Rheilffyrdd Cymunedol
Croeso i Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru.
Mae rheilffyrdd cymunedol yn fudiad llawr gwlad sy’n tyfu ac mae’n cynnwys partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau ar draws Prydain. Trwy weithio ochr yn ochr â phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, mae partneriaethau rheilffyrdd cymunedol yn ymgysylltu â chymunedau ac yn helpu pobl i gael y budd gorau o’u rheilffyrdd, gan hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lles cymunedol, datblygiad economaidd a theithio cynaliadwy. Maent hefyd yn cydweithio â gweithredwyr trenau i wella a rhoi bywyd newydd i orsafoedd.
Mae’r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol / Community Rail Network yn cynnig cymorth a chyngor i aelodau’r mudiad rheilffyrdd cymunedol. Mae’n rhannu arfer da ac yn dod â phartneriaethau a grwpiau rheilffyrdd cymunedol ynghyd, gan weithio gyda’r llywodraeth, y diwydiant rheilffyrdd, a’r sector gwirfoddol a chymunedol ehangach i hyrwyddo rheilffyrdd cymunedol. (Ffynhonnell Community Rail Network).
Mae ein cynllun gweithgareddau busnes yn cael ei gyflawni gan holl aelodau ein Partneriaeth, o dan arweiniad y Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol. Mae ein cynllun yn bodloni pedair prif elfen Strategaeth Ddatblygu’r Rheilffyrdd Cymunedol:
- rhoi llais i’r gymuned
- hyrwyddo teithio cynaliadwy, iach a hygyrch
- dod â chymunedau at ei gilydd a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant
- cefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd
Y bartneriaeth
Rydym yn falch o fod yn Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol achrededig. Mae hyn yn golygu bod yr Adran dros Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn ffurfiol bod y Bartneriaeth yn gweithredu i safon uchel a bod y llywodraeth yn cefnogi ei hamcanion a’i gweithgareddau. Gweinyddir y system achredu gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol / Community Rail Network ac mae’n gymwys i bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr.
Mae Mr Philip Evans, Cadeirydd, a Haf Jones, Is-gadeirydd y Bartneriaeth, yn eich croesawu i’r wefan hon sy’n tynnu sylw at ein gwaith i gysylltu cymunedau â’u rheilffyrdd. Mae aelodau eraill ein Partneriaeth yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru, Avanti, Network Rail, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Conwy, Cyngor Gwynedd, cynrychiolwyr y cynllun Mabwysiadu Gorsaf, Community Rail Network a Boots on the Ground.
Groundwork
Mae’r bartneriaeth yn cael ei chynnal gan Groundwork, sef ffederasiwn o elusennau sy’n annog gweithredu cymunedol ymarferol i fynd i’r afael â thlodi a materion amgylcheddol ar draws y DU.
Mae Groundwork yn helpu pobl i feithrin hyder a datblygu sgiliau, derbyn hyfforddiant a symud i fyd gwaith, amddiffyn a gwella mannau gwyrdd, byw bywydau mwy bywiog a goresgyn heriau sylweddol fel tlodi, unigedd, diffyg sgiliau ac iechyd gwael.
Mae Groundwork Gogledd Cymru yn creu cymunedau cryfach ac iachach a busnesau cyfrifol, yn ogystal â gwella rhagolygon pobl leol.
Ein Newyddion Diweddaraf
Detholiad o’n postiadau cyfryngau cymdeithasol diweddaraf – Yr holl newyddion