Tua chan milltir o Crewe, mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn dod i ben yng Nghaergybi, terfynfa fwyaf gorllewinol Ynys Môn. Mae’r dref fach hon ar ben pellaf yr ynys yn borthladd mawr prysur, a bu erioed yn fan aros hynod bwysig ar y daith i Iwerddon.
Heddiw, mae’r orsaf yn croesawu amryw o deithwyr o bob rhan o’r DU, gyda gwasanaeth dyddiol rhwng Llundain a Chaergybi.
Erbyn i’r rheilffordd gyrraedd Caergybi ym 1848, roedd eisoes yn borthladd sefydledig; hi oedd y dref fwyaf yn Ynys Môn mewn gwirionedd. Agorwyd yr orsaf wreiddiol ym 1848 gan Reilffordd Caer a Chaergybi, ond fe’i disodlwyd gan gwmni rheilffordd LNWR ym 1851 – mae to’r adeilad ‘newydd’ yn dal i’w weld hyd heddiw.
Pan ddaeth y rheilffordd i Gaergybi, roedd trenau’n rhedeg yr holl ffordd i lawr at y dŵr. Heddiw mae gan yr orsaf gysylltiadau â’r môr o hyd, gan ei bod yn cwrdd â Phorthladd Fferi Caergybi – y cyswllt môr prysuraf rhwng y DU ag Iwerddon.
Mae llawer i’w weld a’i gwneud yn nhref Caergybi a’r ardal gyfagos; mae’n llawer mwy na dim ond man gorffwys ar daith. Croeswch bont droed y Porth Celtaidd a dechreuwch archwilio. Yng nghanol y dref fe gewch amrywiaeth dda o siopau a chaffis, yn ogystal ag amgueddfa arforol hynod ddiddorol, sy’n olrhain hanes Caergybi.