Mae Lein Dyffryn Conwy yn dilyn trofa lydan yr aber yn agos ac yng Nglan Conwy ar drai mae’r traethellau lleidiog yn llawn o bob math o adar hirgoes.
Mae hwyaid yr eithin, mulfrain, cornchwiglod a chrehyrod yn bwydo ar hyd y llinell ddwr gan anwybyddu’r trên sy’n pasio gerllaw i raddau helaeth.
Mae Glan Conwy’n cynnig golygfeydd gogoneddus o’r afon a Chastell Conwy a Thref Treftadaeth y Byd Conwy.
Cyn adeiladu’r bont croesai pobl yr aber mewn cwch o Lan Conwy i Gonwy.
