Ar drên

Cynllunio eich taith

Mae’r holl wasanaethau ar Reilffordd Dyffryn Conwy yn cael eu gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru.

Mae gwasanaethau Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn cael eu gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru ac Avanti West Coast.

Ewch i’w gwefannau neu lawrlwythwch yr Apiau.

Tocynnau

Gallwch brynu tocynnau ar y trên, ar-lein, drwy’r ap neu mewn swyddfa docynnau. Mae swyddfeydd tocynnau yng ngorsafoedd Caergybi, Bangor, Llandudno a Chyffordd Llandudno.

Trafnidiaeth Cymru – Cynllunio eich Taith

Amserlenni

Trafnidiaeth Cymru – Conwy Valley
Trafnidiaeth Cymru – Holyhead to Cardiff
Trafnidiaeth Cymru – Holyhead to Manchester
Trafnidiaeth CymruHolyhead to London
Bodorgan railway station

Rover Gogledd Cymru

Gallwch deithio ar draws Gogledd Cymru ar fws a thrên gyda thocyn Rover Gogledd Cymru. Mae tocynnau ar gael i deithio mewn 2 neu 3 pharth, neu’r cyfan.

Gallwch brynu tocyn Rover Gogledd Cymru mewn unrhyw swyddfa docynnau National Rail neu ar wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru yn unig (fodd bynnag mae tocynnau yn ddilys ar wasanaethau Avanti West Coast ar Arfordir Gogledd Cymru), neu ar wasanaethau bws sy’n cymryd rhan.

Rhagor o fanylion a thelerau ac amodau

Tocyn Cylch Ffestiniog

Mae Tocyn Cylch Ffestiniog yn cynnig taith gylchol i’r ddau gyfeiriad rhwng Amwythig – Caer – Cyffordd Llandudno – Blaenau Ffestiniog – Machynlleth – Amwythig ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, ynghyd â thaith sengl ar Reilffordd Ffestiniog i’r un cyfeiriad.

Rhagor o fanylion a thelerau ac amodau
Conwy viewed from the RSPB reserve at Llandudno Junction
Bodorgan railway station

Tocyn Crwydro Gogledd a Chanolbarth Cymru

Gyda Thocyn Crwydro Gogledd a Chanolbarth Cymru gallwch deithio faint a fynnwch ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ac ar rai gwasanaethau bws yng Nghymru am 4 diwrnod o fewn cyfnod o 8 diwrnod, o fewn yr ardal ddaearyddol ddynodedig.

Rhagor o fanylion a thelerau ac amodau

Awydd mentro i’r de yn ystod eich arhosiad yng Ngogledd Cymru? Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cynnig Tocyn Crwydro Cymru sy’n ddilys am 4 diwrnod o fewn cyfnod o 8 diwrnod i unrhyw le yng Nghymru ar drên neu ar rai gwasanaethau bws.

Teithio Rhatach ar Reilffordd Dyffryn Conwy

Os oes gennych Docyn Teithio Rhatach un o Awdurdodau Lleol Cymru, gallwch deithio am ddim rhwng unrhyw ddwy o’r gorsafoedd hyn:

Llandudno, Deganwy, Cyffordd Llandudno, Glan Conwy, Tal-y-Cafn, Dolgarrog, Gogledd Llanrwst, Betws-y-Coed, Pont-y-Pant, Dolwyddelan, Pont Rufeinig, Blaenau Ffestiniog.

Teithio Rhatach
Conwy viewed from the RSPB reserve at Llandudno Junction