Agorwyd gorsaf reilffordd Gogledd Llanrwst yn 1863 fel terminws Rheilffordd Conwy a Llanrwst a gafodd ei gymryd drosodd gan gwmni’r London and North Western Railway yn 1867 a’i ymestyn i Fetws-y-coed yn 1869.
Yn ystod y blynyddoedd yn dilyn hyn, newidiodd enw’r orsaf sawl gwaith. Yn 1884 cafodd ei hailenwi yn Llanrwst a Threfriw yn dilyn agoriad swyddogol llwybr Gower i Drefriw. Mae’r daith gerdded wledig hon o Ogledd Llanrwst i bentref Trefriw tua milltir o hyd ac mae’n croesi pont droed grog drawiadol dros afon Conwy.
Mae Trefriw wedi bod yn adnabyddus ers tro am ei ffynhonnau, a chredir bod gan y dŵr rinweddau therapiwtig. Ffynnodd y pentref yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddaeth yn gyrchfan ffynhonnau poblogaidd yn y cyfnod Fictoraidd.
Mae Trefriw yn dal i ddenu ymwelwyr hyd heddiw diolch i’w leoliad hardd yn Nyffryn Conwy, ei agosrwydd at Barc Cenedlaethol Eryri, a Melinau Gwlân Trefriw, lle mae tecstilau Cymreig traddodiadol yn dal i gael eu cynhyrchu. Mae gan y Felin Ardd Wehyddwyr arbenigol, ac mae gan yr holl blanhigion gysylltiadau gwahanol â thecstilau. Maent wedi’u labelu i ddangos sut maent yn cael eu defnyddio, gan gynnwys planhigion ar gyfer llifo, sebon, a llawer mwy. Mae’r Ardd ar ei gorau rhwng mis Mehefin a mis Medi a gellir ymweld â hi yn ystod oriau agor y siop.
Mae dewis gwych o lwybrau cerdded golygfaol yn Nhrefriw hefyd, gan gynnwys llwybr Rhaeadr y Tylwyth Teg ar afon Crafnant, rhaeadr hardd yng nghanol coetiroedd gwyrdd.
Gorsaf reilffordd Gogledd Llanrwst yw’r unig fan pasio ar Reilffordd Dyffryn Conwy rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog. Mae’r orsaf yn safle ar gais ac mae yma gaban signalau lle mae’n rhaid i’r trenau stopio i gyfnewid tocynnau haearn.