Datblygodd Bae Colwyn fel tref wyliau yn gyflym yn sgil dyfodiad y rheilffordd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymhlith yr amrywiaeth eang o adeiladau hanesyddol yn y dref mae’r sinema hynaf yng Nghymru (sydd bellach yn defnyddio technoleg yr unfed ganrif ar hugain) a llawer o adeiladau a gafodd eu hadeiladu neu’u dylunio gan y pensaer lleol adnabyddus Sidney Colwyn Foulkes. Nid yw’r hen bier Fictoraidd wedi goroesi, ond codwyd pier newydd, llawer byrrach yn ei le, wedi’i ysbrydoli gan y pier gwreiddiol. Gallwch ymweld â stadiwm amlbwrpas Parc Eirias; cartref gemau cartref tîm rygbi dan 20 oed Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, symudodd y Weinyddiaeth Fwyd ei phencadlys i Fae Colwyn a threfnwyd yr ymgyrch “Dig for Victory” yn y dref.
Ar gyrion y dref mae’r Sw Mynydd Cymreig, sy’n rhan o Gymdeithas Swoleg Genedlaethol Cymru. Mae’n gartref i amrywiaeth eang o anifeiliaid ac adar, gan gynnwys teigrod Sumatra a llewpardiaid yr eira.
Mae gan Fae Colwyn draeth tywod a graean hir, ac ailddyluniwyd y promenâd Fictoraidd hir yn 2017. Wrth gerdded ar y promenâd gallwch weld ffosiliaid yn y cerrig calchfaen sy’n rhan o’r amddiffynfeydd morol. Mae’n bosibl cerdded i’r gorllewin ar hyd y traeth i Landrillo-yn-Rhos, cartref Theatr Bypedau’r Harlequin, ac ymweld â sawl safle hanesyddol yn y pentref, gan gynnwys Capel Sant Trillo (eglwys leiaf y sir, gyda lle i 6 o bobl eistedd), a Phenmaen Rhos, lle cipiwyd y Brenin Richard II yn 1399.