Saif Cyffordd Llandudno tua hanner ffordd rhwng Caer a Chaergybi ac mae’n gyfnewidfa rhwng Lein Dyffryn Conwy a’r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cenedlaethol.

Ym mis Mawrth 2024 agorwyd Siop Goffi Porter’s yn yr orsaf reilffordd yn swyddogol. Ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, mae hwn yn gaffi menter gymdeithasol bendigedig i ymweld ag ef yn ystod eich teithiau.

Ar draws yr aber lydan saif Castell Conwy, a adeiladwyd rhwng 1283 ac 1289 gan Edward I ac sy’n dal i oruchafu ar y golygfeydd panoramig aruthrol yn edrych tuag at fynyddoedd Eryri.

O’r orsaf gellwch fynd am dro ar draws y bont dros yr afon i ymweld â’r castell, un o’r enghreifftiau mwyaf godidog o bensaernïaeth filwrol ganoloesol yn Ewrop i gyd.

Fel Safle Treftadaeth y Byd o Bwysigrwydd Ewropeaidd Arwyddocaol, mae gan Gonwy lawer o adeiladau hanesyddol, yn cynnwys ty masnachwr o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ty tref ysblennydd o oes Elisabeth a’r ty lleiaf ym Mhrydain, hyn i gyd yn ychwanegol at harbwr darluniadol a phrysur.

Ar yr aber, hefyd ychydig o waith cerdded o’r orsaf, mae Gwarchodfa Natur Conwy, a agorwyd yn ddiweddar gan yr RSPB fel lloches i adar hirgoes ac adar dŵr.

Os digwydd fod gennych gariad at y sinema, mae cyfadeilad amlsgrîn gerllaw.

Conwy viewed from the RSPB reserve at Llandudno Junction
Conwy i’w weld o warchodfa’r RSPB yng Nghyffordd Llandudno