
Gorsaf Pont y Pant, yng nghanol prydferthwch garw dyffryn Lledr, fyddai’r man cychwyn gorau i’r rheini sydd â diddordeb mewn cerdded i dy’r Esgob Morgan, Ty Mawr, eiddo sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol y mae modd mynd ato ar hyd llwybr mynydd uniongyrchol neu lôn goedwigol sy’n gogylchu ac yn haws, er bod y rhan olaf yn dringo’n serth iawn ar i fyny.
Fel dewis arall, trwy ddilyn afon Lledr tua’r gorllewin gellir cyrraedd pentref tawel a digyffwrdd Dolwyddelan.