Mae hanes hir i dref Abergele – roedd yn dref a phorthladd Rhufeinig ac yn gartref i fynachlog Geltaidd (ar safle Eglwys y Plwyf). Adeilad mwyaf adnabyddus y dref yw Castell Gwrych. Cafodd ei adeiladu o bren gan y Normaniaid yn wreiddiol, a’i ailgodi â cherrig gan y tywysog Cymreig Rhys. Yn ddiweddarach, codwyd tŷ Elisabethaidd ar y safle, ond rhwng 1812 a 1822 aeth y perchennog Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh ati i godi adeilad ffug-ganoloesol yn cynnwys tyrau a murfylchau, gan ddilyn cynlluniau gwahanol benseiri a dylunwyr adnabyddus. Roedd gerddi a thiroedd helaeth yn cynnwys llawer o goed addurnol yn rhan o’r stad. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd y plasty yn cynnig lloches i blant Iddewig a gludwyd i Brydain o dan y cynllun kindertransport, ond erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif roedd yr adeilad wedi mynd â’i ben iddo. Diolch i ymdrechion hogyn lleol, Mark Baker, sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gwarchod Castell Gwrych yn 1996, ac yn 2018 llwyddodd yr Ymddiriedolaeth i brynu’r castell a’r stad gan eu hadfer ar ran y genedl. Mae’r castell bellach yn adnabyddus fel lleoliad y rhaglen deledu “I’m a Celebrity – get me out of here” a ffilmiwyd yma yn 2020 a 2021.
Mae gan Abergele draeth tywodlyd, promenâd a phier. Ymhellach i’r dwyrain ym Mhensarn, mae’r traeth graean yn boblogaidd gyda hwylfyrddwyr a cheufadwyr. Mae olion llongddrylliad o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i’w gweld yn y bae weithiau.
Mae’r grib ar ben uchaf y traeth yn gynefin i blanhigion prin fel ysgedd arfor, rhuddygl arfor, canclwm Ray, a’r pabi corniog melyn. Mae cwtiaid torchog yn nythu yma hefyd, a dynodwyd yr ardal yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.