Adeiladwyd y Fflint, hen dref sirol Sir y Fflint, ar lan orllewinol aber afon Dyfrdwy.
Cafodd y dref a’r castell eu hadeiladu ar yr un pryd gan Edward I, brenin Lloegr, a oedd am reoli’r llwybr rhwng Caer ac afon Conwy fel rhan o’i strategaeth i orchfygu tywysogion Cymru. Yn 1277 daeth Edward I â gweithwyr o Loegr i adeiladu’r dref a’r castell, gyda’r nod o leoli garsiwn o filwyr yn y castell gan adael i fasnachwyr a chrefftwyr o Loegr fyw yn y dref. Cyhoeddwyd siarter fwrdeistrefol y dref yn 1284. Arhosodd llawer o’r gweithwyr yn yr ardal, er gwaethaf rhywfaint o densiwn rhwng y cymunedau brodorol a’r Saeson. Mae nenfwd Siambr y Maer yn cynnwys 15 tarian, sy’n dangos arbeisiau llwythau brenhinol hynafol Cymru.
Saif Castell y Fflint mewn man amlwg rhwng y dref ac afon Dyfrdwy; mae’r tŵr crwn amddiffynnol ‘Donjon’ enfawr a’r tri thŵr crwn llai yn nodweddion pensaernïol hynod. CADW sy’n gyfrifol am reoli’r castell ac mae mynediad am ddim i’r cyhoedd. Yn yr oesoedd canol, roedd y castell yn un pen i’r dref a’r eglwys yn y pen arall, gyda marchnad, gweithdai a thai yn y canol. Mae amlinelliad yr hen dref i’w weld heddiw ym mhatrwm y strydoedd.
Mae hanes yr ardal yn dyddio’n ôl i gyfnod cynharach o lawer na’r dref ganoloesol. Daethpwyd o hyd i sawl darn arian Rhufeinig pan ailadeiladwyd neuadd y dref yn 1840, ac mae olion mwyngloddiau plwm Rhufeinig ym mynydd Helygain i’r de.
Ar yr arfordir i gyfeiriad y gorllewin mae Treffynnon, safle Ffynnon Gwenffrewi. Mae pererinion wedi bod yn dod yma ers o leiaf 1115, ac yn ôl y sôn, dyma’r safle pererindod hynaf ym Mhrydain. Adeiladwyd y capel sy’n dyddio o’r bymthegfed ganrif yn ochr y bryn ac mae dŵr y ffynnon yn ffrydio i fyny cyn llifo i mewn i bwll awyr agored. Credir bod priodweddau iachaol yn perthyn i’r dyfroedd hyn. Mae’r safle ar lwybr Taith Pererin Gogledd Cymru sy’n ymestyn o Abaty Dinas Basing gerllaw i Ynys Enlli.