyffryn Conwy a byddwn yn adfer gwasanaethau rheilffordd ar 28 Medi, ar ôl i’r gyrwyr gael hyfforddiant er mwyn iddyn nhw ymgyfarwyddo â’r llwybr unwaith eto.
“Hoffwn ddiolch i’n cwsmeriaid am eu hamynedd a gofyn iddyn nhw barhau i wirio gwasanaethau ar lein. Byddwn yn parhau i ddarparu cysylltiadau trafnidiaeth gan ddefnyddio bysiau yn lle trenau.”
Tra bo hyfforddiant hollbwysig Trafnidiaeth Cymru i yrwyr trenau’n digwydd, bydd Network Rail yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar y llinell, fel adnewyddu sliperi. Roedd y gwaith hwn i fod i ddigwydd yn y nos, ond mae’r cyfle i’w wneud yn ystod y dydd pan nad yw trenau’n rhedeg yn golygu llai o darfu i bobl sy’n byw yn ymyl y rheilffordd ac amodau gwaith mwy diogel i weithwyr y rheilffordd.