Gyda dyddiau hir, poeth ganol haf yn ildio i rywbeth tynerach, dyma amser perffaith i ymweld ag un o erddi enwocaf Gogledd Cymru. Nid yw mor boeth, ond mae’r dyddiau’n hir o hyd, sy’n rhoi digon o amser i grwydro ymhlith blodau olaf y tymor. Peidiwch â meddwl bod arddangosiadau blodau gorau’r flwyddyn drosodd; mae rhywbeth prydferth a heddychlon ynghylch y blodau hwyr sy’n arbennig iawn. Maent yn arwydd hefyd o’r hyn sydd i ddod; tymor newydd, oerach, sydd yr un mor llachar a phrydferth ond sy’n wahanol iawn. Pan na wnewch chi ymweld â’n hoff erddi yng Ngogledd Cymru yn ystod eich ymweliad nesaf?
Ni allai ymweld â’r gerddi hyn ar drafnidiaeth gyhoeddus fod yn haws! Mae llawer o erddi gorau’r rhanbarth yn hygyrch ar Reilffordd Dyffryn Conwy neu Reilffordd Arfordir Gogledd Orllewin Cymru, gyda thaith fer ymlaen mewn bws.
Pan fyddwch yn cynllunio eich diwrnod ymhlith y blodau, rydym yn awgrymu eich bod yn gwirio Traveline Cymru am yr wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth gyhoeddus a theithio cyn i chi gychwyn.
Gardd Bodnant, Dyffryn Conwy
Gadael yn: Cyffordd Llandudno (yna 25 munud mewn bws)
Mae Gardd Bodnant, sy’n cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi’i lleoli yn harddwch Dyffryn Conwy. Yn ymestyn dros ardal o 80 erw, mae’n gartref i goedwig hudol, rhaeadrau, llwybrau cysgodol a therasau taclus, gan sicrhau bod rhywbeth i’w werthfawrogi drwy gydol y flwyddyn.
Yn ogystal ag arddangosfa o blanhigion ac anifeiliaid, gall ymwelwyr ddewis dilyn un o nifer o lwybrau o amgylch yr ardd. Mae’r rhain yn arddangos rhai o nodweddion prydferthaf Bodnant, gan gynnwys Coed y Ffwrnes, yr Hen Felin ac Y Gerdd. Drwy gydol y flwyddyn mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn trefnu rhaglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau i’r teulu ym Modnant, fel teithiau tywys gyda’r prif arddwr, llwybrau a chrefftau i’r plant, a dathliadau tymhorol.
Rydym yn argymell eich bod yn archebu tocynnau ymlaen llaw yn ystod cyfnodau prysur fel gwyliau’r haf. Mae croeso i gŵn da ar dennyn rhwng dydd Iau a dydd Sul rhwng 1 Ebrill a 30 Medi.
Rydym yn hoffi: ar ôl oriau braf yn crwydro’r ardd, mi allwch brynu anrheg i gofio yng Nghanolfan Gardd Bodnant. Mae’r ganolfan yn gwerthu detholiad o nwyddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynghyd â dewis o eitemau bwtîc, i’ch atgoffa o ddiwrnod mor braf.
Gerddi Cudd Plas Cadnant, Ynys Môn
Gadael yn: Llanfairpwll (yna 30 munud mewn bws)
Ers dechrau ar y gwaith adfer yn 1996, mae ystâd a gerddi hanesyddol Plas Cadnant wedi’u trawsnewid diolch i ymdrechion y tîm rheoli a gwirfoddolwyr. Yn anffodus, profwyd ambell anffawd yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys difrod difrifol o ganlyniad i storm yn 2015, ond cafwyd cefnogaeth o bob cwr o’r wlad i helpu i adfer y gerddi i’w gogoniant gwreiddiol.
Mae’r gerddi yn apelio at bobl â phob math o ddiddordebau, ac maent yn cynnwys tair rhan unigryw. Mae’r Ardd Furiog yn cynnwys nodwedd dŵr arbennig, mae Gardd y Dyffryn yn gartref i raeadr drawiadol, ac mae Gardd Uchaf y Coetir yn cynnig dihangfa heddychlon.
Mae’r ardd yn agored rhwng hanner dydd a 5pm ar ddyddiau Mawrth, Mercher, Iau a Sul. Ewch i wefan Plas Cadnant am ragor o fanylion am ddigwyddiadau, fel teithiau Tywys y Garddwr, sy’n atyniad poblogaidd.
Rydym yn hoffi: y pleser o de prynhawn ar ôl tro hamddenol drwy’r gerddi. Mwynhau dewis helaeth o frechdanau a chacennau cartref, a heb anghofio sgon a hufen tolch a jam!
Tŷ a Gardd Plas Newydd, Ynys Môn
Gadael yn: Llanfairpwll (yna 30 munud mewn bws)
Wedi’i adeiladu ar lan y Fenai, mae Plas Newydd yn blasty arall sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r ardd, sy’n 40 erw, yn ymestyn i gynnwys 129 erw arall o goetir a pharcdir braf, sy’n gartref i amrywiaeth ddiddorol o blanhigion a chreaduriaid.
Mae’r plasty carreg urddasol hwn ym Môn yn arddangosfa o hanes byw ac yn hafan i blanhigion. Mae waliau’r tŷ yn creu microhinsawdd gwarchodol, sy’n berffaith i blanhigion egsotig, ac mae Cwrt yr Ystafell Haul yn cynnwys wal flodeuog brydferth.
Mae’r Teras Eidalaidd yn rhywbeth y mae’n rhaid ei weld, gyda’i arddangosfa o flodau lliwgar, ac mae’r coetir gyda’i ffawydd Chile a’r coed ewcalyptws yn hafan dawel. Mae’r Ardd Ddeheuol yn wledd yn y gwanwyn gyda’i blodau rhododendron a magnolia. Bydd naturiaethwyr yn falch o glywed bod y gerddi hefyd yn gartref i dros gant o wiwerod coch.
Mae croeso i gŵn da ar dennyn i’r rhan fwyaf o Blas Newydd, ac eithrio’r Teras Eidalaidd.
Rydym yn hoffi: y croeso sydd ym Mhlas Newydd i’r teulu cyfan! I adeilad mor fawreddog, ni allai fod yn fwy croesawgar; mae cymaint i’w wneud yma i bobl ifanc a phlant, gan gynnwys y maes chwarae antur yn y Coetir a’r gemau gardd ar y lawnt yn ystod misoedd yr haf.
Yn barod i ymweld?
Felly, dyna ni – tri rheswm da i ddarganfod gerddi trawiadol Gogledd Cymru yn ystod yr haf yma. Bydd y golygfeydd hardd ac amrywiaeth y planhigion sydd i’w gweld yn siŵr o greu argraff ac, wrth i’r hydref agosáu, byddwch yn dechrau cynllunio ar gyfer eich ymweliad nesaf.