Diwrnodau allan am ddim i’r teulu ar y trên yng ngogledd Cymru
Mae ceisio cadw’r plant yn ddiddan dros y gwyliau ysgol yn broblem gyffredin i rieni, a gall fod yn gostus iawn hefyd. Gan fod y plant wedi arfer â threfn ddyddiol yr ysgol, chwaraeon a gweithgareddau ar ôl ysgol, does dim syndod eu bod yn diflasu yn ystod y gwyliau. Mae anfon y plant i wersylloedd chwaraeon a chlybiau gwyliau yn ddrud, ac er bod y rhain o gymorth mawr i deuluoedd prysur, does dim rhaid gwario arian i dreulio amser gyda’ch gilydd. Dyma rai awgrymiadau am sut gallwch chi fwynhau diwrnodau allan gwych fel teulu ar hyd Arfordir Gogledd Cymru yn ystod y gwanwyn a’r haf eleni, a hynny am y nesaf peth i ddim.
Yn gyntaf, mae angen paratoi. I gadw costau’n isel, bydd angen i chi brynu Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig dewis eang o gardiau rheilffordd – mae’r cardiau hyn yn cael eu prynu ymlaen llaw ac maen nhw’n cynnig gostyngiad ar bris tocynnau mewn gwahanol rannau o Gymru. Ar gyfer teuluoedd, y Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiausy’n cynnig y gwerth gorau ar gyfer teithiau lleol a chenedlaethol. Mae Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau yn rhoi gostyngiad o ⅓ ar bris tocyn trên i oedolyn (heb sôn am ostyngiad o hyd at 60% i blant) ar draws y Deyrnas Unedig – gall hyn arbed hyd at £150 ar gyfartaledd mewn blwyddyn. Y gost yw £30 y flwyddyn a gallwch ddechrau arbed arian yn syth.
Os ydych chi’n teithio ar drên Trafnidiaeth Cymru, gall plant o dan 16 oed deithio am ddim yn ystod amseroedd tawel yng nghwmni oedolyn sy’n talu, a gall plant o dan 11 oed deithio am ddim bob amser – Plant i gael teithio am ddim ar drenau Trafnidiaeth Cymru.
Tybed a yw hyn wedi eich ysbrydoli i ymweld â gogledd Cymru ar drên? Er mwyn i chi ddechrau arni, rydyn ni wedi dewis ein hoff orsafoedd ar hyd Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru a Dyffryn Conwy lle gallwch fwynhau diwrnod allan gwych, a hynny am bris bag o sglodion mewn rhai achosion!
1. Conwy
Beth am ddechrau drwy ymweld â Safle Treftadaeth y Byd UNESCO? Mae tref fach Conwy yn enwog ledled y byd am ei chastell canoloesol a muriau’r dref. Mae’r amddiffynfeydd sy’n dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg yn enghraifft wych o beirianneg filwrol ac mae hyn yn oed yn bosibl i chi gerdded ar hyd y muriau! Adeiladwyd y castell a’r muriau amgylchynol gan Edward I fel rhan o goncwest Cymru. Y nod oedd darostwng y Cymry brodorol; yn wir, Saeson yn unig oedd â’r hawl i fyw o fewn muriau’r dref! Os dewch oddi ar y trên yng nghanol y dref, byddwch yng nghanol y safle treftadaeth godidog hwn.
Beth am ddechrau drwy gerdded ar hyd muriau’r dref – mae’n ffordd wych o weld yr ardal a mwynhau golygfa arbennig o’r dref a’r castell. Mae’r golygfeydd o ben y muriau yn wirioneddol anhygoel – gallwch weld y Gogarth Fawr a Môr Iwerddon ar y naill law, mynyddoedd y Carneddau ar y llaw arall, yn ogystal â Dyffryn Conwy yn ymestyn o’ch blaen. Mae’n hawdd gweld pam y bu ymladd ffyrnig rhwng y Cymry a’r Saeson i reoli’r lleoliad strategol hwn. Mae byrddau gwybodaeth wedi’u gosod ger y grisiau i’r muriau ac mewn mannau eraill er mwyn tynnu sylw at fannau o ddiddordeb wrth i chi gerdded*.
Cyngor ar sut i arbed arian: Os ydych awydd ymweld â’r castell, mae Cadw wedi ymuno â Trafnidiaeth Cymru i gynnig 2 docyn mynediad am bris 1 i ymwelwyr sy’n teithio i safleoedd hanesyddol ar y trên.
Ar ôl crwydro ar hyd y muriau, mae’n siŵr y bydd chwant bwyd arnoch, felly beth am fynd draw i Gei Conwy, lle gallwch eistedd i fwynhau pryd o bysgod a sglodion o un o’r siopau niferus yn y dref. Beth sy’n well na diwrnod allan am ddim (bron iawn), yn hamddena ar y cei ar ddiwrnod braf gan fwynhau bag o sglodion. Mae Cei Conwy yn gartref i dŷ anarferol a bach iawn hefyd. Yn swatio o dan furiau’r castell mae’r tŷ lleiaf ym Mhrydain, yn ôl y sôn. Mae’r tŷ bychan, un ystafell i fyny grisiau, ac un ystafell ar y llawr gwaelod, yn 182cm o led a 309cm o uchder ac roedd yn arfer bod yn gartref i bysgotwr 6 troedfedd 3 modfedd o daldra! Mae’n lle gwych i dynnu llun, felly cofiwch alw draw. Mae’r cei hefyd yn borthladd pysgota a gallwch weld y pysgotwyr wrth eu gwaith. Cofiwch ymweld â gwaith prosesu Cregyn Gleision Conwy ar y cei i ddysgu rhagor am y cynnyrch lleol unigryw hwn a’r broses ffermio a chasglu. Gallwch hyd yn oed brynu pysgod ffres i fynd adref gyda chi!
Cyn i chi droi am adref, beth am ymweld â pharc a gerddi Bodlondeb. Mae’r parc hyfryd hwn y tu allan i furiau’r dref yn lle gwych i fwynhau ychydig o dawelwch a llonyddwch ar ôl bwrlwm a phrysurdeb y dref dwristaidd. Mae yma fan chwarae i’r plant, cyrtiau tennis, llwybr drwy’r coetir, ac wrth gwrs, digon o laswellt i ymlacio a chicio pêl! Mae’r gerddi ffurfiol sy’n amgylchynu Bodlondeb ei hun (hen blasty Fictoraidd a adeiladwyd ar gyfer y perchennog llongau Albert Wood, ond swyddfeydd y cyngor erbyn hyn) yn hyfryd ac yn llawn lliw.
Mae eich plant yn siŵr o gysgu’n sownd ar ôl diwrnod allan gwych!
*Sylwer: mae’n bosibl nad yw muriau’r dref yn addas ar gyfer plant ifanc neu phobl sydd ag ofn uchder, a gallant fod yn llithrig pan fydd yn wlyb.
2. Llandudno
Does dim angen i chi deithio’n bell o dref Conwy i fwynhau ein diwrnod allan nesaf. A dweud y gwir, gallwch weld y gyrchfan nesaf o furiau’r dref. Mae tref Llandudno yn adnabyddus i bawb fel ‘brenhines ymdrochleoedd Cymru’ ond cyn i’r ymwelwyr gyrraedd, roedd yn gymuned fach o fwyngloddfeydd ar lethrau’r Gogarth! Cafodd y pentref tawel hwn ei roi ar y map gan deithwyr mentrus oes Fictoria, wrth iddynt chwilio am gyrchfannau newydd i ymweld â nhw. Cafodd yr ymwelwyr eu denu yma gan natur wyllt y Gogarth Fawr, penrhyn o galchfaen ag iddo hanes hynafol, a’r traethau hardd cyfagos, sef Traeth y Gogledd a Phenmorfa. Yn wir, datblygodd tref Llandudno yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr mewn cyfnod byr iawn, ac adeiladwyd canol y dref mewn ugain mlynedd yn unig!
Mae Llandudno yr un mor boblogaidd ag erioed ac yn denu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’n lle gwych i aros er mwyn ymweld ag ardaloedd eraill yng ngogledd Cymru, a gan mai dyma’r orsaf olaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru, mae’n fan cyfleus iawn i ddal y trên i gyrchfannau twristaidd eraill hefyd.
Mae mwynhau diwrnod allan yn Llandudno heb wario ceiniog yn dipyn o her; nid diffyg pethau i’w gwneud yw’r broblem, ond y ffaith bod gormod o ddewis! I wneud y gorau o’ch ymweliad â’r dref, rydyn ni’n awgrymu’n gryf eich bod chi’n cynllunio ymlaen llaw. Mae yna rai pethau y mae’n rhaid i chi eu gweld, felly dyma restr o’r goreuon.
Yn gyntaf, wrth i chi adael yr orsaf ewch am dro ar hyd y brif stryd, sef Stryd Mostyn, i fwynhau’r bensaernïaeth Fictoraidd hardd o’ch cwmpas. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae’r orsaf drenau ei hun, Eglwys y Drindod a Pharêd y De. Byddwch yn cyrraedd y traeth a’r pier enwog yn y pen draw – uchafbwynt pob ymweliad â Llandudno. Traeth y Gogledd yw’r mwyaf poblogaidd o ddau draeth y dref. Yma gallwch fwynhau’r holl bethau rydyn ni’n eu cysylltu â diwrnod allan ar lan y môr: hufen iâ, adeiladu cestyll tywod, ffair, ac arcêds adloniant … ond mae’n rhaid gwario arian i wneud bob un o’r rhain, ac rydyn ni’n ceisio arbed arian wedi’r cyfan.
Yn hytrach, beth am aros i fwynhau sioe Pwnsh a Jwdi ger y pier. Mae’r sioe bypedau enwog hon wedi bod yn diddanu ymwelwyr y dref ers dros 150 o flynyddoedd a dyma’r sioe Pwnsh a Jwdi hynaf yn y Deyrnas Unedig! Does dim rhaid talu i fwynhau’r sioe, ond gofynnir am gyfraniadau gwirfoddol ac mae’r arian yn cael ei fuddsoddi i sicrhau dyfodol yr adloniant hwn sy’n rhan mor bwysig o hanes Llandudno.
Ar ôl gweiddi ar Mr Pwnsh, beth am fynd am dro ar hyd Pier Llandudno, pier hiraf Cymru ac adeilad rhestredig Gradd II. Mae’r pier 700m o hyd yn ymestyn i Fae Llandudno ac wrth gerdded ar ei hyd gallwch fwynhau golygfeydd godidog o’r dref, y Gogarth a Thrwyn y Fuwch, heb sôn am Barc Cenedlaethol Eryri yn y pellter. Bydd gwynt y môr yn siŵr o godi awch bwyd arnoch, a gallwch brynu rhywbeth blasus o’r stondinau ar hyd y pier, ond cadwch lygad am y gwylanod! Dewiswch o blith pasteiod ffres, waffls, bwyd môr ffres, pysgod a sglodion, a hyd yn oed toesenni melys – blasus iawn!
Ar ddiwedd eich ymweliad, beth am fynd am dro i barc Y Fach (neu Happy Valley yn Saesneg) sydd i’w weld o’r Pier – rydych yn siŵr o sylwi ar yr arwydd Llandudno anferth! Roedd y dyffryn tawel hwn ar droed y Gogarth yn gyrchfan boblogaidd iawn yn ystod oes Fictoria a chafodd ei ddatblygu yn ardd bleser a oedd yn cynnwys gerddi addurniadol, rhaeadrau a theatr awyr agored lle cynhaliwyd adloniant o bob math. Mae naws arbennig yn y Fach hyd heddiw ac er nad oes unrhyw sioeau yn cael eu cynnal yno bellach, mae’n llecyn hyfryd i ymlacio ar ddiwedd eich diwrnod allan. Cadwch lygad am: y cylch o gerrig ar y glaswellt – nid heneb yw’r cylch hwn, ond yn hytrach cylch gorsedd y beirdd a gafodd ei osod yma pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandudno yn 1963! Codwyd y gofeb i’r Frenhines Victoria i nodi jiwbilî’r frenhines ac i ddathlu cyflwyno gerddi’r Fach i bobl Llandudno gan y tirfeddiannwr lleol, yr Arglwydd Mostyn.
Whiw! Bydd yn rhaid i chi drefnu ymweliad arall â Llandudno, mae cymaint o bethau i’w gweld!
3. Betws-y-Coed
Ar gyfer ein diwrnod allan olaf am ddim i’r teulu, rydyn ni’n teithio o’r arfordir i mewn i’r tir ac yn ymweld â chyrchfan boblogaidd arall a ddaeth yn enwog yn ystod oes Fictoria. Daeth pentref hardd Betws-y-coed yn gyrchfan i artistiaid Fictoraidd a oedd yn chwilio am dirweddau gwyllt a garw ar gyfer eu paentiadau rhamantaidd. Cafodd y llethrau tywyll coediog, y bryniau garw a’r afonydd byrlymus sy’n amgylchynu’r pentref hardd hwn ddylanwad mawr ar bobl oes Fictoria ac ar ddatblygiad Rheilffordd Dyffryn Conwy. Heddiw, Betws-y-coed yw’r orsaf brysuraf ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy. Natur wyllt yr ardal sy’n dal i ddenu ymwelwyr yma yn eu miloedd. Heddiw, mae’r pentref yn ganolfan bwysig i gerddwyr, dringwyr a beicwyr sy’n aros yma cyn teithio yn eu blaenau i ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri. Ond mae’r pentref hefyd yn denu teuluoedd ac ymwelwyr sy’n dod yma am y dydd i fwynhau’r golygfeydd godidog, y naws Gymreig a’r lleoliad hygyrch. Bydd eich diwrnod allan yma yn gyfle i chi fwyhau’r elfennau hyn hefyd: byddwn yn dangos un o’r llecynnau prydferthaf yn y pentref i chi, ac yn eich cyflwyno i’r natur wyllt, a bydd y cyfan yn dechrau ar y trên!
Wrth i chi gyrraedd Betws-y-coed, byddwch eisoes wedi mwynhau un o’r teithiau trên harddaf yn y wlad. Mae’r daith ar hyd Dyffryn Conwy, o Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog yn ddiwrnod allan gwych ynddi ei hun – ac rydym yn argymell yn fawr eich bod yn mentro ar hyd y daith! Wrth i chi deithio o’r arfodir i lawr y dyffryn mae’r golygfeydd o’r mynyddoedd yn wirioneddol wych, byddwch yn deall yn iawn sut roedd artistiaid cynnar oes Fictoria yn teimlo.
Dewch oddi ar y trên a cherdded i mewn i bentref Betws-y-coed. Mae dewis gwych o siopau, caffis a bwytai yma felly gallwch fwynhau’r cyfan sydd ar gael ac o bosibl prynu rhywbeth bach i gofio am eich ymweliad; gallwch bob amser gefnogi busnesau lleol heb wario fawr ddim! Wrth i chi gerdded ar hyd y brif stryd byddwch yn mynd heibio Eglwys y Santes Fair a Gwesty’r Royal Oak, lle’r arferai’r goets fawr aros ar ei thaith o Lundain i Gaergybi. Cyn bo hir, byddwch yn cyrraedd pen eich taith, sef Pont y Pair, a godwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Adeiladwyd y bont ar gyfer ceffylau pwn yn wreiddiol ond cafodd ei lledu yn ddiweddarach ar gyfer traffig mwy o faint – wedi dweud hynny, mae’n gul iawn ac un cerbyd yn unig all groesi ar y tro! Mae’r bont yn croesi afon Llugwy sy’n llifo o fynyddoedd y Carneddau, rai milltiroedd i ffwrdd. Gall yr afon fod fel pair gwyllt ar adegau, oherwydd glawiad trwm a’r dŵr eira yn Eryri, a gall fyrlymu dros y creigiau mewn ffordd drawiadol iawn. Ar adegau eraill, pan fydd y dŵr yn isel, mae’n llifo’n araf dros y creigiau, gan wahodd ymwelwyr i wlychu eu traed a hamddena ar y glannau *. Byddwch yn siŵr o gael eich cyfareddu gan y llecyn arbennig iawn hwn, ni waeth pryd y byddwch yn ymweld ag ef.
Croeswch y bont unwaith yn rhagor wrth i ni fynd am dro fyny fry ac ymweld ag un o ryfeddodau cudd Betws-y-coed. Dilynwch y ffordd sy’n dolennu y tu ôl i Eglwys y Santes Fair ac yna dilynwch y llwybr sy’n arwain drwy’r goedwig at Lyn Elsi, cronfa ddŵr fechan yng nghanol Coedwig Gwydir. Er bod y llwybr yn serth iawn mewn mannau, mae’n dilyn ffyrdd drwy’r goedwig yr holl ffordd, felly mae’n ffordd hwylus i fwynhau natur wyllt Betws-y-coed. Peidiwch â phoeni, gallwch eistedd ar y fainc gyfleus os oes angen i chi gael eich anadl! Mwynhewch dawelwch a llonyddwch y goedwig gan ymgolli yng ngolygfeydd a sain byd natur o’ch cwmpas, mae’n anodd credu eich bod dafliad carreg o brysurdeb y pentref. Ar ôl i chi gyrraedd y llyn gallwch fwynhau golygfeydd gwych o Eryri a’r Carneddau, neu beth am gerdded o amgylch y llyn drwy ddilyn y saethau gwyn ar yr arwyddion. Gan fod hon yn daith mor braf, fyddwch chi ddim eisiau brysio. Bydd yn cymryd tua dwy awr i chi gerdded i fyny ac i lawr, neu’n hirach o bosibl os oes gennych blant ifanc. Dylech ganiatáu digon o amser i gwblhau’r daith nôl i’r pentref, wedi’r cyfan, dydych chi ddim eisiau colli’r trên!
*Sylwer: mae glan yr afon yn greigiog iawn ac mae’n bosibl nad yw’n addas i blant ifanc iawn, a gall fod yn llithrig pan fydd yr afon yn uchel.
Gobeithio ein bod wedi eich annog i fentro ar y trên i fwynhau diwrnod allan gyda’r teulu. Beth am roi cynnig ar rai o’n teithiau yn ystod y gwyliau ysgol? Byddem wrth ein bodd yn clywed sut hwyl gawsoch chi. Does dim rhaid gwario ffortiwn i greu atgofion, a gan fod cymaint o bethau i’w gweld a’u gwneud am ddim yng ngogledd Cymru mae’n werth chweil mentro weithiau!