Mae’r dref farchnad brysur hon yn ganolbwynt i ffermwyr dyffryn Conwy ac mae’n ganolfan deithio ddelfrydol ar gyfer y mynyddoedd, y llynnoedd a glan y môr.
Adeiladwyd y bont sy’n croesi afon Conwy yn 1636 ac fe’i cynlluniwyd yn ôl pob sôn gan Inigo Jones. Gerllaw mae Tu Hwnt i’r Bont, a oedd yn llys yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg ac sy’n awr yn ystafell de yn perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ailadeiladwyd eglwys plwyf Sant Grwst, sy’n dyddio’n ôl i 1170, yn 1740 ac fe’i hadnewyddwyd yn 1884. Yn amlwg iawn ynddi mae’r groglen dderw wedi’i cherfio’n gain ac oriel cerddor uwchben.
Mae Capel Gwydir gyfagos yn dyddio o ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg ac mae ganddo sawl nodwedd o ddiddordeb hanesyddol, yn cynnwys cofebion i deulu Wynniaid Gwydir, ynghyd ag arch Llywelyn Fawr. Yng Nghastell Gwydir, hen gartref teulu’r Wynniaid, mae ystafell fwyta gyflawn o’r ail ganrif ar bymtheg ble dichon y bu i Siarl I giniawa.
Sefydlwyd yr elusendai sydd wedi’u lleoli ar y lôn o Sgwâr Ancaster i eglwys Sant Grwst gan Syr John Wynn yn 1610. Â’i siopau, bwytai a chaffis lu a’r llwybr hyfryd ar lan yr afon i fynd am dro, mae Llanrwst yn lle perffaith i dorri siwrnai am arhosiad gorffwysol.