Dyddiad Diweddaru Diwethaf 21 Mawrth 2024 Dyddiad y daw i rym 21 Mawrth 2024
Mae’r Rhybudd Preifatrwydd hwn yn disgrifio polisïau Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru, a’r sefydliad sy’n ei chynnal sef Groundwork Gogledd Cymru, 3-4 Plas Power, Tanyfron, Southsea, Wrecsam LL11 5SZ, Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, ebost: hello@conwyvalleynorthwalescoast.com, rhif ffôn: 01978 757524 ynglŷn â pha wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu, ei defnyddio a’i datgelu amdanoch chi pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan (https://www.conwyvalleynorthwalescoast.com). (y “Gwasanaeth”). Trwy gyrchu neu ddefnyddio’r Gwasanaeth, rydych yn rhoi caniatâd i ni gasglu, defnyddio a datgelu eich gwybodaeth yn unol â’r Rhybudd Preifatrwydd hwn. Os nad ydych yn cydsynio i hyn, peidiwch â chyrchu neu ddefnyddio’r Gwasanaeth.
Gallwn addasu’r Rhybudd Preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg heb roi rhybudd ymlaen llaw i chi a byddwn yn postio’r Rhybudd Preifatrwydd diwygiedig ar y Gwasanaeth. Bydd y Rhybudd diwygiedig yn dod i rym 180 diwrnod ar ôl y dyddiad pan cafodd y Rhybudd diwygiedig ei bostio ar y Gwasanaeth ac os byddwch yn parhau i gyrchu neu ddefnyddio’r Gwasanaeth ar ôl yr adeg hon, bydd hynny’n golygu eich bod yn derbyn y Rhybudd Preifatrwydd diwygiedig. Rydym felly yn argymell eich bod yn edrych ar y dudalen hon o bryd i’w gilydd.
1. Gwybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch:
Byddwn yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth bersonol ganlynol amdanoch chi:
- Eich enw
- Eich cyfeiriad e-bost
2. Sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch chi:
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch chi at y dibenion canlynol:
- Casglu adborth cwsmeriaid
- Cymorth
Os bydd angen i ni ddefnyddio’r wybodaeth amdanoch am unrhyw ddiben arall, byddwn yn gofyn i chi gydsynio i hyn a byddwn yn defnyddio eich wybodaeth dim ond ar ôl i ni dderbyn caniatâd gennych, a hynny at y diben/dibenion y rhoddwyd caniatâd ar ei gyfer/eu cyfer yn unig, oni bai ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
3. Sut rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol:
Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti heb eich caniatâd, ac eithrio yn yr amgylchiadau a ddisgrifir isod:
- Gwasanaeth hysbysebion
- Dadansoddi
Mae’n rhaid i drydydd partïon o’r fath ddefnyddio’r wybodaeth bersonol rydym yn ei throsglwyddo iddynt at y diben y cafodd ei throsglwyddo yn unig, ac ni chaniateir iddynt gadw’r wybodaeth am gyfnod hirach na’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn bodloni’r diben hwnnw.
Gallwn hefyd ddatgelu eich gwybodaeth bersonol at y dibenion canlynol: (1) cydymffurfio â’r gyfraith, rheoliadau, gorchymyn llys neu broses gyfreithiol gymwys arall; (2) gorfodi eich cytundebau â ni, gan gynnwys y Rhybudd Preifatrwydd hwn; neu (3) ymateb i honiadau bod eich defnydd o’r Gwasanaeth yn torri hawliau unrhyw drydydd parti. Os bydd y Gwasanaeth neu ein cwmni yn uno â chwmni arall neu’n cael ei brynu gan gwmni arall, eich gwybodaeth bersonol fydd un o’r asedau a gaiff ei drosglwyddo i’r perchennog newydd.
4. Cadw eich Gwybodaeth:
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am rhwng 90 diwrnod a 2 flynedd neu gyhyd ag y bydd ei hangen arnom i fodloni’r dibenion y cafodd ei chasglu ar eu cyfer, fel y nodir yn y Rhybudd Preifatrwydd hwn. Mae’n bosibl y bydd angen i ni gadw gwybodaeth benodol am gyfnodau hirach er mwyn cadw cofnodion / adrodd yn unol â chyfraith gymwys neu am unrhyw resymau cyfreithlon eraill fel gorfodi hawliau cyfreithiol, atal twyll, ac ati. Gall gwybodaeth anhysbys weddilliol a gwybodaeth a gydgesglir, nad yw’n datgelu pwy ydych chi (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), gael ei storio am gyfnod amhenodol.
Cedwir eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel ar system rheoli data’r sefydliad ac ar systemau TG eraill, gan gynnwys system e-bost y sefydliad. Mae gan Groundwork Gogledd Cymru, y sefydliad sy’n cynnal y Bartneriaeth, gymhwyster Cyber Essential cyfredol. Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich gwybodaeth bersonol rhag cael ei cholli’n ddamweiniol, ei defnyddio neu ei chyrchu mewn unrhyw ffordd anawdurdodedig, neu ei haddasu neu’i datgelu. At hyn, mae mynediad at eich gwybodaeth wedi’i gyfyngu i bobl y mae angen iddynt ei gweld am resymau busnes yn unig.
5. Eich hawliau:
Yn dibynnu ar y gyfraith gymwys, efallai bydd gennych hawl i gael mynediad at eich data personol ac i gywiro neu ddileu eich data personol neu dderbyn copi o’ch data personol, er mwyn cyfyngu ar neu wrthod prosesu gweithredol eich data, gofyn i ni rannu (porth) eich gwybodaeth bersonol i endid arall, tynnu unrhyw ganiatâd yn ôl y gwnaethoch ei roi i ni i brosesu eich data, hawl i gwyno i awdurdod statudol a hawliau eraill a all fod yn berthnasol o dan gyfreithiau cymwys. I arfer yr hawliau hyn, gallwch gysylltu â ni yn hello@conwyvalleynorthwalescoast.com. Byddwn yn ymateb i’ch cais yn unol â chyfraith gymwys.
Sylwch, os na fyddwch yn rhoi caniatâd i ni gasglu neu brosesu’r wybodaeth bersonol ofynnol neu os byddwch yn tynnu’n ôl y caniatâd i’w phrosesu i’r dibenion gofynnol, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio na chael mynediad at y gwasanaethau lle gofynnwyd am eich gwybodaeth.
6. Cwcis, ac ati
I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis a’ch dewisiadau o ran y technolegau olrhain hyn, cyfeiriwch at ein Polisi Cwcis.
7. Diogelwch:
Mae diogelwch eich gwybodaeth yn bwysig i ni a byddwn yn cymryd camau diogelwch rhesymol i geisio sicrhau na fydd yr wybodaeth bersonol amdanoch sydd o dan ein rheolaeth yn cael ei cholli, ei chamddefnyddio neu ei newid heb awdurdod. Fodd bynnag, o ystyried y risgiau cysylltiedig, ni allwn warantu diogelwch absoliwt ac o ganlyniad, ni allwn sicrhau na gwarantu diogelwch unrhyw wybodaeth rydych yn ei throsglwyddo i ni ac rydych yn gwneud hynny ar eich menter eich hun.
8. Cysylltiadau â Thrydydd Partïon a Defnydd o’ch Gwybodaeth:
Gall ein Gwasanaeth gynnwys cysylltiadau at wefannau eraill nad ydym yn eu gweithredu. Nid yw’r Rhybudd Preifatrwydd hwn yn ymwneud â rhybuddion/polisïau preifatrwydd ac arferion eraill unrhyw drydydd partïon, gan gynnwys y trydydd parti sy’n gweithredu unrhyw wefan neu wasanaeth y gellir gael mynediad ato drwy gyswllt ar y Gwasanaeth. Rydym yn eich cynghori’n gryf i ddarllen rhybudd/ polisi preifatrwydd bob safle y byddwch yn ymweld ag ef. Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys, polisïau neu arferion preifatrwydd unrhyw safleoedd neu wasanaethau trydydd partïon ac ni ydym yn ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb amdanynt.
9. Cysylltu â ni ynglŷn â’ch gwybodaeth
Os hoffech wneud y canlynol:
- cael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol
- gwneud ymholiad ynglŷn â’ch gwybodaeth – er enghraifft, gofyn am copi o’ch gwybodaeth neu ofyn am newid eich gwybodaeth
Cysylltwch â ni yn y cyfeiriadau canlynol: Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru, Groundwork Gogledd Cymru, 3-4 Plas Power, Tanyfron, Wrecsam LL11 5SZ, rhif ffôn 01978 757524 neu e-bost: hello@conwyvalleynorthwalescoast.com.