Gorffennaf – Anturiaethau Alfresco

Cynigion ciniawa awyr agored yr haf hwn!

Gyda’r haf yn awr yn ei anterth, mae ein meddyliau’n dechrau troi at giniawau hir a hamddenol yn yr haul a nosweithiau cynnes braf yn ymlacio gyda gwydraid oer o’n hoff ddiod. Yn y wlad hon, mi all cyfle i fwyta ac yfed allan fod yn rhywbeth digon prin. Yn wahanol i’n cymdogion ar y cyfandir, sy’n bwyta ac yn yfed yn yr awyr agored gydol y flwyddyn bron, bydd tywydd anwadal ein hynys yn aml yn penderfynu a ydym yn mwynhau diodydd yn yr ardd ynteu swper ar hambwrdd o flaen y teledu!

Os ydych chi’n bwriadu dod i Ogledd Cymru yn ystod yr haf ac yn mwynhau bwyta allan, mae gwledd yn eich aros! Mae’r ardal yn llawn tafarnau a bwytai braf sy’n cynnig y cyfuniad perffaith o leoliadau deniadol yn yr awyr agored a phrydau bwyd blasus i’w mwynhau. O dafarnau cefn gwlad hynafol i fwytai ffasiynol ar yr arfordir, mae rhywbeth i blesio pob chwaeth. Ac, yn well byth, mae rhai o’r mannau bwyta gorau o fewn pellter cerdded hawdd neu siwrnai fer mewn tacsi o’r orsaf – ni fydd yn rhaid i neb wirfoddoli i yrru!

Yn y blog hwn, mi ydym yn cyflwyno ein hoff dafarnau lle cewch fwyta yn yr awyr agored – os ydych yn chwilio am rywle sy’n addas i’r teulu cyfan, rhywle sy’n croesawu cŵn neu bryd rhamantus i ddau, rydych yn siŵr o ddod o hyd i’r lle perffaith i fwynhau gwledda yn ystod yr haf.

Mae’r tafarnau a’r bwytai rydym wedi’u dewis i gyd yn agos at naill ai Reilffordd Dyffryn Conwy neu Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Cofiwch wirio’r amserlen ar Traveline Cymru cyn cychwyn, i wneud yn siŵr bod gennych ffordd o gyrraedd adref!

The Cottage Loaf – Llandudno

Image Credit – Cottage Loaf, Llandudno

Fel un o’r tafarnau hynaf yn nhref glan môr Llandudno, mae’r Cottage Loaf yn dafarn glyd sy’n ymfalchïo yn ei hawyrgylch cynnes a chroesawgar drwy gydol y flwyddyn. Ond yn yr haf mae’r dafarn guddiedig hon yn dod i’w bri. Gyda’i libart caeedig yn y cefn a theras eang llawn blodau yn y ffrynt, mi fydd gennych ddigon o ddewis wrth benderfynu lle rydych am eistedd i ddal yr haul. Os bydd yr awel yn fain, mi allwch ddewis o blith y mannau bwyta dan do; ac mae drysau sy’n agor i’r libart i gael y gorau o’r ddau fyd!

Rydym wrth ein bodd â’r Cottage Loaf am ei bod yn dafarn ddelfrydol ar gyfer pob achlysur. Mae’n croesawu teuluoedd a chŵn, ac mi ydych yn siŵr o gael croeso cynnes gyda digon o bobl i sgwrsio â hwy – yn bobl leol ac ymwelwyr. Ond, os mai diod fach dawel â rhywun arbennig sy’n mynd â’ch bryd, mae digon o gilfachau bach tawel lle gallwch ymlacio a mwynhau’r awyrgylch. 

Y Stablau, Gwesty’r Royal Oak – Betws-y-Coed

Fel un o’r adeiladau enwocaf yng nghanol Betws-y-coed, dechreuodd Gwesty’r Royal Oak fel gwesty ar gyfer y goets fawr a deithiai o Lundain i Gaergybi. Roedd yn fan aros poblogaidd i bobl oes Fictoria a oedd yn awyddus i brofi’r golygfeydd alpaidd ac mae poblogrwydd y pentref yn parhau hyd heddiw. Mi allwch chwithau hefyd fwynhau awyr iach y mynyddoedd yn Y Stablau, y bar bistro ffyniannus sy’n rhan o’r gwesty. Llai na phum munud o gerdded o’r orsaf, mae gan Y Stablau deras mawr, dan do, gyda goleuadau lliwgar, dodrefn pren cadarn a gwresogyddion patio, sy’n golygu y gallwch fod yn yr awyr agored gydol y flwyddyn heb boeni am y tywydd anwadal!

Er bod peth o awyrgylch y caban sgïo yma, mae’n dafarn Gymreig draddodiadol sy’n ymfalchïo yn ei chroeso Cymreig cynnes; mi allwch ddisgwyl llond plât o fwyd a dewis helaeth o ddiodydd. Mae’n lle bywiog o fore tan nos, ond heb ymdeimlad ffuantus sy’n golygu bod pawb yn ymlacio, sy’n ei gwneud yn ddewis da i deuluoedd a chyplau. Ac mae croeso i gŵn hefyd!

The Mulberry – Conwy

Mae tref ganoloesol Conwy yn gyrchfan sydd i’w mwynhau orau ar droed ac mae ein taith gerdded i’n tafarn nesaf yn sicr yn werth yr ymdrech. Wedi’i lleoli ychydig y tu allan i furiau’r dref ac yn edrych draw am Farina Conwy, mae’r Mulberry yn cynnig y profiad bwyta arfordirol perffaith. Mae dec haul helaeth y dafarn yn ein hatgoffa o lefydd ffasiynol yn Ibiza ond gan gynnig golygfeydd ysblennydd o Aber Afon Conwy a Phen y Gogarth – mae’n hynod drawiadol, yn enwedig pan fydd yr haul yn machlud.

Ond mae hon yn dafarn sy’n croesawu’r teulu cyfan – fel y gwelir yn y man chwarae awyr agored sydd ar thema môr ladron a’r fwydlen arbennig i blant. Yn naturiol, mae croeso i gŵn ar y dec haul ond, os bydd y tywydd yn troi, mae rhan fechan o du mewn y dafarn wedi’i neilltuo i’n ffrindiau pedair coes.

The Gazelle Hotel – Menai Bridge

Wedi’i lleoli ar lan y Fenai, mae’r Gazelle Hotel yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau bwyta yn yr awyr agored, ac mi fydd dewisiadau di-ben-draw pan fydd yr haul yn tywynnu. O’r gerddi teras braf, i’r dec ar lan y dŵr, mi all yfwyr a bwytawyr ddilyn yr haul drwy’r dydd. Rydym wrth ein bodd â lleoliad y dafarn hon, ond a wyddoch chi fod ganddi ei thraeth bach ei hun hefyd? Mi fydd plant bach (a mawr) yn mwynhau’r cyfle i ddilyn yr arfordir tra bydd gweddill y teulu’n ymlacio â diod braf gerllaw.

Mae’r fwydlen yn un fechan ond mae rhywbeth at ddant pawb ac mae’n cynnwys hen ffefrynnau fel prydau ysgafn a chinio dydd Sul. Gyda cherddoriaeth fyw, barbeciws a digwyddiadau ar benwythnosau yn ystod yr haf, mae’r dafarn yn boblogaidd ymhlith pobl leol ac ymwelwyr – ac mae hynny’n cyfrannu at yr awyrgylch. Os ydych yn rhy fodlon eich byd i adael i ddal y trên, mae gan y Gazelle sawl ystafell i westeion ar thema’r arfordir (ac mae croeso i gŵn mewn tair ohonynt). 

The Oyster Catcher – Rhosneigr

Os ydych am leoliad sy’n cyflymu’r galon, does dim rhaid edrych ymhellach na’r Oyster Catcher yn Rhosneigr. Mae gan y pentref glan môr bychan hwn ar arfordir Môn rywbeth i bawb, ac mae’n boblogaidd gyda rhai sy’n mwynhau chwaraeon dŵr, golff, ac ymhlith teuluoedd. Mae dau draeth hardd, sawl siop bwtîc a phrif gwrs golff Môn yn golygu bod y pentref yn gyrchfan brysur drwy gydol y flwyddyn.

Yn cuddio yng nghanol y twyni tywod a thafliad carreg o’r traeth, mae gan yr Oyster Catcher ddigonedd o le i eistedd allan. O’r Wave Table & Garden anghyffredin i’r dec haul panoramig, mi all teuluoedd a ffrindiau ymlacio a mwynhau pryd o fwyd hamddenol gyda golygfa i’w chofio. Mae yno hefyd far awyr agored sy’n croesawu cŵn, Will’s Bar, ac sy’n gweini byrbrydau a diodydd i gŵn a phobl! Beth bynnag fo’r tywydd, mae’r chwe sefydliad uchod i gyd yn cynnig bwyd da, awyrgylch braf a chroeso cynnes. Rydym yn credu bod mwynhau hyn i gyd a’r awyr iach yn ystod eich ymweliad yn fonws gwerth chweil! Mi hoffem glywed am eich hoff fannau chi i fwyta allan yn y Gogledd. Pam na wnewch chi rannu lluniau ohonoch yn mwynhau prydau bwyd yn ystod yr haf ar ein cyfryngau cymdeithasol? Ewch i’n tudalen ar Facebook, Instagram neu X i rannu eich atgofion o’r haf.

Gwesty’r Fali – Y Fali

Dim ond taith gerdded fer o’r orsaf, mae Gwesty’r Fali yn cynnig croeso cynnes Cymreig a bwyd tafarn calonogol mewn bar a bwyty sydd wedi’u hadnewyddu’n ddiweddar. A phan mae’r tywydd yn braf, pluen yn het y tafarn hwn yw’r ardal awyr agored eang. Gydag ardal chwarae wych i blant, a digonedd o le i gŵn (mae croeso mawr iddyn nhw hefyd, wrth gwrs), gallwch fwynhau’r haul ar y lawnt neu ymlacio ger Bar yr Ardd ar y teras hyfryd. Cewch ddewis o blith glasuron bwyd tafarn oddi ar Brif Fwydlen y Fali, neu dewiswch rywbeth ysgafnach o Fwydlen yr Ardd, chi biau’r dewis!

Gyda 19 o ystafelloedd sydd hefyd wedi eu hadnewyddu’n ddiweddar, mae Gwesty’r Fali hefyd yn fan cychwyn perffaith i chi grwydro’r ynys. Mae ei leoliad yng nghanol Ynys Môn yn golygu fod holl atyniadau’r ynys yn hawdd eu cyrraedd ar drenau neu drafnidiaeth gyhoeddus arall.