Cestyll arfordir a chefn gwlad Gogledd Cymru!
Mae cestyll yr ardal hon ymhlith y gorau yn Ewrop, felly beth am ymweld â nhw a mwynhau’r golygfeydd gwych o’u hamgylch ar ddiwrnod allan gwych yng Ngogledd Cymru.
Mae’r cestyll mwyaf adnabyddus yn rhan o ‘Gylch Haearn’ enwog Edward I. Y rhain yw’r cestyll anferth sy’n amddiffyn Gogledd Cymru o Gonwy i Harlech. Ar un adeg, y llinyn o gestyll bygythiol ac arswydus hyn oedd un o brosiectau adeiladu canoloesol mwyaf Ewrop.
Yn ogystal â chestyll enwog Edward, mae yma sawl castell sy’n llai o ran maint, ond yr un mor drawiadol. Mae gan bob un ei stori ddiddorol ei hun i’w hadrodd, ac mae pob un wedi chwarae rhan bwysig iawn yn hanes Cymru hefyd. Eisiau darganfod mwy? I ffwrdd â ni!
Castell Deganwy – gorsaf agosaf Deganwy
Ychydig o ffosydd, pentyrrau o rwbel a cherrig sydd ar ôl yng Nghastell Deganwy erbyn hyn, ond mae ganddo hanes sy’n dyddio’n ôl dros 1,000 o flynyddoedd.
Mae’r golygfeydd o ben y Fardre – y ddwy graig lle’r oedd y castell yn sefyll – ymhlith y gorau yng Ngogledd Cymru. Ar ddiwrnod clir gallwch weld am filltiroedd i bob cyfeiriad; prawf o bwysigrwydd strategol y safle fel caer amddiffynnol.
Yn ôl pob tebyg, fe wnaeth y Cymry etifeddu’r safle yn yr 2il ganrif ond yr arglwydd Normanaidd, Robert o Ruddlan, oedd yn gyfrifol am adeiladu’r castell carreg cyntaf yma yn 1080. Dinistriwyd y castell gan y Cymry pan wnaethant gipio’r safle ar ddiwedd y 12fed ganrif.
© Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2024) Cymru Wales
Adeiladwyd castell newydd gan Llywelyn Fawr yn 1213 ond prin yw’r olion o’r castell hwn heddiw. Yn dilyn ei farwolaeth yn 1240, penderfynodd ei feibion ddinistrio’r castell yn hytrach na’i roi i’r Brenin John. Pan gyrhaeddodd y Saeson, roedd yn rhaid iddynt gysgu mewn pebyll gan fod y castell wedi’i ddinistrio’n llwyr!
Adfeilion y castell a adeiladwyd yn ystod teyrnasiad Harri III sydd i’w gweld yma heddiw. Gadawodd y Saeson y safle pan benderfynodd mab Harri, Edward I, adeiladu castell newydd yng Nghonwy, mewn safle strategol ar lan yr afon. Yn ôl yr hanes, defnyddiwyd cerrig o gastell Deganwy i adeiladu castell a muriau tref Conwy.
Castell Conwy – gorsaf agosaf Conwy
Mae castell eiconig Conwy yn un o gestyll Cylch Haearn Edward I. Gallwch gerdded i’r castell o orsaf Cyffordd Llandudno mewn rhyw 20 munud, gan groesi’r cob a’r bont dros yr afon i dref Conwy. Mae’r castell a’r lleoliad mor adnabyddus a hygyrch, roedd yn rhaid i ni ei gynnwys ar ein rhestr.
Wrth i chi groesi’r bont, mae’r castell yn bwrw cysgod dros y dref a’r afon fel anghenfil anferth, llwyd. Mae’n hawdd dychmygu y byddai’n codi arswyd ar y Cymry brodorol ac yn codi ofn ar unrhyw wrthryfelwyr!
Adeiladwyd y castell gan James of St George (prif adeiladwr cestyll Edward I), a hwn yw un o’r cestyll canoloesol gorau o’i fath ym Mhrydain. Mae’r golygfeydd mewnol yr un mor drawiadol â’r rhai allanol!
Yn wahanol i gestyll eraill y cyfnod, adeiladwyd y castell ar siâp hirsgwar, a hynny o bosibl er mwyn manteisio ar ffurf y tir. Gyda’i ddau ragfur anferth (pyrth amddiffynnol), ei wyth tŵr uchel a neuadd fawr, mae Castell Conwy yn cyfleu teimlad o gryfder a mawredd i bawb sy’n camu heibio’r muriau.
Mae Castell Conwy a Muriau’r Dref yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO a’r dref hanesyddol hon yw un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd ymhlith ymwelwyr yng Ngogledd Cymru. Gallwch gerdded o amgylch y muriau ¾ milltir o hyd sy’n amgylchynu tref Conwy, gan fwynhau golygfa unigryw o’r dref a’r bobl. O’r murfylchau, gallwch fwynhau golygfeydd gwych o’r môr a’r mynyddoedd, yn ogystal â chael cipolwg diddorol ar erddi a lonydd cefn preswylwyr Conwy.
Castell Dolwyddelan – gorsaf agosaf Dolwyddelan
Yn ôl y sôn, cafodd yr arwr cenedlaethol, Llywelyn Fawr, ei eni yng Nghastell Dolwyddelan. Fodd bynnag, nid yw hyn yn hollol gywir. Castell Tomen, bryngaer gyfagos yw man geni Llywelyn; tybed allwch chi weld y fryngaer o ben tŵr Castell Dolwyddelan?
Yn debyg i Gastell Dolbadarn yn Llanberis, adeiladodd Llewelyn y tŵr syml hwn o lechi lleol ac er ei fod yn edrych fel castell nodweddiadol o ran ei ddyluniad, mae’r dewis diddorol o ddeunyddiau adeiladu yn ei wneud yn gwbl Gymreig.
Yn dilyn marwolaeth Llywelyn, aeth Edward I ati i drwsio’r castell ac adeiladodd ail dŵr. Ar ôl adeiladu ei ‘Gylch Haearn’, nid oedd Dolwyddelan mor bwysig yn strategol ond goroesodd y castell serch hynny. Dros y canrifoedd, ychwanegwyd llawr arall a’r murfylchau bylchog nodedig. Daeth y castell o dan warchodaeth CADW – y sefydliad sy’n gyfrifol am gynnal a chadw henebion yng Nghymru – yn yr ugeinfed ganrif.
Mae’r daith i ben y castell yn werth yr ymdrech – cewch eich gwobrwyo â golygfeydd godidog o Ddyffryn Lledr.
Castell Penrhyn – gorsaf agosaf Bangor
Mae Castell Penrhyn yn cyfuno mawredd hanesyddol a harddwch naturiol, a does dim syndod felly ei fod yn gyrchfan atyniadol iawn i ymwelwyr. Adeiladwyd y castell neo-Normanaidd hwn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar arddull ganoloesol, ac mae bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Heddiw, mae’n dyst i uchelgais bensaernïol oes Victoria. Mae’r lleoliad strategol yn cynnig golygfeydd gwych o dirweddau garw Eryri a harddwch afon Menai, yn ogystal ag ymgorffori obsesiwn y cyfnod Fictoraidd â grym a mawredd.
Mae hanes y castell yr un mor nodedig â’r bensaernïaeth, gan iddo chwarae rhan bwysig yn hanes cymdeithasol ac economaidd y cyfnod, yn enwedig mewn perthynas â Chwarel y Penrhyn ym mhentref cyfagos Bethesda. Mae’r elfen hon yn ychwanegu haen o gymhlethdod i’w hanes, gan adlewyrchu’r cyfoeth a dylanwad a ddaeth yn sgil mentrau diwydiannol, ochr yn ochr â’r tensiynau cymdeithasol a ddeilliodd o hyn.
Gall ymwelwyr ddysgu mwy am orffennol y castell ac ymweld â’r ystafelloedd crand. Mae ymweld ag ardaloedd cyhoeddus a phreifat y castell, gan gynnwys y geginau a’r ystafelloedd gwely a ddefnyddiwyd gan aelodau o’r teulu brenhinol ar un adeg, yn datgelu llawer am ffordd o fyw ac arferion y preswylwyr hanesyddol.
Yn ogystal â hyn, mae Castell Penrhyn yn gartref i amgueddfa reilffordd ddiddorol. Mae’r amgueddfa nid yn unig yn dathlu datblygiadau technolegol y cyfnod ond hefyd yn cysylltu’r castell â diwydiant a threftadaeth gyfoethog y diwydiant llechi lleol. Mae’r locomotifau sydd i’w gweld yma yn amlygu rôl ganolog y rheilffyrdd yng ngweithgareddau diwydiannol a hanes economaidd yr ardal.
Mae’r castell wedi’i amgylchynu gan barcdir eang lle gallwch fwynhau amrywiaeth o weithgareddau awyr agored. Gallwch grwydro’r gerddi ffurfiol neu’r llwybrau coetir sy’n arddangos y grefft o ddylunio a chynnal tirweddau oes Victoria. Gyda’r fath amrywiaeth o ardaloedd awyr agored braf, o faes chwarae antur i lecynnau tawel, does ryfedd bod y castell yn denu cynifer o deuluoedd a phobl sy’n mwynhau hanes.
Castell y Fflint – gorsaf agosaf y Fflint
Mae’r castell hwn ger aber afon Dyfrdwy o fewn cyrraedd hwylus i’r orsaf. Mae’n enghraifft wych o bensaernïaeth filwrol ganoloesol ac roedd yn safle pwysig yn hanes cythryblus Cymru a Lloegr. Adeiladwyd y castell ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, a dyma’r cyntaf o gestyll ‘Cylch Haearn’ Edward I, y rhwydwaith strategol o amddiffynfeydd a godwyd er mwyn gorfodi rheolaeth y Saeson ar Gymru.
Castell y Fflint yw’r castell agosaf at y ffin â Lloegr, a chwaraeodd rhan bwysig iawn felly yn yr ymgyrch hanesyddol rhwng y ddwy wlad. Roedd y lleoliad hwn ar lan afon Dyfrdwy yn bwysig yn strategol ac yn safle nodedig nid yn unig o safbwynt amddiffynnol ond hefyd er mwyn darparu cyflenwadau ar gyfer coron Loegr.
Mae Castell y Fflint yn enghraifft wych o beirianneg a strategaeth filwrol ganoloesol, ac mae’n cynnwys nodweddion fel ffos amddiffynnol a beili mewnol wedi’i amddiffyn gan dŵr crwn ar wahân o’r enw donjon. Roedd y donjon, tŵr wedi’i godi ar ynys bwrpasol y tu mewn i furiau’r castell, yn nodedig iawn o ran ei ddyluniad a’i bwysigrwydd strategol.
Er gwaethaf ei amlygrwydd cynnar, daeth Castell y Fflint yn llai pwysig dros y canrifoedd, yn enwedig ar ôl concwest Cymru. Chwaraeodd rôl yn Rhyfel Cartref Lloegr ond cafodd ei adael yn wag yn y pen draw ac aeth yn adfail. Heddiw, mae’r adfeilion yn cynnig cipolwg ar y gorffennol, ac mae’r muriau cerrig anferth a gweddillion y tyrau yn denu ymwelwyr i’r safle.
Nid lle ar gyfer pobl sy’n ymddiddori mewn hanes yn unig yw hwn, mae hefyd yn denu’r rhai sy’n gwerthfawrogi harddwch a thawelwch tirweddau Cymru. Mae’r golygfeydd o’r castell ar draws yr aber a’r cefn gwlad cyfagos yn wirioneddol syfrdanol ac yn gefnlen berffaith i fyfyrio ar hanes cythryblus y safle.
Dechrau eich taith chwedlonol eich hun
Felly dyna ni. Taith o’r arfordir i’r mynyddoedd; taith yn ôl mewn amser. Os oeddech chi’n credu mai’r ‘4 castell mawr’– Conwy, Caernarfon, Harlech a Biwmares – oedd yr unig rai i’w gweld yng Ngogledd Cymru, gobeithio fod hyn wedi gwneud i chi ailfeddwl.