Dathlu Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru!
Mae Cymru’n wlad sy’n cydio’n dynn yn ei diwylliant a’i thraddodiadau. Mae’n wlad llawn hanes a chwedlau, cerddoriaeth, llenyddiaeth a barddoniaeth. Mae’n wir bod gan lawer o wledydd eraill dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog hefyd, ond i ni’r Cymry, mae iddi le pwysig iawn yn ein calonnau.
Mae ‘hiraeth’ yn air sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn isymwybod y Cymry. Nid yw’n bosibl ei gyfieithu’n uniongyrchol i’r Saesneg, ond gellid ei esbonio fel ‘teimlad o gariad ac angerdd mawr at ein gwlad, ei gorffennol a’i phresennol’. Mae’n debyg mai’r cysylltiad agos hwn â’n diwylliant a’r tir sy’n esbonio pam ein bod ni wrth ein boddau yn dathlu a rhannu ein traddodiadau. Mae’n gyfle i ni greu cysylltiad rhwng Cymru ein hynafiaid â’n hieuenctid, gan ddod â’r cyfan yn fyw yn ein calonnau.
‘Dydd Gŵyl Dewi hapus’
Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’r teimlad o falchder cenedlaethol a hunaniaeth ddiwylliannol yn fwy amlwg fyth. Ar 1 Mawrth, rydym yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi, nawddsant Cymru. Esgob yn y 6ed ganrif oedd Dewi y credir ei fod yn ddisgynnydd i frenin Ceredigion.
Credir mai Dewi sefydlodd Cristnogaeth yng Nghymru ac mae’n cael ei gysylltu hefyd â dysg a charedigrwydd i eraill. Ar Ddydd Gŵyl Dewi mae plant ysgol yn cael eu hannog i efelychu caredigrwydd Dewi a ‘gwneud y pethau bychain’, fel helpu i olchi’r llestri neu dacluso eu hystafelloedd.
Fel pob sant gwerth ei halen, cyflawnodd Dewi fwy na digon o wyrthiau. Digwyddodd un o’r rhai mwyaf adnabyddus yn Llanddewibrefi yng ngorllewin Cymru, pan gododd y tir yn y fan lle’r oedd yn pregethu – fel petai angen rhagor o fryniau ar Gymru!
Gwyrth arall, ond mwy arswydus, yw’r cannwyll corff. Gweddïodd Dewi y byddai ei bobl yn cael rhybudd am eu marwolaeth er mwyn iddynt allu paratoi ar gyfer y byd tragwyddol, ac fe wnaeth Duw ateb y weddi. Byddai’r Cymry yn cael eu rhybuddio ymlaen llaw pryd a ble y gellid disgwyl y farwolaeth gan olau gwan canhwyllau cwyr dirgel. Yn ôl y sôn, byddai cannwyll corff – golau’n tywynnu neu belen o dân – yn ymddangos ger cartref y sawl fyddai ar fin marw.
Heddiw, mae trefi, pentrefi ac ysgolion ar draws Cymru yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy orymdeithio, gan wisgo gwisg draddodiadol a symbolau cenedlaethol Cymru: y genhinen Bedr (i ferched) a’r genhinen (i ddynion).
Beth am barhau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, ac edrych yn fanylach ar rai o draddodiadau mwyaf poblogaidd Cymru sy’n dal i ddiffinio ein hunaniaeth genedlaethol:
Llwyau caru
Llwyau pren yw’r rhain, gyda dyluniadau cywrain wedi’u cerfio arnynt, ac maent yn un o symbolau eiconig Cymru. Mae ystyr penodol i bob un o’r dyluniadau ac maent yn cyfleu neges i’r sawl a fydd yn derbyn y llwy.
Yn draddodiadol, dynion ifanc fyddai’n cerfio llwyau caru er mwyn eu cyflwyno i’r merched roeddynt yn eu caru fel arwydd o gariad. Roedd y llwyau pren hefyd yn dynodi eu bod yn grefftwyr medrus ac yn dda â’u llaw, mewn geiriau eraill, y byddent yn gwneud gŵr da!
Mae ystyron gwahanol i’r cerfiadau gwahanol – mae cloch yn symbol o briodas a phen-blwydd priodas, mae croes yn symbol o ffydd, mae calon yn symbol o gariad, ac yn y blaen. Heddiw, mae llawer o ymwelwyr sy’n dod i Gymru yn prynu llwyau caru i gofio am eu gwyliau. Maent yn eitemau hyfryd i afael a chyffwrdd ynddynt a’u hedmygu, ac yn ychwanegiad gwych i’r cartref!
Lle gallwch eu prynu: mae llwyau caru yn cael eu gwerthu yn y rhan fwyaf o siopau swfenîr ar draws Cymru, ond rydym yn hoff iawn o siop Craftcentre Cymru yn nhref Betws-y-coed sy’n gwerthu dewis eang o gofroddion o Gymru a nwyddau artisan wedi’u gwneud â llaw. O lwyau caru i felysion cartref, teithlyfrau lleol a dillad, mae Craftcentre Cymru yn ddewis gwych os ydych am brynu eitem unigryw i gofio am eich taith i Gymru.
Y Ddraig goch
Ni chafodd y faner genedlaethol rydym yn ei chysylltu â Chymru ei dadrolio’n swyddogol tan 1959.
Daeth y ddraig o un o chwedlau’r Brenin Arthur – cafodd Myrddin weledigaeth lle’r oedd draig goch (y Cymry) yn ymladd yn erbyn draig wen (y Sacsoniaid). Yn naturiol, y ddraig goch enillodd, gan hel yr ymosodwyr o’r tir.
Mae’r lliw gwyrdd a gwyn ar y faner yn cyfeirio at Dŷ’r Tuduriaid, uchelwyr o Gymru yn y bymthegfed ganrif, yr aeth eu disgynyddion yn eu blaenau i reoli Lloegr – oedd, roedd gan Harri’r VIII gyndadau Cymreig!
Lle gallwch ei gweld: a oes unrhyw beth yn well na gweld y ddraig goch yn chwifio’n uchel? Mae muriau Castell Conwy, sy’n dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg, yn lle arbennig iawn i weld baner y ddraig goch yn cyhwfan yn y gwynt. Beth am ddal y trên i Gyffordd Llandudno a cherdded dros y bont i Gonwy, taith hyfryd gyda golygfeydd godidog, neu dewch oddi ar y trên yng nghanol tref ganoloesol Conwy i fwynhau’r awyrgylch hanesyddol. Mae castell Conwy a muriau’r dref yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO a dylai pawb sy’n dod i ogledd Cymru geisio ymweld â’r dref.
Cennin a Chennin Pedr
Mae’r cysylltiad rhwng cennin a Chymru braidd yn aneglur, a does neb yn siŵr iawn sut y daethant yn symbolau cenedlaethol. Yr esboniad mwyaf cyffredin yw y byddai milwyr Cymreig, cyn dyddiau lifrau milwrol, yn gwisgo cenhinen i wahaniaethu rhyngddynt hwy â’r gelyn ar faes y gad.
Mae tystiolaeth bod Cadwaladr, brenin Gwynedd yn y seithfed ganrif, wedi gorchymyn ei ddynion i wisgo cenhinen mewn brwydr, ac mae Shakespeare yn cyfeirio at hyn yn ei ddrama Henry V:
“the Welshmen did good service in a
garden where leeks did grow, wearing leeks in their
Monmouth caps; which, your majesty know, to this
hour is an honourable badge of the service; and I do
believe your majesty takes no scorn to wear the leek
upon Saint Tavy’s day.“
Mae’r stori am sut daeth y genhinen Bedr yn symbol cenedlaethol hyd yn oed yn fwy rhyfedd. Mae’n bosibl i hyn ddigwydd oherwydd y tebygrwydd rhwng y geiriau cennin a chennin Pedr, a bod rhywun rhyw dro wedi drysu rhyngddynt!
Lle i’w gweld: yn y gwanwyn, mae cennin Pedr i’w gweld mewn cloddiau, ar ochrau’r ffyrdd ac mewn gerddi ar draws Cymru ond i gael profiad gwirioneddol fythgofiadwy rydym yn argymell eich bod yn eu mwynhau yng nghanol byd natur. Mae’r hen ddôl yng Ngardd Bodnant yn nyffryn Conwy yn disgleirio yn y gwanwyn wrth i’r cennin Pedr ymddangos yn drwch ar hyd y glaswellt. Gall ymwelwyr gerdded ymysg y blodau a mwynhau naws y gwanwyn!
Teisennau / Cacennau Cri a bara brith
Mae gan Gymru draddodiad gastronomegol balch ond rydym yn adnabyddus am gael dant melys! Nid yw’n syndod felly mai pethau melys yw dau o’n hoff ddanteithion cenedlaethol: teisennau neu gacennau cri (pice ar y maen yn y de) a bara brith.
Er gwaethaf yr enw, mae teisennau neu chacennau cri yn disgyn rhwng dwy stôl – rhywbeth rhwng cacen a sgon – ac yn draddodiadol maent yn cael eu coginio ar faen neu radell boeth. Torth ffrwythau a sbeis yw bara brith, a wneir drwy fwydo ffrwythau sych mewn te.
Mae’r ddau yn cael eu gwneud o gynhwysion a fyddai gan deuluoedd cyffredin Cymru yn eu cartrefi – ffrwythau sych, te, lard, llefrith/llaeth ac wyau.
Heddiw, mae teisennau / cacennau cri a bara brith yn ddanteithion perffaith ar gyfer te prynhawn ac maent i’w gweld ar fwydlenni caffis ar draws Cymru. Fel y pastai yng Nghernyw, roeddynt yn fyrbryd perffaith, llawn calorïau, ar gyfer glowyr a gweithwyr diwydiannol llwglyd, a’r maint cywir i’w rhoi mewn poced a’u bwyta yn nes ymlaen.
Lle i’w bwyta: os ewch am dro bach o orsaf drenau Bae Colwyn byddwch yn cyrraedd y promenâd sydd wedi cael ei adnewyddu’n ddiweddar. Mae miliynau o bunnau wedi cael eu gwario i adnewyddu blaen y traeth o Hen Golwyn i Fae Penrhyn ac mae’n edrych yn wych. Mae gwesty Bryn Williams yn y Bistro Porth Eirias ar lan y môr ac yn gweini bwyd môr blasus a seigiau wedi’u gwneud o gynhwysion lleol. Mae’n adnabyddus hefyd am werthu cacennau cri blasus a choffi lleol, felly dyma’r lle i ddod i fwynhau paned a golygfa fendigedig!
Yr Eisteddfod
Mae Cymru hefyd yn genedl o artistiaid: beirdd, chwedleuwyr, cerddorion, actorion a dramodwyr, ymhlith eraill. Yn syml iawn, mae’r celfyddydau yn rhan o’n DNA!
Mae rhai o berfformwyr gorau’r byd yn dod o Gymru: Catatonia, Stereophonics, y Fonesig Shirley Bassey, Manic Street Preachers, ac wrth gwrs, Tom Jones. Heb sôn am sêr Hollywood fel Luke Evans, Catherine Zeta Jones, Ioan Gruffydd ac Iwan Rheon.
Rydym yn dathlu ein cariad at y celfyddydau yn ein heisteddfodau – gwyliau sy’n dathlu barddoniaeth, llenyddiaeth a phefformiadau. Nid rhywbeth newydd yw’r gwyliau hyn. Cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf yn y ddeuddegfed ganrif pan drefnodd Rhys ap Gruffydd gyfarfod o artistiaid Cymreig yn ei lys yn Aberteifi.
Mae gennym sawl math o eisteddfod yng Nghymru, yn amrywio o’r rhai ar gyfer pobl ifanc (Eisteddfod yr Urdd) i’r rhai sy’n gwahodd cyfranwyr byd-enwog (a gynhelir yn flynyddol yn Llangollen). Ond y mwyaf enwog yw Eisteddfod Genedlaethol Cymru a gynhelir bob mis Awst. Dyma’r ŵyl gerddoriaeth a barddoniaeth gystadleuol fwyaf yn Ewrop.
Ymunwch: mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn symud i leoliad newydd bob blwyddyn, gan amrywio o’r de i’r gogledd. Eleni, cynhelir yr ŵyl ddiwylliannol wych hon yn ne Cymru ond yn 2025 bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ger dinas Wrecsam.
I gloi, mae diwylliant a thraddodiadau Cymru yn glytwaith o hanes, chwedlau a’r celfyddydau sy’n agos iawn at galon y Cymry. O’r hen arfer o gerfio llwyau pren i ddathliad modern yr Eisteddfod Genedlaethol, mae pob traddodiad yn adrodd stori pobl sydd â chysylltiad agos â’r tir a’u treftadaeth. Wrth i ni barhau i ddathlu’r traddodiadau hyn, rydym nid yn unig yn talu gwrogaeth i Dewi Sant a’r holl ddylanwadau sydd wedi siapio ein cenedl, rydym hefyd yn cryfhau’r cysylltiadau sy’n ein huno fel Cymry.