Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru wedi cael cartref newydd gyda Groundwork Gogledd Cymru.
Bydd y bartneriaeth a ariennir gan Trafnidiaeth Cymru yn datblygu ac yn hyrwyddo rheilffordd Dyffryn Conwy rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog a rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru rhwng Caergybi a Shotton. Nod y bartneriaeth yw datblygu mentrau lleol i wella’r rheilffyrdd a chefnogi’r cymunedau sy’n byw wrth ymyl y rheilffyrdd.
Yn ddiweddar, cafodd y bartneriaeth ei hailenwi yn Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru yn hytrach nag Arfordir Gorllewin Cymru yn sgil ychwanegu gorsafoedd a chymunedau rhwng Bae Colwyn a Shotton.
Mae’r rheilffyrdd yn gyswllt hanfodol rhwng cymunedau a bydd y bartneriaeth yn datblygu ac yn cynnal mentrau gwyrdd, gan annog twristiaeth gynaliadwy a hyrwyddo gweithgareddau awyr agored sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar hyd y rheilffyrdd. Bydd y bartneriaeth yn annog pobl o bob oed i wirfoddoli, ynghyd â chefnogi grwpiau cymunedol, ysgolion, a grwpiau ieuenctid.
Dywedodd Cadeirydd y Bartneriaeth Rheilffordd, Philip Evans, ei fod yn falch bod y berthynas newydd yn gweithio’n dda a’i fod yn edrych ymlaen i weithio gyda Groundwork Gogledd Cymru i ddatblygu’r gwahanol brosiectau ar draws yr ardal.
“Mae’r rheilffordd yn gyswllt hanfodol rhwng cymunedau ar hyd Dyffryn Conwy a bydd y bartneriaeth yn annog twristiaeth gynaliadwy a’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi i’r swydd hon ac rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod pobl leol a gweithio gyda nhw ar brosiectau lleol sy’n dod â budd enfawr i gymunedau.”
Karen Williams, Swyddog y Rheilffordd Gymunedol
Mae Karen wedi bod yn gweithio yn y cymunedau ar hyd y rheilffordd gan gynorthwyo i lansio’r rhaglen Grant Cydnerthedd Cymunedol. Diolch i nawdd gan Gronfa Her Trafnidiaeth Cymru, mae mudiadau cymunedol, elusennau a chwmnïau budd cymunedol sy’n gweithio mewn cymunedau ar hyd y rheilffyrdd wedi cael cyfle i wneud cais am gymorth i ariannu prosiectau sy’n targedu cynhwysiant cymdeithasol, yn annog newid ymddygiad, ac sy’n gysylltiedig â gweithgareddau iach a lles, ynghyd â hyrwyddo’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, lle bo’n bosibl.
Mae disgyblion Blynyddoedd 8 a 9 Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, wedi creu darn o gelf ar gyfer gorsaf Gogledd Llanrwst, yn seiliedig ar ddiogelwch y rheilffyrdd. Hefyd, cafodd aelodau Beavers Porthaethwy gyfle i fwynhau taith ar y trên o Lanfairpwll i Gaergybi yng nghwmni Heddlu Trafnidiaeth Prydain a fu’n sgwrsio â nhw am ddiogelwch y rheilffyrdd. Cafodd pob aelod o’r Beavers fathodyn diogelwch ar ôl cwblhau’r daith.
Gan weithio gyda Thîm Datblygu Hamdden Ffit Conwy mae’r bartneriaeth wedi cynnal cyfres o sesiynau e-feicio AM DDIM yn ardal Cyffordd Llandudno. Ariennir y prosiect cyffrous hwn gan Avanti West Coast.
Mae cael effaith gymdeithasol gadarnhaol yn un o ddibenion craidd ein Rheilffordd Gymunedol; ynghyd â gwneud gwahaniaeth a chefnogi’r gwaith o gyflenwi Strategaeth Cysylltu Cymunedau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd cymdeithasol a meithrin cysylltiadau cymdeithasol cryfach.