Agorwyd gorsaf reilffordd Llanfairfechan ym mis Mai 1860. Fe’i hadeiladwyd gan Reilffordd Llundain a’r Gogledd Orllewin (LNWR, y sefydliad a oedd yn allweddol i ddatblygiad Rheilffordd Dyffryn Conwy) fel arhosfan ar y brif lein o Gaer i Gaergybi.
Roedd yn orsaf sylweddol, yn cynnwys dau blatfform, iard nwyddau, bocs signalau a chlamp o adeilad mawr ar y platfform tua’r dwyrain. Er iddi golli’r gwasanaeth nwyddau ym 1964, arhosodd yr orsaf ar agor i deithwyr.
Yn anffodus, cafodd adeilad mawr yr orsaf ei dymchwel ym 1987, ac addaswyd y safle i ganiatáu adeiladu’r A55, traffordd sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r lein o Gaer i Gaergybi; mae’r ffordd bellach yn rhedeg trwy hen safle’r adeilad hwnnw.
Mae’r bont droed wreiddiol yn dal i sefyll, ond mae’r holl strwythurau eraill sydd wedi goroesi i gyd yn dyddio o’r addasiadau ym 1987.
Mae’r pentref yn lle poblogaidd i gerddwyr, beicwyr a theuluoedd. Mae ganddo hefyd gysylltiadau cyfleus â Llwybr Arfordir Gogledd Cymru, gydag opsiynau i archwilio naill ai llethrau’r Carneddau neu i ddilyn llwybr ar hyd glannau’r môr.