Gorsaf Rheilffordd Llandudno ar rhestr fer Cwpan Gorsafoedd y Byd

Nid canolbwyntiau trafnidiaeth yn unig yw llawer o orsafoedd rheilffordd – maent yn ganolfannau cymunedol sy’n cynnal busnesau lleol yng Nghymru, o gaffis a siopau i amgueddfeydd ac orielau celf. Mae’r rhain yn darparu swyddi lleol ac o fudd i economïau lleol.

Rydym yn falch iawn o weld gorsaf rheilffordd Llandudno ar y rhestr fer ar gyfer teitl yr orsaf sydd â’r busnesau lleol gorau yng Nghwpan Gorsafoedd y Byd eleni. Mae’n gystadleuaeth a gynhelir gan y Rail Delivery Group.

Mae Mostyn yn oriel gelf gyhoeddus gydag arddangosfeydd celf gyfoes yn debyg i rai mewn canolfannau celf mawr, byd-eang. Ychydig funudau o orsaf Llandudno a’r traeth lleol prydferth, mae’r ffasâd brics coch Edwardaidd, yr orielau troad y ganrif a’r concrit modern wedi’u cyfuno i greu cynllun pensaernïol trawiadol, sydd wedi ennill gwobrau.

Gorsafoedd Cymru ar y rhestr fer, a’r busnesau lleol ac atyniadau i ymwelwyr sy’n rhan ohonynt

Y Fenni – Peak Cymru

Mae Peak Cymru yn sefydliad celfyddydol sy’n darparu amser, lle ac adnoddau i bobl ifanc, cymunedau, artistiaid, curaduron ac ymarferwyr amlddisgyblaethol i greu, arbrofi a chydweithio. Mae ganddynt le stiwdio ar Blatfform 2.

Caerdydd Canolog – Handlebar Barista

Mae Handlebar Barista yn gwmni coffi a bwyd symudol sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Mae’n cyfuno cariad at ddau beth: coffi a beicio. Mae eu fflyd o gerbydau arbenigol yn cynnwys 2 dreic coffi vintage wedi’u pweru gan bedalau, 1 treic Prosecco unigryw, 1 treic hufen iâ hyfryd a tuk-tuk coffi trydan.

Borth – Amgueddfa Gorsaf Borth

Mae Amgueddfa Gorsaf Borth yn ganolfan dreftadaeth gymunedol hynod ddiddorol. Gall ymwelwyr ymdrybaeddu mewn hiraeth am anterth y rheilffyrdd a gwyliau glan môr. Adnewyddwyd ac ail-agorwyd yr orsaf a fu gynt yn segur, yn 2011, diolch i ymdrechion Gwirfoddolwyr Gorsaf Borth a’r gymuned leol.

Sut i bleidleisio

Gallwch bleidleisio dros un o’r pedair gorsaf ar y rhestr fer o 07:00 ddydd Mercher 16 Hydref drwy fynd i Wales Region (raildeliverygroup.com)

Cyhoeddir y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd gynderfynol ar 17 Hydref, gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar 18 Hydref. Cyhoeddir yr enillydd ddydd Llun 21 Hydref.