Hydref – Calan Gafa

Ysbrydion a straeon arswyd ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru

Gan fod Calan Gaeaf yn prysur nesáu, mae’n hen bryd i ni fentro i ymweld â rhai o chwedlau dychrynllyd pentrefi a threfi Rheilffordd Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd Cymru.

O Gonwy yn y dwyrain, hyd at Gaergybi yn y gorllewin, mae’r rheilffordd yn cysylltu ardaloedd sy’n frith o hanesion hynod ac arswydus. Ar hyd y lein byddwch yn dod ar draws cestyll cadarn a thai crand, eglwysi hynafol a safleoedd sanctaidd, adfeilion gweithfeydd diwydiannol ac olion diwylliannau sydd wedi hen ddiflannu. Maent i gyd yn hynod diddorol, pob un â hanes arbennig, ond maent hefyd yn gysylltiadau cyffyrddadwy â phethau dirgel sy’n perthyn i fyd arall…  byd anweledig ac arallfydol.

Erbyn meddwl, nid yw’n syndod dysgu fod gogledd Cymru’n enwog am straeon arswyd ac ysbrydion dirifedi. P’un ag ydych yn credu ynddynt neu beidio mae digwyddiadau goruwchnaturiol, straeon am lofruddion dychrynllyd ac eneidiau colledig, yn apelio at bawb sydd â blas ar y brawychus a bwganllyd yn ystod Calan Gaeaf. Darllenwch ymlaen os ydych chi’n ddigon dewr!

Troseddwyd sinistr

Carchar Biwmares – gorsaf drenau agosaf: Bangor

Tref na ddylid ei cholli ar unrhyw daith i Ynys Môn yw Biwmares. Tref glan môr syfrdanol gyda hanes hir, diddorol ac yn aml yn gythryblus. Bu pobl yn byw yn yr ardal ers oes y Llychlynwyr, ac mae gan Fiwmares gastell canoloesol byd-enwog, enghreifftiau arbennig o adeiladau Tuduraidd a charchar Fictorianaidd dychrynllyd.

Adeiladwyd Carchar Biwmares ym 1829 ac roedd yn gartref i lu o droseddwyr cythreulig a drygionus hyd iddo gau hanner canrif yn ddiweddarach. Er mai dim ond 30 o garcharorion cadwyd yno, fe welodd y carchar hwn ei gyfran deg o ddigwyddiadau erchyll yn ei oes fer. Digwyddodd ddau ddienyddiad proffil uchel yno, ac roedd Carchar Biwmares yn enwog am drin carcharorion yn greulon, a oedd yn aml yn cael eu cadwyno, eu chwipio, eu gwneud i dorri creigiau a’u gorfodi i dreulio dyddiau wedi eu hynysu mewn celloedd tywyll. Roedd y carchar hefyd yn gartref i un o’r melinau penyd olaf ym Mhrydain, lle bu’n rhaid i garcharorion gerdded mewn cylchoedd drwy’r dydd i gyflenwi dŵr i’r adeilad.

Tra bod nifer o garcharorion wedi eu dedfrydu i farwolaeth yng Ngharchar Biwmares, dim ond dau ddienyddiad trwy grogi a gyflawnwyd. Gadawodd y ddau eu holion goruwchnaturiol amlwg ar hanes y carchar. Y cyntaf oedd William Griffith ym 1830, a ddedfrydwyd i farwolaeth am geisio llofruddio ei gyn-wraig. Ar fore ei ddienyddiad, fe gododd baricêd yn ei gell a bu’n rhaid ei orfodi allan a’i lusgo at y crocbren. Yr ail oedd Richard Rowlands ym 1862, a ddedfrydwyd i farwolaeth am ladd ei dad-yng-nghyfraith. Mynnodd Rowlands ei ddiniweidrwydd hyd y diwedd a dywedir iddo roi melltith o’r crocbren ar gloc yr eglwys gyfagos, gan ddarogan na fyddai pedwar wyneb y cloc byth yn dangos yr amser cywir – hyd heddiw nid yw’r cloc erioed wedi cadw amser.

Dywedir bod y ddau ddyn wedi’u claddu ym muriau’r carchar, ffaith a all fod yn gyfrifol am rywfaint o’r gweithgareddau arallfydol a adroddwyd o amgylch yr adeilad. Ymysg y rhai mwyaf cyffredin yw adroddiadau am leisiau aflafar, ffigurau cysgodol a pholtergeistiaid.

Mae rhai ymwelwyr wedi adrodd am glywed sŵn traed yn llusgo y tu allan i’r celloedd pan nad oes neb yno, ac eraill wedi dweud eu bod wedi teimlo cyffyrddiadau neu glywed lleisiau’n sibrwd pan ar eu pen eu hunain yn y celloedd. Ai dyma Griffith a Rowlands neu eneidiau eraill a gollwyd i dreigl amser, tybed?

Ar wahân i Griffith a Rowlands, dywedir mai cyn-garcharor yw’r ysbryd mwyaf cyffredin. Mae o wedi’i glywed yn curo ar ddrysau ac yn chwibanu fel pe bai’n mynd o gwmpas ei rowndiau dyddiol yn y carchar.

Mae Carchar Biwmares yn lleoliad poblogaidd ar gyfer hela ysbrydion ac mae hyd yn oed wedi ymddangos ar y rhaglen deledu Most Haunted a gyflwynir gan Yvette Fielding. Os ydych chi’n ddigon dewr i fentro ei goridorau a’i gelloedd cysgodol yn ystod y dydd – neu yn y gyda’r nos – efallai y byddwch chithau hefyd yn profi’r ‘ymdeimlad di-dor o egni tywyll’ a brofir gan helwyr ysbrydion eraill. Ymlaen â chi, os ydych chi’n meiddio!

Cynllunio ymweliad: daliwch fws ger gorsaf drenau Bangor i gyrraedd Biwmares; mae’n daith ddymunol gyda golygfeydd gwych ar hyd y Fenai. Am brisiau mynediad ac amseroedd agor, ewch i wefan y carchar yma.

Jac Ceidwad y Goleudy

Ynys Lawd – gorsaf drenau agosaf: Caergybi

Daw un o straeon ysbryd enwocaf Ynys Môn o oleudy eiconig Ynys Lawd, i’r gogledd-orllewin o Gaergybi. Mae’r goleudy hwn – sy’n fyd-enwog am ei safle diarffordd a pheryglus – wedi magu enw fel ardal sy’n ferw o ddigwyddiadau goruwchnaturiol, gydag adroddiadau am y paranormal yn dyddio’n ôl cannoedd o flynyddoedd.

© Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2024) Cymru Wales

Wedi’i leoli mewn gwarchodfa natur RSPB o 90 erw, mae Ynys Lawd yn boblogaidd gyda cherddwyr, gwylwyr adar a ffotograffwyr. Mae’r goleudy a’r warchodfa natur daith fer ar fys o Gaergybi, ac yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Ond bydd yn rhaid rhoi eich coesau ar waith i ennill yr hawl i ddweud eich bod wedi ymweld! Mae 400 o risiau serth yn sefyll rhyngoch chi a’r goleudy, yn ogystal â phont grog fechan yn croesi’r dyfroedd corddol islaw. Ar ôl yr holl adrenalin, efallai y byddwch chi’n falch o weld ysbryd!

Adeiladwyd y goleudy 41 metr o uchder yn 1809, i rybuddio llongau rhag y creigiau peryglus islaw. Ym 1853, tarodd storm enfawr arfordir Môn, gan arwain at longddrylliadau niferus. Yn ystod y storm, cwympodd graig gan daro ceidwad y goleudy Jac Jones. Ni chlywodd neb ei grio am help, a bu farw o’i anafiadau dair wythnos yn ddiweddarach. Yn ôl y chwedl, mae ysbryd Jac i’w glywed o hyd yn curo ar ddrysau a ffenestri’r goleudy yn ystod y nos. Mae pobl leol yn honni eu bod wedi clywed sŵn traed trwm o amgylch y goleudy, yn ogystal â sgrechiadau arswydus. Ac os nad yw hynny’n ddigon, mae eraill wedi gweld drysau’n cael eu hysgwyd a chlywed tapio ar y ffenestri, fel pe bai rhyw greadur truenus yn ceisio lloches rhag storm ofnadwy.

Mae Yvette Fielding a chriw’r rhaglen deledu Most Haunted wedi cynnal darllediad byw o’r goleudy ac yn gwbl argyhoeddedig eu bod wedi dod ar draws ceidwad y goleudy yn ystod eu helfa. Honnai’r tîm eu bod wedi gweld ffigwr cysgodol yn eu gwylio drwy ffenest, ond pan aethant i’w dilyn fe neidiodd y ffigwr o’r clogwyni i’r môr. Dal ddim yn credu mewn ysbrydion? Mae’r awdur Richard Jones, ymchwilydd paranormal blaenllaw, wedi rhoi sgôr arswydus o 5 seren i oleudy Ynys Lawd yn ei lyfr diweddaraf, Haunted Britain!

Cynllunio ymweliad: y ffordd orau o gyrraedd Ynys Lawd yw dal bws o Gaergybi. Mae’n rhan o warchodfa natur RSPB ac y mae’r goleudy a chlogwyni yn gwneud diwrnod allan wych i’r teulu cyfan. Am fwy o wybodaeth am amseroedd agor a phrisiau cliciwch yma, ac i drefnu ymweliad a thaith tywys o’r goleudy, cliciwch yma.

‘Drychiolaethau’ traeth Newry

Caergybi – gorsaf drenau agosaf: Caergybi

“A dweud y gwir maen nhw’n eitha brawychus….yn enwedig o’u gweld yng ngolau’r lleuad.”

Daw dirgelwch diddorol arall o Gaergybi ar ffurf yn ffigyrau rhyfedd a fydd yn ymddangos weithiau ar draeth Newry, ychydig funudau ar droed o ganol Caergybi. Mae’r ffigyrau’n ymddangos yn debyg i fodau dynol yn codi o’r dŵr ac yn ddrwg-enwog am ddychryn pobl ar y lan, yn enwedig ym mherfeddion tywyll nosweithiau gaeafol.

Mae gweld y ffigurau hyn wedi tanio sawl dychymyg, gyda rhai yn eu cymharu ag ysbrydion morwrol llong chwedlonol y Flying Dutchman. Mae llun o’r ‘ysbrydion’ hyn wedi’i rannu droeon ar y cyfryngau cymdeithasol, a nifer yn sôn am eu hymddangosiad unigryw ac atmosfferig. Cewch benderfynu drosoch eich hun drwy glicio yma.

Mewn gwirionedd, clwstwr o bolion pren o hen ramp bad achub Caergybi wedi’u gorchuddio â gwymon yw’r ffigyrau. Dros y blynyddoedd, mae natur wedi eu siapio’n ffurfiau dynolaidd, sy’n ymddangos pan fo’r llanw ar drai a dychryn pobl sy’n pasio heibio. Ystyrir fod y ‘drychiolaethau’ hyn yn ein hatgoffa o ddewrder criwiau bad achub Ynys Môn sydd wedi – ac yn parhau i – fentro eu bywydau i helpu eraill ar bob hin.

Er nad yw’r ‘ysbrydion’ hyn yn oruwchnaturiol, maent yn sicr yn ychwanegu at naws ddirgel a hudol Caergybi, gan wneud y dref yn lle hynod ddiddorol i’r rhai sy’n ymddiddori yn yr iasol ac annearol y Calan Gaeaf hwn.

Cynllunio ymweliad: o orsaf drenau Caergybi, mae traeth Newry yn daith cerdded o ugain munud o ganol y dref. Dilynwch arwyddion ar gyfer Amgueddfa Arforol Caergybi ac efallai cynnwys ymweliad i’r amgueddfa arbennig hon ar y ffordd, a dysgu mwy am ddewrder y dynion a merched Cymraeg sydd wedi ymroi eu hunain i’r môr.

Ysbrydion Dyffryn Conwy

Mae cyfoeth o hanes a chwedlau yn y pentrefi a’r trefi ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy.  Mae cestyll a thai sy’n dyddio’n ôl cannoedd o flynyddoedd; hen eglwysi, mynwentydd a mwynfeydd sydd wedi bod yn rhan o’r tir ers cyn cof.

Ni fydd unrhyw syndod felly, o ddysgu bod Gogledd Cymru yn fan sy’n llawn gweithgarwch goruwchnaturiol.  Os ydych chi’n credu mewn ysbrydion neu beidio, mae straeon mynachod bygythiol, ysbrydion drygionus ac eneidiau coll trist yn ddiddorol hyd yn oed os nad ydych yn eu coelio.

Os ydych yn mynd ar daith ar hyd Rheilffordd Dyffryn Conwy, dyma ychydig o straeon iasol i godi arswyd!

Ysbrydion Gwydir  

Rydym yn dechrau yng Nghastell Gwydir, maenordy canoloesol caerog ar gyrion Llanrwst, sy’n enwog am fod yn un o’r tai mwyaf arswydus yng Nghymru!

Mae safle Gwydir wedi’i feddiannu ers y 6ed ganrif ond daeth i rym yn nwylo teulu Wynn – uchelwyr Cymreig pwerus a dderbyniodd gymwynas a dylanwad gyda’r brenhinoedd Tuduraidd.  Mae’n awr yn westy moethus preifat ac mae’r preswylwyr a’r gwesteion yn adrodd nifer o ddigwyddiadau rhyfedd ac aruthrol!

Nid yw hyn yn ffenomenon newydd, fodd bynnag.  Mae gweithgarwch goruwchnaturiol wedi’i gofnodi yn y tŷ ers 19eg ganrif, gyda’r holl adroddiadau yn gyson o ran yr hyn sy’n digwydd a ble mae’n digwydd.

Dywed bod morwyn ifanc yn llechu yn Adain y Gogledd.  Mae ganddi arogl afiach o bydredd ac mae’r tymheredd yn gostwng pan fydd hi i’w gweld.  Er mwyn rhoi gwybod ei bod hi yno, bydd yn eich cyffwrdd ar eich ysgwydd!

Dywed hanes bod Syr John Wynn wedi hudo morwyn ond pan aeth yn feichiog fe’i lladdodd a chladdu ei chorff mewn wal.  Pan archwiliwyd y tŷ flynyddoedd yn ddiweddarach, canfuwyd twll mewn wal – lle bo’r arogl afiach ar ei gryfaf!

Mae rhai wedi clywed plant yn llefain yn yr adeilad pan nad oedd unrhyw blant o gwmpas, mae gan y castell ysbryd ci (canfu’r perchnogion presennol ysgerbwd ci yn y seler yn ystod y gwaith adnewyddu) ac mae sôn bod rhai wedi gweld gorymdeithiau yng ngolau ffaglau ar draws y lawnt.  

Ond, peidiwch â gadael i hyn eich atal, mae Castell Gwydir yn lleoliad gwych i ymweld ag ef.  Mae’r tŷ a’r gerddi rhestredig Gradd I yn enghraifft wych o gelfyddyd Tuduraidd ac mae wedi’i leoli mewn man hardd 3 milltir y tu allan i Lanrwst.  Mae ar agor i’r cyhoedd rhwng mis Mawrth a mis Hydref.  Mae mynediad am ddim.

Dweud ‘bw!’  ym Metws  

Ni fyddwch yn synnu i glywed bod Syr John yn teithio dipyn ac mae ei straeon ysbryd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i waliau Gwydir.

Mae sôn ei fod yn llechu yn y Rhaeadr Ewynnol, atyniad twristaidd poblogaidd ym Metws-y-Coed.  Yn ddiweddar bu archwilwyr dewr o dîm Dark Arts Paranormal yn ffilmio yn y rhaeadr a hawliwyd fod ganddynt ffilm o ddyn yn cerdded ger y rhaeadr.  Maent yn credu mai Syr John Wynn ydyw.  Yn ôl yr hanes, cadwyd ei ysbryd yma i gael ei ‘lanhau, ei buro a’i boeri arno gan y dyfroedd am byth am y gweithredoedd erchyll a wnaeth yn nyddiau ei fywyd’.

Ddim yn credu hyn?  Gwnewch benderfyniad eich hun drwy wylio’r ffilm.

Ond nid y Rhaeadr Ewynnol yw’r unig fan ag ysbrydion ym Metws-y-Coed.

Mae siop ddillad Anna Davies yng nghanol y dref a Gwesty’r Royal Oak yn hawlio eu bod wedi gweld ysbrydion a gweithgarwch ysbrydion drygionus ers yr 1960au.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, taflwyd esgid at berchennog Anna Davies yn y storfa, ac fe ddigwyddodd yr un peth i’w fam yng nghyfraith ym 1956! Pan yn byw uwchben y siop, fe welodd hi ddrysau’n cau’n glep, gwrthrychau’n symud ac eitemau’n diflannu’n rheolaidd.

Yng Ngwesty’r Royal Oak drws nesaf, mae dynes mewn clogyn a lleian wedi’u gweld, mae teledu yn troi ymlaen ac yn diffodd heb i neb ei gyffwrdd, a dywed bod sawl ysbryd yn llechu yn y cynteddau.  Efallai eu bod yn westeion o’r dyddiau a fu a oedd wedi mwynhau cymaint nad ydynt yn gallu peidio ag ymweld – hyd yn oed ar ôl iddynt farw!

Conwy Iasol  

Mae gan Gastell Conwy, safle brwydrau gwaedlyd ac achosion creulon, yn llawn straeon hefyd.  Cyn adeiladu’r castell roedd Abaty Aberconwy ar safle gerllaw.  Trosglwyddodd Edward I y mynachod i Abaty Maenan i wneud lle ar gyfer ei gastell ond fe ymddengys bod rhai preswylwyr yn anfodlon gadael.  Mae straeon bod dau ffigwr mewn cwfl, mynachod o bosibl, yn ymddangos yn y castell.  Maent yn hofran heb symud, gan edrych fel eu bod yn arnofio yn yr awyr, ac nid oes ganddynt draed na nodweddion ar eu hwynebau.

Yn ddiweddar, mae llais heb gorff wedi bod yn dychryn ymwelwyr y castell.  Mae tîm Dark Arts Paranormal wedi recordio EVP (Ffenomenon Llais Trydanol) o ferch fach yn sibrwd “don’t tell them” – gwrandewch ar y clip sain i weld os ydych chi’n ei glywed.

Yng nghanol Conwy mae Plas Mawr, tŷ tref Elisabethaidd mawreddog.  Hwn oedd cartref Robert Wynn a’i deulu, masnachwyr cyfoethog a pherthnasoedd teulu Wynn Gwydir.  Dywed hanes fod gwraig feichiog Robert, Dorothy, a’i fab ifanc yn aros iddo ddychwelyd a bob nos roeddent yn mynd i’r tŵr uchaf i weld a allant weld eu harglwydd yn dychwelyd.

Un noson drasig, baglodd Dorothy ar y grisiau ac fe ddisgynnodd hithau a’i mab gan achosi anafiadau difrifol.  Galwodd yr aelwyd feddyg y teulu, ond fe gyrhaeddodd meddyg ifanc, rhyfedd a ddywedodd bod ei feistr wedi’i alw i rywle ar frys.  Canfu’r meddyg ifanc nad oedd yn ddigon profiadol; roedd yr anafiadau ymhell y tu hwnt i’w sgiliau cyfyngedig.  Ond bu i’r aelwyd ei atal rhag gadael gan gloi’r meddyg ifanc yn yr ystafell gyda Dorothy, ei baban yn y groth a’i mab ifanc.

Yn anffodus, bu farw’r teulu, ac aeth y meddyg, gan ofni am ei fywyd, i guddio yn y simnai rhag meistr y tŷ.  Pan ddychwelodd Robert roedd wedi’i lethu gan alar ac fe addawodd y byddai’n dial ar y meddyg ifanc.  Chwiliodd drwy’r tŷ cyfan ond nid oedd unrhyw ôl o’r meddyg.  Credir ei fod wedi cuddio a marw yn y rhwydwaith cymhleth o simneiau sy’n croesi ym Mhlas Mawr.

Mae ymwelwyr y tŷ yn honni eu bod wedi clywed sŵn clecian uwch eu pennau (y meddyg yn ceisio dianc o’i garchar llawn huddygl), sŵn traed, wynebau aneglur yn y ffenestr ac arogl tybaco cryf.  Ewch i’r Neuadd Fawr ac efallai y bydd Robert Wynn yn eich cyfarch â “helo” arswydus.

Mae digwyddiadau rhyfedd yng Nghei Conwy hefyd.  Mae’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain yn arogli’n gryf o ddŵr hallt a physgod pan gaiff ei agor yn y bore.  Nid yw’n synod felly ei fod yn gartref i bysgotwr ar un adeg – mae sôn bod ei ysbryd direidus yn profocio’r ymwelwyr ac yn tynnu ar eu dillad hefyd.

Ychydig ddrysau i lawr y lôn, mae’r Liverpool Arms yn gartref i ysbrydion hefyd.  Mae dyn gyda phlentyn bach ar ei ysgwyddau yn llechu yno – cyn landlord y dafarn a gollodd ei fab a foddodd yn yr afon yn yr 1930au.  Weithiau gellir gweld mynach sinistr yn cuddio y tu ôl i’r adeilad; credir ei fod yn arwydd o farwolaeth rhywun sy’n gysylltiedig â’r dafarn.

Os oes gennych chi straeon ysbryd am Ddyffryn Conwy, byddem wrth ein bodd yn eu clywed.  Yn y cyfamser, gobeithio na fyddwch yn cael hunllefau!