Dewch i ymgolli ar daith unigryw ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy 

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed pa straeon sy’n gysylltiedig â’r golygfeydd drwy ffenestr y trên? Mae’r cyfan bellach yn cael ei ddatgelu trwy wrando ar ganllaw sain Rheilffordd Dyffryn Conwy ar ap Window Seater.  

Ynglŷn â Window Seater

Mae Window Seater yn cysylltu teithwyr â’r byd y tu hwnt i ffenestr y trên, gan eu cyflwyno i straeon sain, dwyeithiog, wedi’u geo-leoli, sy’n cael eu hadrodd gan bobl leol.

Gallwch lawrlwytho’r ap am ddim ac mae’n addas ar gyfer ffonau iPhone ac Android. Mae’n berffaith ar gyfer teithwyr sydd wrth eu bodd yn eistedd wrth y ffenestr, yn syllu ar y byd a’r golygfeydd wrth fynd heibio. 

Mae pob stori yn cynnwys amrywiaeth o ‘Brofiadau’ i ysbrydoli ymwelwyr i ymweld â mannau eraill ar eu taith, gan gefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd yr ardal. 

Dyffryn Conwy yw’r ail ganllaw sain i gael ei gyflwyno yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer defnyddwyr yr Ap, gan hybu diwylliant a hunaniaeth ein hardal ymhellach.

Rheilffordd Dyffryn Conwy

Yn ymestyn o’r arfordir i ganol Eryri, mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn daith unigryw drwy rai o dirweddau mwyaf amrywiol a hardd Cymru. 

Gan ddechrau yn nhref glan-môr Fictoraidd Llandudno, mae’r rheilffordd yn eich arwain drwy dref ganoloesol Conwy a’i chastell eiconig, i goed uchel Coedwig Gwydir a chopaon Parc Cenedlaethol Eryri, cyn dod â’ch taith i ben ym Mlaenau Ffestiniog, canolbwynt diwydiant llechi Cymru ar un adeg.

Rhowch gynnig arni

Mewn partneriaeth gyda Window Seater, a diolch i nawdd gan Trafnidiaeth Cymru, mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru yn gobeithio y bydd y canllaw sain yn gwella profiadau teithwyr.

Mae datblygu’r canllaw sain wedi bod yn gyfle i groniclo hanes a threftadaeth y gymuned leol, gan roi manylion am y golygfeydd mwyaf adnabyddus a datgelu rhyfeddodau hanes, daearyddiaeth, diwylliant a mwy.

Ewch draw i’ch siop apiau ar eich dyfais symudol a lawrlwythwch yr ap Window Seater i wrando ar bobl leol yn adrodd hanes unigryw’r ardal a natur hudolus y rheilffordd.

Hyd yn oed os na allwch chi deithio ar Reilffordd Dyffryn Conwy, gallwch wrando ar y straeon a hel atgofion o bosibl am eich teithiau yn y gorffennol.